Cymorth cofleidiol cyffredinol ar gyfer prentisiaid

Arfer effeithiol

Grŵp Llandrillo Menai


Gwybodaeth am yr ysgol neu’r darparwr

Consortiwm Dysgu yn y Gwaith sy’n cynnwys y partneriaid canlynol;  

  • Grŵp Llandrillo Menai  

  • Hyfforddiant Gogledd Cymru  

  • Hyfforddiant Arfon Dwyfor  

  • Achieve More  

  • Tempdent 

  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae aelodau’r consortiwm yn gweithio gyda’i gilydd yn dda i gytuno ar lefel y lles a’r cymorth cofleidiol y mae’n ei darparu i’w brentisiaid. Nododd y consortiwm yn glir pa gymorth, gan gynnwys arfer orau, y mae ei aelodau yn ei ddarparu i’w ddysgwyr. Maent yn defnyddio’r wybodaeth hon yn dda i gytuno ar ddarpariaeth gyffredinol y bydd pob partneriaeth yn ei chynnig i’w phrentisiaid. Wedi i’r cynnig presennol gael ei nodi a’i gytuno, cyflwynodd y consortiwm ddysgu proffesiynol helaeth i aseswyr i wneud yn siŵr eu bod wedi’u harfogi â’r wybodaeth a’r medrau i allu darparu cymorth cofleidiol i ddysgwyr. Mae’r consortiwm yn hyrwyddo’r cynnig i brentisiaid trwy’r Hyb lles ar-lein, postiadau e-bortffolio, cyfryngau cymdeithasol a sesiynau un i un gyda’u haseswyr. 

Gellir gweld effaith y cymorth trwy ymatebion cadarnhaol gan ddysgwyr pan ofynnir iddynt am eu lles mewn arolygon, teithiau dysgu ac mewn adolygiadau un i un gydag aseswyr.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae consortiwm dysgu yn y gwaith Grŵp Llandrillo Menai yn gwneud cynnig cyffredinol o gymorth cofleidiol lles, cymorth a chyngor ynghylch anghenion dysgu ychwanegol (ADY) i’r holl brentisiaid, ac arweiniad sy’n canolbwyntio ar 4 piler GLLM 4 y strategaeth lles.   

Mae’r holl brentisiaid newydd yn cwblhau cyfnod ymsefydlu sy’n amlinellu’r cymorth â lles ac ADY sydd ar gael iddynt yn gynhwysfawr. Mae ymsefydlu yn cynnwys diogelu a sut i roi gwybod i’r aelod priodol o staff am bryderon. Mae dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth o Atal (Prevent) trwy gwblhau modiwlau dysgu ar-lein. Mae Grŵp Llandrillo Menai yn darparu mynediad at hyb lles a diogelu GLLM ar gyfer holl ddysgwyr y consortiwm. Mae’r adnodd hwn yn rhoi ystod eang o wybodaeth i brentisiaid am berthnasoedd iach, lles, sut i gysylltu a chadw’n egnïol, aflonyddu rhwng cyfoedion, camddefnyddio sylweddau, bwlio, rheoli arian a sut i gadw’n ddiogel. Mae’r hyb lles a diogelu yn darparu cymorth ar gyfer cyfeirio at asiantaethau ac elusennau allanol perthnasol a gwybodaeth am sut gall dysgwyr droi at y tîm lles o bell. 

Mae posteri diogelu ac amddiffyn plant yn weladwy ym mhob canolfan, gyda gwybodaeth sy’n cynnwys lluniau a rhifau cyswllt y tîm diogelu a gwybodaeth am les / llesiant a pha gymorth sydd ar gael i ddysgwyr, staff, rhieni ac ymwelwyr. Caiff yr holl bolisïau ar ddiogelu a gyda phwy i gysylltu mewn achosion am bryderon ynghylch diogelu eu rhannu gyda phrentisiaid mewn llyfrau ymsefydlu, e-bortffolios, ac ar fewnrwyd a gwefannau darparwyr. 

Mae’r consortiwm yn codi ymwybyddiaeth am ymgyrchoedd trwy wasanaethau a diwrnodau gwybodaeth. Efallai bod y diwrnodau hyn yn wahanol, yn dibynnu ar y darparwr, a pha mor aml y mae’r dysgwr yn mynd i ganolfan hyfforddi’r partner. Er enghraifft, byddai prentis sy’n cael ei asesu yn gyfan gwbl yn y gweithle yn gallu cael y wybodaeth hon ar-lein trwy’r calendr dysgwyr a’r hyb lles. 

Mae cynnig cyffredinol hefyd i’r holl ddysgwyr yn y gwaith ddefnyddio cyfleusterau pob partner i helpu gwella lles. Mae hyn yn cynnwys defnyddio canolfannau ffitrwydd GLLM, cyfle i fanteisio ar y cynnig brecwast cyffredinol a defnydd o lyfrgelloedd.  

Mae’r consortiwm wedi ymrwymo i hyrwyddo cynnig lles cyffredinol sydd yr un fath â’r cynnig cyffredinol a gaiff dysgwyr eraill. Trwy ddefnyddio eu cerdyn adnabod myfyriwr, mae’r cynnig cynhwysfawr hwn yn cynnwys cynhyrchion urddas mislif am ddim, mynediad i gampfeydd a llyfrgelloedd, a chymryd rhan mewn digwyddiadau cyfoethogi. Mae’r dull cyfannol hwn nid yn unig yn meithrin amgylchedd mwy cynhwysol a chefnogol, ond hefyd yn cyd-fynd ag egwyddorion tegwch a lles myfyrwyr a fabwysiadwyd gan bartneriaid y consortiwm.  

Mae’r consortiwm yn gweithio’n effeithiol i nodi anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr unigol. Caiff aseswyr eu hyfforddi i nodi a chynorthwyo dysgwyr ag anghenion amrywiol, fel cyflwr y sbectrwm awtistiaeth, yn ogystal ag anawsterau dysgu eraill fel dyslecsia a dyspracsia. Mae arbenigwyr yn y darparwr ac mewn prifysgol gyfagos yn asesu anghenion dysgu dysgwyr y brentisiaeth sy’n cael eu cyfeirio atynt.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r cydweithio llwyddiannus hwn i roi cynnig lles cyffredinol i’r holl ddysgwyr yn y gwaith sy’n dilyn prentisiaethau yn y consortiwm wedi gwella darpariaeth i ddysgwyr a chynyddu cyflawniad yn sylweddol. Trwy flaenoriaethu buddsoddiad yn lles cyfannol dysgwyr, mae wedi creu amgylchedd cefnogol sy’n ymestyn ymgysylltu, yn lleihau straen dysgwyr, ac yn meithrin profiad dysgu cadarnhaol, sydd wedi cefnogi lefelau uchel o ddeilliannau prentisiaeth.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhwydwaith Rheolwyr Ansawdd Dysgu yn y Gwaith