Arfer Effeithiol |

Cynllunio trylwyr a rolau wedi’u diffinio’n glir yn gwella ansawdd

Share this page

Nifer y disgyblion
56
Ystod oedran
0-5
Dyddiad arolygiad
 
 

Cyd-destyn a chefndir i'r arfer sy'n arwain y sector

Amcan Meithrinfa Seren Fash yw gwella ei darpariaeth yn barhaus. Gwelir ffocws clir ar ddatblygiad i'r dyfodol wrth ystyried anghenion plant ac ymarferwyr. Mae'r Feithrinfa'n ymfalchio mewn cadw safonau uchel cadarn sydd yn arweiniad ac anogaeth i’r plant yn ei gofal, a'r ymarferwyr a gyflogir. 

Rhennir y ddarpariaeth yn dair adran. Datblygodd y Rheolwraig rôl arweinwyr cydwybodol gwybodus ymhob adran:  Is-Reolwraig y Feithrinfa  yn arwain ystafell plant y Cyfnod Sylfaen ac Uwch Gymhorthydd yn arwain ystafell plant blwydd a hanner i ddwyflwydd a hanner oed. Caiff ystafell y babanod ei harwain drwy gydweithio  effeithiol  gan ddwy ymarferydd.

Mae Bwrdd  Cyfarwyddwyr sefydlog ers dros ddeuddeng mlynedd; gyda’r rheolwraig yn adrodd iddynt ar gynnydd a threfn yn gyson. Bydd aelodau  Bwrdd Cyfarwyddwyr yn ymweld â’r Feithrinfa yn rheolaidd i werthuso a chefnogi gwaith yr ymarferwyr a'r rheolwraig.

Er mwyn datblygu a gwella  darpariaeth,  bydd y rheolwraig, yr uwch dîm rheoli a'r ymarferwyr yn hunanarfarnu gwaith y lleoliad yn gyson a chadarn, gan gynllunio a gweithredu ar gyfer gwelliant i’r dyfodol gan osod nodau ac amcanion  eglur. Caiff  y ddarpariaeth ei gwerthuso'n rheolaidd drwy gynnwys safbwyntiau ymarferwyr, rhieni, gofalwyr a'r awdurdod lleol. Canlyniad hyn yw bod y rhanddeiliaid yn teimlo bod eu cyfraniadau'n werthfawr wrth i'r Feithrinfa barhau i ddatblygu.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd 

Mae strwythur arweiniol y feithrinfa yn gadarn ac yn bwydo’r cynlluniau er gwelliant. Mae gweledigaeth glir y Rheolwraig yn gryf ac ysbrydoledig. Oherwydd strwythur staffio driphlyg y feithrinfa, gellir rhannu’r cyfrifoldebau i feysydd penodol; golyga hyn nad oes gor-bwysau ar aelodau staff unigol. Mae'r rheolwraig yn adnabod blaenoriaethau meysydd datblygu ac yn gweithredu'n gadarn i gynnal arferion da a chyflwyno newidiadau. Gwelir cysylltiadau cadarn iawn rhwng hunanarfarnu a thargedau cynllun datblygu’r Feithrinfa.

Rhoddir pwyslais gadarn iawn ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth rheolwyr ac ymarferwyr. Buddsoddir mewn rhaglen o ddatblygiad proffesiynol i reolwyr ac ymarferwyr mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill megis Academi, Cam wrth Gam- Mudiad Meithrin, Grŵp Llandrillo Menai, Uned Blynyddoedd Cynnar Cyngor Gwynedd.

Caiff anghenion datblygiad proffesiynol ymarferwyr eu hadnabod  drwy gyfrwng  sesiynau goruchwylio, arsylwadau a gwerthusiadau blynyddol a  gynhelir gan y rheolwraig ac aelodau Bwrdd Cyfarwyddwyr.  Drwy fuddsoddi  mewn rhaglen o ddatblygu proffesiynol  cyson a pharhaus, mae tïm o ymarferwyr gwybodus a brwdfrydig wedi ei greu. Trefnir cyfarfodydd ‘Team Bonding’ yn rheolaidd, daw’r staff â’r Bwrdd Cyfarwyddwyr at ei gilydd i gynllunio ar gyfer gwella. O’u cyfuno mae hyn yn creu ethos hynod o gadarnhaol lle mae mewnbwn a chryfderau pob aelod staff a’r pwyllgor yn cael ei ddefnyddio i’w llawn botensial. Ceir perthynas agos gyda rhieni’r feithrinfa sy’n creu awyrgylch gadarnhaol ac ymdeimlad diogel a theuluol i’r plant. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

 O ganlyniad i'r buddsoddiad cyson mewn datblygiad proffesiynol mae ymarferwyr yn gallu diweddaru eu gwybodaeth a'u sgiliau.  Enghraifft o hyn yw hyfforddiant a fynychodd Is-Reolwraig y Feithrinfa ar ddefnyddio amgylchedd dysgu tu allan. O ganlyniad i'r hyfforddiant, ceir effaith uniongyrchol ar ddeilliannau plant drwy ddatblygu eu profiadau awyr agored i’r eithaf. Er engraifft yn ddiweddar mae’r staff, rhieni a Bwrdd Cyfarwyddwyr wedi cydweithio i godi safonau yr ardal tu allan a chynnig gwelliant mewn amrywiaeth o ardaloedd sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth fel adnodd ardderchog gan Mudiad Meithrin mewn gwobrau cenedlaethol.

Mae pwyslais cynyddol ar wella’r ddarpariaeth, sydd yn rhan o adnabod angen gwneud gwelliannau cyn gweithredu arno, mae safonau dysgwyr yn cael eu datblygu a’u hysbrydoli, gyda ffocws glir yr arweinyddiaeth wedi cael effaith gadarnhaol ar rediad a datblygiad y feithrinfa gyda’r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn darparu cadernid a sefydlogrwydd i’r broses.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Rhannwyd arfer dda trwy gyfrannu i wefan Estyn, croesawu cylchoedd eraill i ymweld a’r Feithrinfa  a thrwy  Athrawes Gefnogi yr Awdurdod Lleol yn adrodd yn ôl i leoliadau eraill.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol