Mae consortiwm dysgu yn y gwaith Grŵp Llandrillo Menai yn gwneud cynnig cyffredinol o gymorth cofleidiol lles, cymorth a chyngor ynghylch anghenion dysgu ychwanegol (ADY) i’r holl brentisiaid, ac arweiniad sy’n canolbwyntio ar 4 piler GLLM 4 y strategaeth lles.
Mae’r holl brentisiaid newydd yn cwblhau cyfnod ymsefydlu sy’n amlinellu’r cymorth â lles ac ADY sydd ar gael iddynt yn gynhwysfawr. Mae ymsefydlu yn cynnwys diogelu a sut i roi gwybod i’r aelod priodol o staff am bryderon. Mae dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth o Atal (Prevent) trwy gwblhau modiwlau dysgu ar-lein. Mae Grŵp Llandrillo Menai yn darparu mynediad at hyb lles a diogelu GLLM ar gyfer holl ddysgwyr y consortiwm. Mae’r adnodd hwn yn rhoi ystod eang o wybodaeth i brentisiaid am berthnasoedd iach, lles, sut i gysylltu a chadw’n egnïol, aflonyddu rhwng cyfoedion, camddefnyddio sylweddau, bwlio, rheoli arian a sut i gadw’n ddiogel. Mae’r hyb lles a diogelu yn darparu cymorth ar gyfer cyfeirio at asiantaethau ac elusennau allanol perthnasol a gwybodaeth am sut gall dysgwyr droi at y tîm lles o bell.
Mae posteri diogelu ac amddiffyn plant yn weladwy ym mhob canolfan, gyda gwybodaeth sy’n cynnwys lluniau a rhifau cyswllt y tîm diogelu a gwybodaeth am les / llesiant a pha gymorth sydd ar gael i ddysgwyr, staff, rhieni ac ymwelwyr. Caiff yr holl bolisïau ar ddiogelu a gyda phwy i gysylltu mewn achosion am bryderon ynghylch diogelu eu rhannu gyda phrentisiaid mewn llyfrau ymsefydlu, e-bortffolios, ac ar fewnrwyd a gwefannau darparwyr.
Mae’r consortiwm yn codi ymwybyddiaeth am ymgyrchoedd trwy wasanaethau a diwrnodau gwybodaeth. Efallai bod y diwrnodau hyn yn wahanol, yn dibynnu ar y darparwr, a pha mor aml y mae’r dysgwr yn mynd i ganolfan hyfforddi’r partner. Er enghraifft, byddai prentis sy’n cael ei asesu yn gyfan gwbl yn y gweithle yn gallu cael y wybodaeth hon ar-lein trwy’r calendr dysgwyr a’r hyb lles.
Mae cynnig cyffredinol hefyd i’r holl ddysgwyr yn y gwaith ddefnyddio cyfleusterau pob partner i helpu gwella lles. Mae hyn yn cynnwys defnyddio canolfannau ffitrwydd GLLM, cyfle i fanteisio ar y cynnig brecwast cyffredinol a defnydd o lyfrgelloedd.
Mae’r consortiwm wedi ymrwymo i hyrwyddo cynnig lles cyffredinol sydd yr un fath â’r cynnig cyffredinol a gaiff dysgwyr eraill. Trwy ddefnyddio eu cerdyn adnabod myfyriwr, mae’r cynnig cynhwysfawr hwn yn cynnwys cynhyrchion urddas mislif am ddim, mynediad i gampfeydd a llyfrgelloedd, a chymryd rhan mewn digwyddiadau cyfoethogi. Mae’r dull cyfannol hwn nid yn unig yn meithrin amgylchedd mwy cynhwysol a chefnogol, ond hefyd yn cyd-fynd ag egwyddorion tegwch a lles myfyrwyr a fabwysiadwyd gan bartneriaid y consortiwm.
Mae’r consortiwm yn gweithio’n effeithiol i nodi anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr unigol. Caiff aseswyr eu hyfforddi i nodi a chynorthwyo dysgwyr ag anghenion amrywiol, fel cyflwr y sbectrwm awtistiaeth, yn ogystal ag anawsterau dysgu eraill fel dyslecsia a dyspracsia. Mae arbenigwyr yn y darparwr ac mewn prifysgol gyfagos yn asesu anghenion dysgu dysgwyr y brentisiaeth sy’n cael eu cyfeirio atynt.