Arfer Effeithiol |

Cynyddu medrau llythrennedd o oed ifanc

Share this page

Nifer y disgyblion
52
Ystod oedran
3-4
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Feithrin Brynteg yn feithrinfa arunigol a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ym mhentref Abersychan, ger Pont-y-pŵl, yn Nhorfaen, De Cymru.  Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardal eang ac, ar hyn o bryd, mae 52 o ddisgyblion ar y gofrestr, bob un ohonynt rhwng tair a phedair oed.  Mae plant yn mynychu’n rhan-amser, ac eithrio nifer bach iawn sy’n bodloni meini prawf yr awdurdod lleol ar gyfer lleoliad amser llawn.  Saesneg yw mamiaith yr holl blant.  Mae’r ysgol yn cyflogi dau athro amser llawn (y pennaeth a’r pennaeth cynorthwyol), ac un aelod staff cynorthwyol amser llawn a thri rhan-amser. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Ers yr arolygiad blaenorol yn 2012, y meysydd â blaenoriaeth ffocws uchel i’w datblygu fu hyfforddiant staff, adnoddau a gwneud gwelliannau pellach er mwyn datblygu medrau llythrennedd disgyblion a dealltwriaeth eu rhieni o’r ffordd y mae ysgolion yn addysgu medrau llythrennedd yn ystod y blynyddoedd cynnar. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r feithrinfa’n rhoi statws uchel i ysgrifennu ac mae plant yn cynhyrchu gwaith ysgrifenedig yn ystod y rhan fwyaf o weithgareddau.  Mae ymarferwyr hynod fedrus Brynteg yn gwybod ei bod hi’n hanfodol i ysgrifenwyr cynnar gael cyfle i ddefnyddio ysgrifennu at ddiben yn “eu byd”, dan do ac yn yr awyr agored.  Er mwyn datblygu eu medrau ysgrifennu, mae ymarferwyr o’r farn ei bod hi’n bwysig iddynt roi cyfle i bob disgybl ysgrifennu at amrywiaeth o ddibenion, yn Gymraeg a Saesneg.  Mae cynllunio bwriadus, sy’n ymgorffori asesu, yn caniatáu i blant gyfrannu’n nerthol at eu dysgu eu hunain a dod yn ddysgwyr hynod annibynnol, nad oes ofn arnynt gymryd risgiau ac sy’n dysgu o’u camgymeriadau. 

Mae ymarferwyr yn credu’n angerddol ei bod hi’n hanfodol canolbwyntio ar ddatblygu a gwerthfawrogi medrau ysgrifennu hanfodol yn gynnar er mwyn sicrhau y bydd plant yn ysgrifenwyr brwdfrydig gydol eu hoes.  Mae plant yn datblygu eu medrau echddygol bras trwy weithgareddau ymarferol a synhwyrol fel ‘disgo toes’ a gweithgareddau’r synhwyrau, ar raddfa fawr, i wneud marciau, gan ddefnyddio amrywiaeth fawr o adnoddau fel ffyn rhubanau, ewyn eillio, cribiniau tywod, iâ, glŵp ac ati.  Mae ymarferwyr yn pwysleisio pwysigrwydd datblygu’r medrau hyn i rieni a gofalwyr.  Trefnant weithdai i alluogi rhieni i ddeall athroniaeth datblygiad medrau cynnar.  Mae’r cyfleoedd hyn yn datblygu hyder y plant wrth iddynt archwilio adnoddau ysgrifennu mwy ffurfiol ar yr adeg briodol yn eu taith ddatblygu unigol.  Pan fydd plant yn adnabod eu hunain fel ysgrifenwyr (h.y. mae eu medrau cyn-ysgrifennu wedi’u gwreiddio’n gadarn), cânt eu hysbrydoli i ysgrifennu at amrywiaeth o ddibenion yn holl feysydd y ddarpariaeth. 

Nid yw ysgrifennu’n digwydd yn un rhan benodol o’r feithrinfa, mae’n bresennol ym mhob rhan; er enghraifft, taflenni cynllunio yn ardal y blociau adeiladu.  Mae’r plant yn ysgrifennu labeli fel arwyddion neu fwydlenni yn yr ardaloedd chwarae rôl yn y feithrinfa.  Hefyd, mae plant yn labelu arddangosfeydd ac yn ysgrifennu eu henw eu hunain ar eu darnau gwaith unigol ar gyfer arddangosfeydd.  Rôl ymarferwyr yw sicrhau eu bod yn cyflwyno amrywiaeth eang o gyfleoedd ysgrifennu a gwneud marciau i blant eu harchwilio’n annibynnol.  

Mae arsylwadau’n amlygu bod plant yna’n rhoi gwerth arnynt eu hunain fel ysgrifenwyr ac yn gallu darllen y testun maen nhw wedi’i ysgrifennu yn hyderus.  Mae ymarferwyr yn rhwymo storïau sydd wedi’u hysgrifennu gan blant yn briodol, gan roi statws uchel iddynt ac mae’r rheiny, yn eu tro, yn llunio rhan o ddeunyddiau darllen y feithrinfa, gyda phlant yn eu darllen yn annibynnol a staff yn eu darllen i’w cyfoedion.  Mae plant yn disgrifio’u hunain yn awduron, gan ddeall eu bod yn gwneud gwaith pwysig a gwerthfawr pan fyddant yn ysgrifennu storïau, y gallant eu rhannu gydag eraill.  

Bob dydd, mae ymarferwyr yn arsylwi’n fanwl y camau yn nhaith pob plentyn at ddod yn ysgrifennwr ac maent yn rhoi her a chymorth priodol lle bo’r angen.  Mae staff yn rhannu eu harsylwadau yn ystod sesiynau cynllunio myfyriol ac ymatebol dyddiol.  Mae’r feithrinfa yn cynllunio ac yn darparu adnoddau ar gyfer y camau nesaf mewn dysgu plant ar sail y cyfarfodydd hyn, ac mae’n hyblyg er mwyn cyfrif am anghenion/diddordebau presennol. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae llawer o blant yn dechrau yn y feithrinfa gyda medrau sydd ar y lefel ddisgwyliedig i’w hoedran, neu islaw’r lefel honno.  Mae’r feithrinfa wedi datblygu system asesu ac olrhain drylwyr sy’n canolbwyntio ar fedrau’r cwricwlwm a’r fframwaith llythrennedd a rhifedd.  Mae arweinwyr yn casglu ac yn dadansoddi’r data hwn bob tymor, o ddyddiad cychwyn y plentyn.  Mae’r dadansoddiad hwn yn dangos bod y rhan fwyaf o blant yn gwneud cynnydd cadarn iawn ar y cyfan yn ystod eu cyfnod yn y feithrinfa.  Mae dadansoddi data bob tymor yn dylanwadu ar gynllunio ac yn galluogi ymarferwyr i ganolbwyntio ar feysydd penodol o ddatblygu medrau.

Mae plant yn Ysgol Feithrin Brynteg yn siaradwyr hyderus, yn cymryd rhan mewn sgyrsiau gydag eraill gan ddefnyddio ystod eang o eirfa, ac yn gwrando’n dda ar oedolion a phlant eraill.  Mae eu medrau meddwl a datrys problemau yn datblygu’n dda ac maent yn eu defnyddio’n annibynnol yn eu chwarae.  Mae ganddynt yr hyder i ‘roi cynnig ar’ ysgrifennu ac mae ymarferwyr yn gwerthfawrogi eu hymdrechion.  Gwna’r rhan fwyaf o ddisgyblion gynnydd rhagorol wrth ddatblygu eu medrau ysgrifennu.  Mae plant yn gwneud marciau gan ddal pensil yn gywir ac yn ymdrechu i sillafu geiriau anodd fel ‘strawberry’ a ‘butterfly’ yn hyderus, gan ddefnyddio’u medrau ffonig.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r feithrinfa wedi rhannu’r arfer dda hon gydag ymarferwyr o bedwar awdurdod cyfagos, trwy gynnal cyfres o ddiwrnodau agored.  Mae wedi’i chynnwys hefyd yn hyfforddiant ‘Communication Matters’ y consortiwm rhanbarthol.  Fel rhan o’r cwrs hwn, mae’r mynychwyr yn treulio diwrnod yn y feithrinfa yn cyflawni arsylwadau â ffocws, ac yn cael cyfraniadau / yn cymryd rhan mewn trafodaeth broffesiynol gan y staff addysgu.  Yn ogystal, mae staff wedi cyflwyno sesiynau fel rhan o hyfforddiant modiwl Cyfnod Sylfaen y consortiwm rhanbarthol ar Ddysgu trwy Brofiad.  Mae’r feithrinfa wedi llunio portffolio safonedig o wneud marciau, sy’n cynnwys enghreifftiau o ansawdd da o waith ym mhob cam datblygiadol.  Mae’r feithrinfa wedi rhannu hwn gydag ysgolion/lleoliadau eraill yn ystod hyfforddiant.

Mae ymarferwyr yn rhannu gwybodaeth am gynnydd y plant wrth ddatblygu medrau gyda’u rhieni ac yn trosglwyddo gwybodaeth berthnasol i’r ysgolion cynradd y mae’n eu cyflenwi yn gynnar yn ystod tymor yr haf, trwy gyfarfodydd wyneb yn wyneb a sesiynau arsylwi yn y feithrinfa.  Hefyd, mae’n rhannu’r holl ddata asesu cyfredol gyda rhieni ac ysgolion pontio.  

 
 
 

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol