Nod y cwricwlwm yw darparu ystod eang o brofiadau ar gyfer yr holl ddisgyblion; mae hyn yn cynnwys gwyddoniaeth/gwyddorau triphlyg / ar wahân, tair iaith ryngwladol mewn TGAU (Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg), yn ogystal â blaenoriaethu pynciau lleiafrifol fel drama, cerddoriaeth a thecstilau ffasiwn. Mae’r ysgol yn darparu cyrsiau galwedigaethol fel lletygarwch ac arlwyo, peirianneg ac addysg yn yr awyr agored yn fewnol i ddisgyblion.
Yn ogystal â’r ystod eang o bynciau mewnol a gynigir, mae’r ysgol yn gweithio’n effeithiol gyda phartneriaethau lleol i alluogi disgyblion i astudio cyrsiau ymarferol eraill fel gwasanaethau salon, adeiladu, byw yn y gwyllt ac uwchgylchu. Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae’r ysgol wedi datblygu partneriaeth gref gydag Ysgol y Gogarth, yr ysgol arbennig leol. Mae myfyrwyr YJB yn elwa ar gyfleoedd i ddilyn cyrsiau dydd galwedigaethol lefel mynediad yn Ysgol y Gogarth, tra bod YJB yn cynnal dosbarth amser llawn ar y safle ar gyfer disgyblion Ysgol y Gogarth, gan alluogi’r dysgwyr hyn i fanteisio ar gwricwlwm teilwredig wedi’i gymryd o blith y gyfres lawn o gyrsiau sydd ar gael yng nghyfnod allweddol 4.
Yn y sector ôl-16, mae’r ysgol yn darparu ystod o 40 o gyrsiau lefel 3. Mae hefyd yn gyfrannwr allweddol at y bartneriaeth 6ed dosbarth leol (LINC Conwy) lle mae disgyblion o ysgolion eraill yn mynychu ar ddydd Mercher i astudio addysg awyr agored, tecstilau ffasiwn a gwyddorau meddygol ar y safle yn YJB. Yn y sector ôl-16, mae’r ysgol yn pennu amser ac adnoddau ‘cwricwlaidd gwych’ dynodedig ar gyfer myfyrwyr i atgyfnerthu eu ceisiadau prentisiaeth a phrifysgol. Mae nifer o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth yn dilyn pecynnau cyfunol sy’n cynnwys lleoliadau gwaith estynedig mewn ysgolion, milfeddygfeydd ac elusennau lleol.
Mae’r ysgol yn gweithio’n fwriadol i annog disgyblion sy’n cael eu heffeithio gan dlodi i ymgysylltu yn ehangder y profiadau dysgu sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys gwersi cerddoriaeth ac actio unigol yn rhad ac am ddim, sy’n arwain at gymwysterau cenedlaethol cydnabyddedig. Yn ychwanegol, mae’r ysgol yn darparu cyllid i sicrhau bod cymorthdaliadau ar gyfer tripiau neu dripiau am ddim i rai disgyblion, fel tripiau am ddim i weld cynyrchiadau opera yn y theatr leol. Mae cyfleoedd hefyd i staff gyfeirio disgyblion at ddarpariaeth Gwobr Dug Caeredin yr ysgol a fyddai’n elwa ar y profiad ond efallai ddim yn meddwl cofrestru.