Arfer Effeithiol |

Cynnwys pob rhanddeiliad wrth nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella’r ysgol

Share this page

Nifer y disgyblion
167
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Llanrhidian wedi’i lleoli yn ardal hyfryd Penrhyn Gŵyr, tua 6 milltir o Ddinas Abertawe.  Mae Ysgol Llanrhidian yn gwasanaethu ardal fawr o Ogledd Orllewin Gŵyr.  Mae’r ysgol o fewn ardal ddynodedig o harddwch naturiol eithriadol ac mae gerllaw’r arfordir treftadaeth.  Mae llawer o’r plant yn cyrraedd ar y bws o ardal Llangynydd a Llanmadog.  Ar hyn o bryd, daw bron i hanner y disgyblion o’r tu allan i’r dalgylch.  Ceir 168 o ddisgyblion ar y gofrestr, wedi’u trefnu’n 5 dosbarth.  Mae 17% o ddisgyblion wedi’u dynodi gan yr ysgol ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol ar hyn o bryd.  Dros y tair blynedd diwethaf, rhyw 3% yw nifer gyfartalog y disgyblion sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, sydd ymhell islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 19%.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Ers yr arolygiad blaenorol ym Mawrth 2010, fe wnaeth y pennaeth a thîm rheoli’r ysgol gydnabod yr angen i wella’r systemau hunanarfarnu ymhellach er mwyn ysgogi gwelliant yn yr ysgol.  Nododd yr ysgol yr angen i ystyried amrywiaeth eang o wybodaeth, ac i gynnwys yr holl randdeiliaid wrth nodi ac arfarnu blaenoriaethau’r ysgol.  O ganlyniad, mae Ysgol Gynradd Llanrhidian wedi bod ar daith i ddatblygu diwylliant o hunanarfarnu trylwyr a pharhaus yn canolbwyntio’n gadarn ar wella deilliannau mewn safonau a lles ar gyfer pob disgybl.

Ategir y prosesau a fireiniwyd gan gyfranogiad pob aelod o staff, y mae pob un ohonynt yn teimlo’n rhan o broses wella’r ysgol.  Mae systemau yn glir, yn dryloyw ac yn datblygu i ddiwallu anghenion presennol yr ysgol.  Ceir dymuniad gwirioneddol ymhlith yr holl staff i sicrhau rhagoriaeth, ac maent yn cadw at gynllun monitro blynyddol sy’n amlinellu atebolrwydd a disgwyliadau sylfaenol yn glir.  Mae’r systemau monitro wedi’u mireinio er mwyn lleihau’r llwyth gwaith, eto maent yn darparu gwybodaeth amhrisiadwy sy’n cael ei rhannu fel rhan o’r drefn arferol ar lefel unigolyn, ysgol gyfan a chorff llywodraethol.  Mae defnydd rhagorol o dechnoleg yn galluogi rhannu dogfennau a’u diweddaru ar y cyd, gan ddarparu adborth ffurfiannol i staff a chyfleoedd uniongyrchol i newid a gwella.  Mae cyflymder y prosesau i nodi meysydd i’w gwella a gweithredu newid yn allweddol i lwyddiant yr ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae systemau olrhain disgyblion effeithiol yr ysgol wedi cael eu gwella’n barhaus i sicrhau arfarnu cynnydd pob disgybl yn rheolaidd a thrwyadl.  Ategir y systemau hyn gan weithdrefnau asesu cyson a chywir ar draws yr ysgol.  Rhoddir gwybodaeth gyson i lywodraethwyr, a chânt ddata am gynnydd disgyblion bob tymor, gan alluogi her effeithiol â ffocws gan yr is-bwyllgor safonau.  Cesglir data ffurfiannol yn erbyn holl fedrau’r cwricwlwm cenedlaethol drwy offeryn cynllunio ac asesu effeithiol ar-lein.  Mae hyn yn galluogi monitro ymdriniaeth o’r cwricwlwm a safonau mewn unrhyw faes dysgu, unrhyw garfan neu fesul unigolyn yn effeithiol iawn.  Hefyd, mae’r system olrhain yn arfarnu lles disgyblion drwy hunanasesiadau disgyblion, arsylwadau athrawon a data byw a chyfredol i nodi disgyblion sydd mewn perygl ac effaith ymyriadau lles.  Mae gwybodaeth o’r fath yn darparu data ar les yr ysgol gyfan hefyd er mwyn nodi gofynion hyfforddi a datblygu i’r staff ac i deilwra ymyriadau cymorth disgyblion a darpariaeth.

Mae monitro gwaith disgyblion yn systematig, ochr yn ochr ag adolygiadau o wersi, wedi cynorthwyo’r ysgol i nodi arfer y mae’n werth ei rhannu, yn ogystal â meysydd i’w gwella.  Mae athrawon wedi mireinio ymagwedd cymheiriaid, sef Cynllunio, Arsylwi, Trafod, at ddatblygu eu haddysgu eu hunain, a ategir gan Bolisi Addysg ar gyfer Dysgu’r ysgol a gaiff ei ddiweddaru’n rheolaidd.  Caiff hyn effaith gadarnhaol ar yr ymagwedd gyfunol at addysgu, ac mae wedi creu cysondeb ar draws yr ysgol.  Mae diwylliant o hunanwella wedi’i ymgorffori, lle mae athrawon yn hyderus i gymryd risgiau a rhoi cynnig ar syniadau newydd.  Caiff hyn effaith gadarnhaol ar safonau, cyflymder cynnydd disgyblion ac wrth ddatblygu cwricwlwm dilys a chreadigol.  Mae’r adborth i staff yn effeithiol ac wedi’i ddatblygu i fod ar ffurf naratif trwy bedwar maes (SOAP):

• Cryfderau
• Cyfleoedd i rannu
• Meysydd i’w datblygu ymhellach
• Addysgeg – dulliau ac arfer effeithiol

Mae gwerthfawrogi a gweithredu ar farnau rhanddeiliaid wedi gwella diwylliant gwella’r ysgol yn Llanrhidian.  Cesglir dadansoddiadau arferol o farnau rhanddeiliaid drwy holiaduron ar-lein yr ysgol, ‘Fy Llais I’.  Caiff y gyfryw wybodaeth ei hystyried, a’i rhannu’n ôl gyda’r rhanddeiliaid trwy gylchlythyrau, adroddiadau’r corff llywodraethol a ffrwd Twitter yr ysgol (#Llanimp). Yn ogystal, mae’r ysgol yn cynnal ‘diwrnod datblygu ysgol’ llwyddiannus i rieni bob hydref.  Mae niferoedd da yn mynychu’r diwrnod hwn, ac mae rhieni yn cynnig eu barnau ar gryfderau’r ysgol a meysydd i’w datblygu.  Mae grwpiau llais disgyblion yn gweithio ochr yn ochr â rhieni yn y digwyddiad hwn, gan drafod targedau’r ysgol a chamau gweithredu yn y dyfodol.  O ganlyniad, mae’r ysgol wedi ymateb i faterion ac mae rhieni’n teimlo bod eu barnau yn cael ystyriaeth dda.

Cynigir nifer o gyfleoedd i ddisgyblion wella eu hysgol a chael dweud eu dweud yn Llanrhidian.  Er enghraifft, ymgymerodd y ‘Rhyfelwyr Lles’ / ‘Wellbeing Warriors’ â’r cyfrifoldeb o ddatblygu polisi gwrthfwlio ystyriol o blant, a chefnogi disgyblion eraill a oedd â phryderon neu ofidiau.  Roedd y ddau faes hyn wedi’u nodi’n flaenorol trwy ddadansoddiad o ddata lles.  Mae disgyblion yn rhannu eu barnau drwy ystod o fformatau ag arweinwyr a llywodraethwyr, ar draws yr ysgol.  Gwerthfawrogir eu llais gan bawb, ac ymddiriedir yn y disgyblion i nodi gwelliant, mynd i’r afael â gwelliant a’i arfarnu gymaint ag y bo modd.  Er enghraifft, mae disgyblion yn rhedeg siop deunydd ysgrifennu a banc ysgol, yn cynnal stondinau ym mhob digwyddiad ac yn cyflwyno arfarniad o’r cynllun datblygu ysgol sy’n ystyriol o blant i’r llywodraethwyr yn flynyddol.

Nid yw mathau penodol o fonitro yn digwydd ar eu pennau’u hunain yn Llanrhidian.  Er enghraifft, bydd sesiwn craffu ar waith disgyblion yn ystyried tystiolaeth o wrando ar ddysgwyr ac yn dadansoddi cynlluniau dosbarth a data asesu i sicrhau triongli a chywirdeb canfyddiadau.  Cynhelir teithiau dysgu yn aml i gyfnerthu canfyddiadau ac i ymgorffori safbwyntiau o weithgareddau monitro eraill.  Mae hyn yn galluogi staff ac arweinwyr i adnabod yr ysgol mor gywir ag y bo modd.  Y defnydd hwn o ddata a gwybodaeth gyfredol, gan bob un o’r staff, yw’r allwedd i welliant ysgol llwyddiannus a chyflym yn Llanrhidian. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

• Defnyddir gwybodaeth a gesglir o’r prosesau hunanarfarnu yn effeithiol i bennu blaenoriaethau ar gyfer gwella sy’n diwallu anghenion disgyblion yn gywir
• Mae systemau monitro yn sicrhau bod targedau rheoli perfformiad yn cyfateb yn dda i anghenion y staff, ac maent yn effeithio’n gadarnhaol ar safonau ar draws yr ysgol
• Mae olrhain lles disgyblion yn amserol wedi effeithio’n gadarnhaol ar agweddau at ddysgu, strategaethau ymdopi a lles cyffredinol disgyblion
• Mae adborth o fonitro cynlluniau athrawon, gwaith disgyblion a gwersi yn cael effaith ar ansawdd yr addysgu ar draws yr ysgol, yn enwedig o ran deall a nodi rhagoriaeth
• Mae mwy o gyfleoedd i wrando ar ddysgwyr wedi grymuso disgyblion i yrru newid yn eu hysgol
• Mae holiaduron yn dangos bod rhieni yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi o ganlyniad i rannu gwybodaeth a chyfleoedd i ddweud eu dweud

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae perthnasoedd gweithio agos gan yr ysgol â nifer o ysgolion ar draws yr awdurdod lleol, ac mae wedi rhannu ei strategaethau llwyddiannus drwy hyfforddiant, ymweliadau ysgol a mentora.  Mae nifer o ysgolion yn defnyddio holiaduron rhanddeiliaid, systemau olrhain, a dogfennau hunanarfarnu’r ysgol. 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol