Arfer Effeithiol |

Cyfathrebu yn agored i helpu staff i weithio’n fwy effeithiol gyda’i gilydd

Share this page

Nifer y disgyblion
141
Ystod oedran
3-19
Dyddiad arolygiad
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Penododd y llywodraethwyr bennaeth a thîm arwain newydd yn 2015.  Rhoddodd y pennaeth flaenoriaeth i sefydlu trefniadau arwain cadarn a sicr ar bob lefel, a rhoddodd strategaeth ar waith i greu tîm staff uchel eu perfformiad, sy’n rhannu ymrwymiad i weledigaeth glir wedi’i thanategu gan werthoedd a rennir.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd y nodwyd ei bod yn arfer sy’n arwain y sector

Rhoddodd uwch arweinwyr strategaeth ar waith i gynnwys staff ym mhob agwedd ar wneud penderfyniadau ar draws yr ysgol.  Sefydlont gyfres glir o werthoedd a rennir i helpu staff i ennill gwell dealltwriaeth o’u harddull broffesiynol eu hunain er mwyn gweithio’n fwy effeithiol gyda’i gilydd.  

Datblygodd yr ysgol bartneriaeth gydag ymgynghoriaeth arweinyddiaeth a gynhaliodd gyfres o sesiynau hyfforddiant mewn swydd i’r holl staff, yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf y pennaeth yn ei swydd.  Nod y sesiynau oedd helpu staff i ddeall eu harddull reoli broffesiynol eu hunain a’u deallusrwydd emosiynol.  Yn dilyn y sesiynau hyn, derbyniodd pob aelod staff broffil byr yn amlinellu eu dewisiadau o ran ymddygiad, eu harddulliau arwain, eu harddulliau personoliaeth a’u dallbwyntiau posibl.  Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, roedd aelodau staff yn gallu gwella’u dealltwriaeth o’u harddulliau arwain eu hunain ac roeddent mewn sefyllfa well i werthfawrogi ansawdd eu gwaith eu hunain.

Yn dilyn trafodaethau â staff, disgyblion, rhieni a llywodraethwyr, cytunodd yr ysgol ar ddatganiad gweledigaeth yn seiliedig ar werthoedd parch, disgwyliadau (uchel), her, uniondeb, angerdd a mwynhad (RECIPE).

Mae arweinwyr wedi datblygu’r model hwn ymhellach i sicrhau bod gan staff y medrau i gynnal sgyrsiau heriol a phwrpasol gyda’i gilydd, i sicrhau bod y ddarpariaeth i ddisgyblion yn eithriadol a bod perthnasoedd yn parhau’n gyflawn.  Trwy ddefnyddio’r model hwn, mae uwch arweinwyr wedi sefydlu ethos o her a chymorth mewn diwylliant sy’n hyrwyddo canlyniadau trwy berthnasoedd.

Mae uwch arweinwyr wedi defnyddio’r wybodaeth hon yn greadigol fel rhan o drefniadau rheoli perfformiad i annog staff ac i ddosbarth tasgau arwain i staff ar sail eu cryfderau, eu dyheadau a’u harddulliau arwain.  Ers hyn, mae’r uwch dîm arwain wedi cymryd rhan mewn anogaeth perfformiad lefel uchel, sy’n defnyddio’r un model.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae effaith y buddsoddiad hwn yn nhîm y staff wedi bod yn helaeth.  Mae holiaduron amgyffredion staff yn dangos gwelliannau amlwg o gymharu â holiaduron a lenwyd yn ystod y ddwy flynedd flaenorol.  Mae buddion penodol yn cynnwys gwell gwaith tîm, cydlyniant cymunedol, ymgynghori a chyfathrebu.  Hefyd, mae staff yn nodi bod mwy o eglurder am rolau, cyfrifoldebau a mesurau atebolrwydd.

Yn ogystal, fe wnaeth cyfraddau salwch ac absenoldeb staff ostwng dros y cyfnod dwy flynedd ar ôl gweithredu’r strategaeth.  Mae mwy o hyder ymhlith y staff a pharodrwydd i greu profiadau dysgu arloesol wedi cael effaith ar ddeilliannau disgyblion.

Yn gyffredinol, mae deilliannau a chyfraddau cynnydd disgyblion, yn enwedig mewn llythrennedd a rhifedd, ar eu huchaf ers pum mlynedd.  Mae canrannau cwblhau targedau disgyblion yn awgrymu cynnydd gwell ym mhob pwnc craidd.  Mae safonau lles disgyblion yn eithriadol.  Mae presenoldeb, sef 91%, uwchlaw cyfartaledd Cymru gyfan ar gyfer ysgolion arbennig.  Mae nifer yr enghreifftiau o ymddygiad heriol wedi gostwng yn sylweddol ac ni fu unrhyw waharddiadau cyfnod penodol yn y tair blynedd diwethaf.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae staff yn ysgrifennu ac yn cyflwyno amrywiaeth o gyrsiau arweinyddiaeth yn seiliedig ar y strategaeth hon i ddatblygu gallu arwain mewn ysgolion eraill yn eu rhanbarth.  Er enghraifft, maent yn cyfrannu at y cyrsiau ‘Arweinwyr y Dyfodol’ ac ‘Arwain o’r Canol’ sy’n cefnogi datblygiad medrau arweinyddiaeth staff o ysgolion ar draws eu rhanbarth.  Yn ogystal, mae’r ysgol wedi defnyddio’r fethodoleg i gynorthwyo ysgolion tebyg eraill i ddatblygu’u gallu arwain, gan ddefnyddio anogaeth a mentora.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol