Arfer Effeithiol |

Datblygu annibyniaeth yn ifanc trwy gymryd risgiau dan reolaeth

Share this page

Nifer y disgyblion
23
Ystod oedran
2-4
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Canolfan Deuluol Drws Agored wedi’i chofrestru i ofalu am 19 o blant rhwng dwy a phedair oed ar unrhyw adeg benodol.  Cynhelir sesiynau Dechrau’n Deg ar gyfer plant dwy flwydd oed rhwng 9.00am ac 11.30am bum bore’r wythnos yn ystod y tymor, ac am bythefnos yn ystod gwyliau’r haf.  Cynhelir sesiynau’r cyfnod sylfaen ar gyfer plant tair oed rhwng 12.30pm a 3.00pm o ddydd Llun i ddydd Iau bob wythnos.

Mae’r lleoliad ar safle Ysgol Yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng yn Oldford ym Mhowys.  Ceir lefelau sylweddol o amddifadedd yn yr ardal.  Mae lleiafrif o blant yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Sefydlwyd Canolfan Deuluol Drws Agored gan grŵp o wirfoddolwyr fel grŵp rhieni a phlant bach ym   1993, ac mae wedi datblygu o hyn.  Mae iddi ethos cariadus a meithringar a’i nod yw darparu cyfleoedd effeithiol i blant chwarae a dysgu mewn amgylchedd hapus a diogel.   

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae plant yng Nghanolfan Deuluol Drws Agored yn datblygu eu medrau dysgu annibynnol yn eithriadol o dda.  Maent yn dysgu gwneud eu penderfyniadau eu hunain, yn rhoi cynnig ar brofiadau gwahanol ac yn mentro’n gynyddol hyderus.  Mae ymarferwyr yn deall pryd i ymyrryd a phryd i sefyll yn ôl a rhoi amser i blant ystyried eu penderfyniadau ynglŷn â mentro.  Mae hyn yn eu cynorthwyo’n eithriadol o effeithiol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r holl ymarferwyr yn deall pa mor bwysig yw hi i annog plant i fod yn ddysgwyr annibynnol, a datblygu eu gwydnwch a’u hyder trwy wneud eu penderfyniadau eu hunain a mentro.  Mae hyn yn sicrhau dull hynod gyson sy’n datblygu medrau plant yn effeithiol.  Mae arweinwyr yn cynnal asesiad risg gofalus sy’n nodi peryglon posibl a sut i’w goresgyn.  Mae hyn yn creu amgylchedd diogel ac yn rhoi hyder i ymarferwyr alluogi plant i roi cynnig ar bethau yn annibynnol.  Mae ymarferwyr yn siarad â phlant am yr offer yn y lleoliad, ac yn archwilio sut i’w defnyddio’n ddiogel gyda nhw.  Mae hyn yn helpu plant i ddysgu cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain, a mentro’n ofalus.  Mae arweinwyr yn ystyried pa adnoddau i’w darparu’n ofalus er mwyn herio plant yn effeithiol.  Mae enghreifftiau yn yr ardal awyr agored yn cynnwys boncyffion camu sy’n cynyddu mewn uchder, blociau mawr, rampiau, teiars ac offer balansio.  Mae ymarferwyr yn cynorthwyo plant yn fedrus wrth iddynt eu hannog i ddefnyddio’r rhain.  Maent yn gofalu eu bod yn rhoi digonedd o amser a lle i blant roi cynnig ar bethau, ac nid ydynt yn ymyrryd oni bai ei bod yn bwysig gwneud hynny.  Pan fydd yn briodol, maent yn defnyddio iaith anogol i ennyn hyder plant.  O ganlyniad, mae plant yn dysgu goresgyn eu hofnau ac yn profi ymdeimlad cryf o gyflawni.  Mae hyn yn datblygu eu hyder a’u hymdeimlad o hunan-werth yn eithriadol o effeithiol, yn ogystal â datblygu medrau corfforol pwysig fel eu synnwyr o falans.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau plant?

Mae bron pob un o’r plant yn symud o gwmpas y lleoliad yn rhwydd ac yn gwneud dewisiadau cryf ynglŷn â’r hyn mae arnynt eisiau ei wneud.  Maent yn magu hyder pan fyddant yn mentro ac yn llwyddo.  Maent yn datblygu eu hunan-barch, eu gallu i ddatrys problemau a’u gwydnwch yn effeithiol, ac o ganlyniad, maent yn dysgu dyfalbarhau pan fyddant yn gweld tasgau’n anodd.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae Canolfan Deuluol Drws Agored yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i rannu ei harfer dda.  Mae’r awdurdod lleol yn rhannu’r wybodaeth hon gyda phobl eraill trwy ddigwyddiadau rhwydweithio.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Arfer Effeithiol |

Arwain y ffordd i strategaethau newydd

Cydweithiodd arweinwyr yng Nghanolfan Deulu Drws Agored â’i gilydd i sefydlu rolau rheoli clir a strategaethau newydd. ...Read more