Arfer Effeithiol |

Creu ymwybyddiaeth o ddementia trwy ryngweithio â disgyblion ac estyn allan i’r gymuned

Share this page

Nifer y disgyblion
225
Ystod oedran
4-11
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfaes wedi’i lleoli ar gyrion Aberhonddu ym Mhowys, ac mae 225 o ddisgyblion ar y gofrestr.  Mae gan yr ysgol ganolfan asesu cyn-ysgol a lleoliad ar gyfer plant tair oed.  Mae tua 7% o’i disgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae gan ryw 22% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sy’n cyd-fynd â’r cyfartaledd cenedlaethol.  Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gefndir ethnig gwyn ac maent yn siarad Saesneg fel eu mamiaith.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref.  Dechreuodd y pennaeth ar ei swydd ym mis Medi 2005, ac roedd yr arolygiad diwethaf ym mis Hydref 2017.  Mae’r ysgol yn ysgol arloesi’r cwricwlwm ar hyn o bryd.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Bedair blynedd yn ôl, manteisiodd yr ysgol ar gyfle i gymryd rhan mewn hwyluso adnabyddiaeth well o ddementia yn eu cymuned a datblygu cenhedlaeth sy’n deall dementia.  Mae ystadegau ar gyfer dementia yn dangos bod hyn yn mynd i fod yn elfen allweddol ym mywydau disgyblion.  Mae’r ysgol yn ymdrechu i addysgu disgyblion ar gyfer y bywydau y byddant yn eu byw a nododd y byddai ymwybyddiaeth o ddementia yn fuddiol i bawb.  Ers hynny, mae’r ysgol wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth am ddementia yn yr ysgol, y gymuned leol, ar lefel sirol a chenedlaethol.  Mae hwyluso sesiynau ymwybyddiaeth o ddementia ar gyfer disgyblion, rhieni, llywodraethwyr a staff yn elfen hanfodol o hyn.  Ategir y gwaith hwn trwy sefydlu cysylltiadau â chartref gofal lleol ar gyfer yr henoed.  Mae’r ffocws ar wella dinasyddiaeth ac addysgu disgyblion ar gyfer eu dyfodol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Rhoddir sesiynau ymwybyddiaeth o ddementia i holl ddisgyblion Blwyddyn 5 bob blwyddyn.  Caiff y sesiynau hyn eu harwain gan yr hyrwyddwr dementia lleol.  Yn ystod y sesiynau hyn, mae disgyblion yn dysgu am beth yw dementia a sut gallai effeithio ar bobl.  Ar ddechrau Blwyddyn 6, caiff pob disgybl sesiwn ddiweddaru.  Bob wythnos, eir â grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 6 i Drenewydd, sef cartref gofal lleol yr ysgol.  Tra byddant yno, mae disgyblion a phreswylwyr yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau, gan gynnwys chwarae gemau bwrdd, canu ac edrych ar flychau atgofion.  Mae disgyblion yn edrych ymlaen at y sesiynau hyn, sy’n gwella lles y preswylwyr yn fawr.  O bryd i’w gilydd, mae’r preswylwyr yn ymuno â’r ysgol ar gyfer gweithgareddau ac yn rhannu gwasanaethau eglwys tymhorol.  Mae Blynyddoedd 5 a 6 yn mynd ar daith goffa noddedig bob blwyddyn.  Defnyddir y daith hon fel tasg gyfoethog gan Flwyddyn 6, sy’n trefnu, yn cynllunio ac yn gweithredu’r digwyddiad.  Mae’n galluogi’r disgyblion i ddefnyddio llawer o fedrau llythrennedd a rhifedd.

Caiff ymwybyddiaeth ysgol gyfan ei gwella trwy wasanaethau a chynnwys materion dementia yn ystod ‘wythnosau byw yn iach’ pan fydd disgyblion hŷn yn gweithio gyda dosbarthiadau iau i esbonio dementia gan ddefnyddio gweithgareddau wedi’u symleiddio.  Mae disgyblion Blwyddyn 6 yn gweithredu fel llysgenhadon mewn ysgol fabanod leol, yn cyflwyno gweithdai dementia i ddisgyblion Blwyddyn 2. 

Mae gweithio cymunedol wedi datblygu yn sgil disgyblion yn rhannu eu harfer ym moreau coffi Ffrindiau Dementia Aberhonddu (Brecon Dementia Friends) a sesiynau ymwybyddiaeth o ddementia.  Yn ychwanegol, mae disgyblion Blwyddyn 6 wedi gwneud cyflwyniad i’r Gymdeithas Alzheimer Genedlaethol yng Nghaerdydd.  Cydnabuwyd eu gwaith arloesol trwy ddyfarnu’r wobr Cyfraniad Pobl Ifanc Cenedlaethol iddynt ym mis Tachwedd 2016 yn Llundain.  Cynhaliwyd sesiynau dementia ar gyfer staff, rhieni a llywodraethwyr.  Mewn digwyddiadau ysgol gyfan, fel ffeiriau a boreau coffi’r gymdeithas rhieni ac athrawon (PTA), ceir stondin dementia bob tro.  Mae gwybodaeth am ddementia ar gael yn barhaol yng nghyntedd yr ysgol i unrhyw un ei defnyddio.  Mae’r ysgol wedi cynnal llawer o sesiynau dementia ar gyfer y gymuned, gan gynnwys sesiwn hyfforddi ddiweddar ar gyfer hyrwyddwyr dementia.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Caiff cysylltiadau â’r cartref gofal effaith arwyddocaol a chadarnhaol ar les disgyblion sy’n mynychu.  Mae’r disgyblion yn dangos mwy o empathi am yr henoed ac mae ganddynt ddealltwriaeth glir o sut gallant eu cynorthwyo.  Mae’r gweithgaredd wedi eu galluogi i feddwl yn glir am eu hemosiynau eu hunain hefyd, yn enwedig wrth orfod delio â marwolaeth preswylydd.  Yn anad dim, mae’r disgyblion yn gwerthfawrogi’n llawn y cyfraniad y gall y preswylwyr ei wneud at eu dysgu.  Dangoswyd hyn mewn ffyrdd amrywiol, er enghraifft trwy’r ffordd y maent yn rhannu gwybodaeth hanesyddol yn uniongyrchol am amrywiaeth o destunau.  Mae’r dysgu’n broses ddwy ffordd, gyda’r disgyblion yn cyflwyno’r preswylwyr i TGCh, fel defnyddio cyfrifiaduron llechen.  At ei gilydd, mae barn y disgyblion ar yr henoed wedi newid, gan eu bod erbyn hyn yn gweld y bobl go iawn y tu ôl i’r dementia.  Nid oes ofn ‘henaint’ arnynt, dim ond adnabod sut i helpu.  Mae gwir gyfeillgarwch wedi’i greu, ac mae parch ar y ddwy ochr wrth wraidd hynny.

Fe wnaeth y dasg gyfoethog heriol, a ddefnyddir gan Flwyddyn 6 ar gyfer y daith atgofion, eu galluogi i ddatblygu ystod eang o fedrau llythrennedd a rhifedd.  Trwy gyflwyno i bobl eraill, mae disgyblion wedi datblygu eu medrau llafaredd, ysgrifennu a chyflwyno mewn cyd-destun bywyd go iawn.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhannwyd y gweithio hwn rhwng y cenedlaethau mewn amrywiaeth o ffyrdd.  Mae Comisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi ymweld â’r ysgol a chartref gofal Trenewydd.  Yn dilyn hynny, comisiynwyd ffilm, sydd ar gael ar eu gwefannau.  Mae BBC Radio Wales wedi recordio sesiwn a ddarlledwyd ar y radio.  Mae disgyblion wedi gwneud cyflwyniad i’r Gymdeithas Alzheimer Genedlaethol yng Nghymru, yn rhoi manylion am y prosiect a’i fanteision.

Mae Bwrdd Iechyd Lleol Powys wedi creu ffilm fer, a rannwyd ar draws yr awdurdod.  Rhannwyd y gwaith fel astudiaeth achos arfer dda ar wefan consortiwm ERW.  Mae awdurdod lleol Powys wedi cynnwys manylion am y prosiect ar gylchlythyrau.  Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wedi ymweld â’r ysgol i drafod dementia a chysylltiadau’r ysgol â chartref gofal Trenewydd gyda’r plant.