Arfer Effeithiol |

Creu cwricwlwm arloesol gan ddefnyddio’r celfyddydau mynegiannol

Share this page

Nifer y disgyblion
470
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig ym mhentref Mynyddcynffig, tua phedair milltir i’r gorllewin o Ben-y-bont ar Ogwr.  Agorwyd yr ysgol gynradd ym Medi 2015 trwy uno hen ysgol fabanod ac ysgol iau Mynydd Cynffig, ond mae’n gweithredu ar ddau safle ar wahân o hyd.  Mae 470 o ddisgyblion ar y gofrestr, a 23% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig wedi bod yn Ysgol Arloesi’r Cwricwlwm er mis Tachwedd 2015, ac am y 12 mis diwethaf, mae wedi canolbwyntio ar faes dysgu’r celfyddydau mynegiannol.  Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r ysgol wedi blaenoriaethu dulliau addysgegol i fod ar flaen y gad yn eu haddysgu.  Yn ychwanegol, mae disgyblion wedi cymryd cryn dipyn yn fwy mewn arwain eu dysgu, sydd wedi cael effaith amlwg ar ymgysylltu.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Addysgeg

Bu athrawon yn archwilio’r 12 egwyddor addysgegol a amlygir yn ‘Dyfodol Llwyddiannus’, gan nodi dwy egwyddor i’w datblygu ymhellach yn eu cynllunio, sef creu cyd-destunau dilys ar gyfer dysgu ac annog disgyblion i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain.  Roedd diwrnodau ‘trochi’ yn annog disgyblion i gynllunio eu dysgu eu hunain, a sicrhaodd athrawon fod y profiadau a ddarperir yn gyfoethog, ysgogol a difyr.  Fe wnaeth cyfleoedd trwy brofiad yn y gymuned leol, fel ymweld â thŷ bwyta Tsieineaidd, siopau coffi, mannau addoli, theatrau ac amgueddfeydd, yn ogystal â gwahodd ‘arbenigwyr’ i weithio ochr yn ochr â disgyblion, helpu creu cwricwlwm ‘arloesol’.

Y Celfyddydau Mynegiannol

Mae’r Celfyddydau Mynegiannol wedi bod wrth wraidd cwricwlwm yr ysgol.  Dewisir themâu yn benodol i ganiatáu cyfleoedd i ddatblygu medrau disgyblion mewn cerddoriaeth, y cyfryngau, celf, dawns a drama.  Er enghraifft, mewn drama, mae strategaethau fel ‘Arsylwi, Meddwl, Casglu’, ‘Twneli Meddwl’, ‘Mantell yr Arbenigwr’ a ‘Tableaux’, wedi galluogi disgyblion i fod yn gynyddol hyderus, yn ogystal â’u helpu i ddatblygu medrau meddwl beirniadol a chreadigol.  Mae’r dull amlddisgyblaethol pwrpasol hwn yn ysgogol a chyffrous i ddisgyblion ac athrawon fel ei gilydd.

Medrau Llythrennedd / Meddwl Gweledol

Mae athrawon yn dewis llyfrau, clipiau fideo a lluniau yn ofalus, ac mae hyn wedi datblygu dealltwriaeth disgyblion o gymeriad a phlot, gan ddatblygu eu medrau meddwl, llafaredd, darllen ac ysgrifennu.  Mae symbyliadau fel ‘Into The Forest’ a ‘The Spider and the Fly’ yn dal diddordeb a dychymyg y disgyblion, gan arwain at waith llafaredd o ansawdd uchel, sydd yn ei dro yn rhoi hyder a chymhelliant i ysgrifennu’n helaeth, yn enwedig i fechgyn.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Caiff y cwricwlwm arloesol effaith gadarnhaol ar fwynhad disgyblion o ddysgu, ac mae’n arwain at gynnydd da iawn yn eu medrau siarad, gwrando ac ysgrifennu.  Mae’r cynnydd mewn hyder, y perthnasoedd cadarnhaol rhwng athro a disgybl a’r parodrwydd i gymryd rhan a mentro, yn newid meddylfryd disgyblion mewn ffordd gadarnhaol.  Maent yn eu hannog ei bod yn dderbyniol gwneud camgymeriadau, a’i bod yn bwysig gwneud eich gorau.  O ganlyniad, mae medrau dysgu’n annibynnol a medrau metawybyddol yn datblygu’n dda.  Mae olrhain perfformiad disgyblion ac asesiadau athrawon yn dangos gwelliannau mewn siarad a gwrando.  Mae’r ysgol yn credu y gellir priodoli llawer o hyn i’r cyfleoedd cynyddol i ddisgyblion drafod, cydweithio, trafod a chael y rhyddid i feddwl a pherfformio’n greadigol.  Mae hyn yn ei dro wedi arwain at ddeilliannau gwell mewn ysgrifennu, yn enwedig gyda bechgyn.  Mae’r ysgol yn credu y gellir gweld yr effaith fwyaf oll, fodd bynnag, yn ymgysylltiad disgyblion, ble mae disgyblion yn hapus yn eu dysgu ac yn dathlu llwyddiannau ei gilydd.  Mae strategaethau asesu ar gyfer dysgu yn esblygu’n barhaus ac maent yn  cynnal ymagwedd yr ysgol at ddysgu’r disgyblion, er enghraifft o ran bod yn barod i werthfawrogi adborth adeiladol gan eu cyfoedion ac oedolion i wella’u gwaith a symud ymlaen yn hyderus at y cam nesaf yn eu dysgu. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhannodd yr ysgol ei gwaith arloesi’r cwricwlwm gydag ysgolion yn eu clwstwr o ysgolion, yr awdurdod lleol a’r consortiwm rhanbarthol trwy ddigwyddiadau hyfforddi a drefnwyd.  Mae wedi rhannu ei gwaith ag ysgolion unigol ar gais hefyd.

Tagiau adnoddau