Arfer Effeithiol |

Datblygu arweinyddiaeth ar bob lefel er lles addysgu

Share this page

Nifer y disgyblion
393
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad

 

Gwybodaeth am yr Ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Castell-nedd yn ysgol benodedig Gymraeg sy’n gwasanaethu tref Castell-nedd a’r pentrefi cyfagos yn awdurdod lleol Nedd Port Talbot.

Mae 312 o ddisgyblion amser llawn yn yr ysgol, ac 81 o oed meithrin, rhan-amser.  Addysgir y disgyblion mewn wyth dosbarth yn y Cyfnod Sylfaen a chwech dosbarth yng nghyfnod allweddol 2 a chyflogir 14 athro, gan gynnwys y pennaeth.  Daw 72% o'r disgyblion o gartrefi lle mai Saesneg yw'r brif iaith.  Daw’r gweddill yn bennaf o gartrefi lle siaredir y Gymraeg fel prif iaith.  Ychydig iawn o’r disgyblion sy’n hanu o gefndir ethnig ac mae 11% o'r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, sy’n is na'r cyfartaledd cenedlaethol.

Ar hyn o bryd, mae 11% ar y gofrestr anghenion addysgol ychwanegol a does dim un disgybl â datganiad o anghenion addysgol.

Penodwyd y pennaeth i’w swydd ym mis Medi 2006. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae gan y pennaeth, y dirprwy bennaeth, yr uwch dîm rheoli a chorff llywodraethu’r ysgol weledigaeth a strategaeth glir ar gyfer gwella. Eu nod yw datblygu’r ysgol yn gymuned ofalgar sy’n gosod y plant yn ei chanol, a “rhoi cyfle i bob plentyn lwyddo”, sef arwyddair yr ysgol.  Mae uchelgais strategol yr ysgol yn canolbwyntio ar welliannau a chodi safonau.  Mae’r weledigaeth hon yn gwbl hysbys i holl randdeiliaid yr ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ceisia’r pennaeth greu a chynnal strwythur ysgol gyfan sy’n gwahaniaethu’n glir rhwng arweinyddiaeth a rheolaeth.  Mae hyn, yn ei dro, yn annog arweinyddiaeth addas ar bob lefel ar draws yr ysgol.  Mae galluogi pobl i lunio penderfyniadau, mewn modd proffesiynol, yn gwbl greiddiol i lwyddiant y strwythur. 

Mae’r penaethiaid uned ac aelodau’r uwch dîm rheoli yn gweithredu’n effeithiol ar draws yr ysgol: maent yn dîm o weithwyr cydwybodol a brwdfrydig, sy’n arwain trwy esiampl.  Mae'r model hwn yn galluogi'r pedwar pennaeth uned, sydd â chyfrifoldeb dros dri neu bedwar dosbarth yr un, i fod yn hygyrch i'r holl staff, yn arbennig felly, y staff o fewn eu hunedau penodol nhw.  Maent wedi eu grymuso i gynnal eu hunedau yn hynod effeithiol.  Mae hyn, felly, yn annog ymagwedd a mewnbwn uniongyrchol ganddynt o ran materion sy’n ymwneud â gwella’r ysgol.  Maent yn monitro ansawdd y dysgu a’r addysgu wrth wirio cynlluniau tymor hir a byrdymor athrawon, trafod gyda dysgwyr a monitro llyfrau gwaith disgyblion.  Maent yn paratoi adroddiadau sy’n deillio o’r monitro, gan amlinellu cryfderau ac ardaloedd ar gyfer datblygu, ynghyd â nodi’r camau sydd angen er mwyn gwella.  Hwy sydd hefyd yn bennaf gyfrifol am fentora athrawon newydd gymhwyso, a hynny mewn modd effeithiol a sensitif. 

Mae’r ysgol yn amserlennu dau ddiwrnod digyswllt yr un bob tymor i bob pennaeth uned.  Mae hyn yn caniatáu iddynt arsylwi ar athrawon eraill yr unedau wrth eu gwaith, ac yn rhoi cyfle iddynt gynnig cymorth, arweiniad a hyfforddiant uniongyrchol iddynt ar lawr y dosbarth.  Mae hyn ar wahân i’w rôl monitro a herio.  Yn dilyn yr arsylwad, gosodir targedau cyraeddadwy i bob athro, ac o fewn tair wythnos, trefnir ail-ymweliad er mwyn sicrhau bod pob athro wedi gweithredu arnynt, a bod gwelliannau mewn lle. 

Mae gan aelodau’r uwch dîm rheoli ddisgwyliadau uchel iawn o’r staff ac mae ethos yr ysgol yn sicrhau bod y rhan ddeiliaid i gyd yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.  Mae’r arweinwyr yn rhannu eu disgwyliadau’n effeithiol mewn cyfarfodydd gwella ysgol, yn ogystal â thrwy’r broses rheoli perfformiad.  Mae’r ysgol yn gweithredu rhaglen reoli perfformiad lawn i’r cynorthwywyr addysgu yn ogystal â’r athrawon, ac yn ymateb yn briodol i’w hanghenion hyfforddi.  Mae aelodau’r uwch dîm rheoli yn cwrdd yn wythnosol i drafod materion sy’n cynnwys diweddariad o’r cynnydd yn erbyn blaenoriaethau’r cynllun gwella ysgol, materion hunanwerthuso, trafod adroddiadau monitro mewnol, yn ogystal â dadansoddi data a meincnodi.  Maent yn dadansoddi data yn effeithiol er mwyn adnabod cryfderau, gwendidau, ardaloedd ar gyfer datblygu a gosod targedau ar gyfer gwelliant.

Mae cyfarfodydd uned rheolaidd yn rhan annatod o’r rhaglen hyfforddiant mewn swydd: darparant gyfleoedd i bedwar grŵp o’r gweithlu i drafod materion sy’n fwy penodol i’w sefyllfaoedd dysgu nhw, ar wahân.  Mae’r materion maent yn eu trafod yn cynnwys cynllunio cwricwlaidd, strategaethau dysgu ac addysgu a safoni gwaith dysgwyr.  Yn eu tro, rhennir canfyddiadau’r cyfarfodydd hyn gydag aelodau eraill yr uwch dîm rheoli yn eu cyfarfodydd wythnosol.

Mae arweinwyr yr ysgol yn rhoi blaenoriaeth uchel i ddatblygu’r gweithlu: mae rheoli perfformiad a datblygiad proffesiynol yn llwyddiannus iawn o ran meithrin ymarfer effeithiol ac wrth ddelio â thanberfformiad.  Mae cylch monitro a hunanwerthuso chwe thymor cynhwysfawr yn bodoli ar draws yr ysgol.  Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar safonau dysgwyr ac ansawdd yr addysgu.  Defnyddir ystod eang o dystiolaeth wrth ddod o hyd i farnau: craffu ar lyfrau a phlygellau technoleg gwybodaeth a thechnoleg, staff yn arsylwi ar wersi ei gilydd mewn triawdau, siarad â’r dysgwyr, cynllunio cwricwlaidd yr athrawon, cwblhau rhaglen olrhain cynnydd, ac ati.  Mae’r broses wedi arwain at awyrgylch cwbl agored ble mae pawb yn parchu sylwadau ei gilydd ac yn adeiladu ar eu harfer blaenorol er mwyn sicrhau gwelliant yn eu haddysgu.  

Mae gan aelodau’r corff llywodraethu, yn ogystal, ddealltwriaeth gadarn o ofynion codi safonau’r dysgu ac ansawdd yr addysgu o fewn yr ysgol.  Mae eu rolau a’u cyfrifoldebau yn glir.  Maent yn gwbl gyfarwydd â pherfformiad cyfredol yr ysgol ac yn cyfrannu’n wybodus ac yn hyderus at drafodaethau sy’n ymwneud â datblygiad yr ysgol.  Mae gan bob llywodraethwr (mewn parau) gyfrifoldeb dros agweddau penodol o’r cynllun gwella ysgol (CGY).  Maent yn cwrdd yn dymhorol ag aelodau’r uwch dîm rheoli sydd â chyfrifoldeb dros dargedau’r CGY.  Mae’r llywodraethwyr yn eu tro yn cynnig adborth cynhwysfawr i’r corff llawn, yn seiliedig ar y drafodaeth a gafwyd. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r gweithgareddau hyn wedi gosod cyfeiriad strategol clir i waith yr ysgol.  Mae’r strwythur yn dynn, yn effeithiol, a bellach wedi’i sefydlu’n gadarn.  Mae’r cyfan yn cyfrannu’n effeithiol at y cysondeb sy’n bodoli yn y ddarpariaeth ar draws yr ysgol, a’r gweithdrefnau cyfathrebu eglur sy’n bodoli rhwng yr holl staff. 

Mae targedau diweddaraf yr ysgol ar gyfer y tair blynedd nesaf yn disgwyl bod y deilliannau ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 2 yn parhau i wella. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn ‘Ysgol Arloesi Y Fargen Newydd’, dan nawdd Llywodraeth Cymru.  Mae’r pennaeth eisoes wedi rhannu ei athroniaeth ynglŷn â strwythur arweinyddiaeth ei ysgol gyda holl benaethiaid y clwstwr lleol o ysgolion, yn ogystal ag annerch Cynhadledd Genedlaethol i Ysgolion Arloesi, a drefnwyd gan y consortiwm rhanbarthol.

Mae’r ysgol hefyd yn rhan o rwydwaith Ysgolion Dysgu Proffesiynol y consortiwm rhanbarthol/ Prifysgol Y Drindod Dewi Sant.  Ei hardal o arbenigedd yw arweinyddiaeth.  Disgwylir i’r ysgol barhau i ddatblygu ei harfer dda; i rannu ei harfer dda gydag ysgolion eraill; i ddatblygu staff fel hyfforddwyr neu fentoriaid; ac i sefydlu ei hun fel Canolfan Rhagoriaeth. 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg yng nghyfnod allweddol 2

pdf, 1.25 MB Added 13/07/2017

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth ym mhynciau gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg y Cwricwlwm Cenedlaethol yng nghyfnod allweddol 2 mewn ysgolion cynradd yng ...Read more