Ar ddechrau proses cynllunio’r cwricwlwm, pennodd yr ysgol y dylai creadigrwydd o bob math ategu ei ‘Chwricwlwm Ysbrydoli’ (‘Inspire Curriculum’). Ar yr adeg hon, bu’r ysgol yn archwilio cyfleoedd i adeiladu ar gyfoeth y medrau creadigol ymhlith y staff ac yn chwilio am gyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol pellach, fel ymgysylltu â chynllun Yr Ysgol Arweiniol a datblygu medrau staff mewn gwella gallu disgyblion fel dysgwyr annibynnol a hunanymwybodol. Un o gryfderau proses cynllunio’r cwricwlwm yw cynllunio ymholiadau dosbarth gan yr ysgol gyfan o dan dri thestun ymbarél gan ddefnyddio dogfennau dilyniant wedi’u creu gan y clwstwr. Y diwrnodau cynllunio hyn oedd y camau cyntaf mewn datblygu cwricwlwm sy’n sicrhau bod gwybodaeth a medrau yn datblygu’n olynol.
Trwy gynllunio ymholiadau tymhorol gan yr ysgol gyfan, mae athrawon wedi datblygu profiadau dysgu sy’n datblygu gwybodaeth disgyblion am ddiwylliant, celfyddydau a threftadaeth Cymru, a dealltwriaeth disgyblion o amrywiaeth ledled y byd.
Galluogodd y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol i bob aelod o staff weithio gydag ymarferwr creadigol, datblygu eu medrau, a meithrin ymagwedd greadigol at addysgu medrau a gwybodaeth ar draws y cwricwlwm. Datblygwyd hyn ymhellach trwy sesiynau hyfforddi ysgol gyfan yn gysylltiedig â thueddiadau Cyngor Celfyddydau Cymru, ‘Olwyn Arferion Creadigol y Meddwl’. Galluogodd y sesiynau hyfforddi hyn i staff ddatblygu medrau yn ymwneud â phob prosiect hefyd, er enghraifft printio sgrin, ffeltio, celf amgylcheddol, drama, ysgrifennu caneuon a chreu ffilmiau. Er enghraifft, bu disgyblion ym Mlwyddyn 2 yn gweithio gydag arlunydd tecstilau i ddatblygu eu medrau llythrennedd a llafaredd, tra’n gwella’u lles, codi ymwybyddiaeth am fwlio ac yn archwilio neges wrthfwlio’r ysgol, hefyd. Arddangoswyd hyn mewn oriel ym Mae Caerdydd am nifer o wythnosau.
Er mwyn cynorthwyo disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol ac uchelgeisiol, datblygodd yr ysgol ardaloedd her ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 3 i Flwyddyn 6. Mae’r ardaloedd hyn yn galluogi disgyblion i gymhwyso’u medrau meddwl a chreadigol mewn gwahanol gyd-destunau. Er enghraifft, creu cwestiynau ‘beth os….’, dylunio a chreu cynhyrchion o wahanol ddeunyddiau ac ysgrifennu’n ddychmygus gan ddefnyddio gwahanol symbyliadau. Caiff y gweithgareddau hyn effaith fuddiol ar fedrau, gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion.