Yn sgil hyn, datblygodd y staff y syniad o ddatblygu cynghrair bêl-droed yn benodol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Gweledigaeth ‘Cynghrair Pêl-droed Super Teams’ oedd rhoi cyfle i ddisgyblion gynrychioli eu hysgol wrth chwarae pêl-droed cystadleuol yn erbyn timau eraill â gallu a dealltwriaeth debyg. Daeth y syniad gwreiddiol i sefydlu’r gynghrair gan aelod o’r staff cymorth dysgu yn y cyfleuster addysgu arbenigol, a oedd â brwdfrydedd penodol am chwaraeon, cynhwysiant a chynorthwyo disgyblion ag ADY. Mae’r syniad cychwynnol hwn wedi cael canlyniadau pellgyrhaeddol a chadarnhaol i lawer o blant a’u teuluoedd.
Y nod oedd datblygu’u hunan-barch, yn ogystal â’u medrau corfforol a chymdeithasol. Trwy ddathlu perfformiadau a chanlyniadau’r disgyblion, gallai’r ysgol weld bod proffil a statws disgyblion STF yn yr ysgol yn cynyddu. Hefyd, mae’r gynghrair yn rhoi cyfle i rieni disgyblion wylio’u plant yn cystadlu ar ran yr ysgol.
Roedd rhai pethau ymarferol i’w hystyried. Yn gyntaf, bu’n rhaid i’r ysgol ddod o hyd i leoliad addas. Nid oedd chwarae ar gaeau agored wedi’u marcio bob amser yn briodol i’r rhan fwyaf o’r disgyblion. Penderfynwyd llogi caeau yn y cyfleuster pêl-droed lleol i ochrau bach. Roedd hyn yn ddelfrydol, gan fod y bêl bob amser ar y cae ac, unwaith roedd y disgyblion i mewn, roeddent yn gwbl ddiogel. O hyn, dechreuodd STF cyfnod allweddol 2 Clwyd chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn STFau eraill yn Abertawe. Amlygodd yr arsylwadau a’r adborth gan ysgolion eraill fod lleoliad a chysyniadau’r gemau yn llwyddiannus a bod potensial i’w tyfu.
Yn nes ymlaen yn 2016, lansiodd staff o’r STF y gynghrair mewn Cyfarfod Rhwydwaith STF. Gwahoddont athrawon i ymuno â grŵp ar HWB. Cafwyd ymateb da a dechreuodd y gynghrair. Aeth y gynghrair o nerth i nerth. Cyn Covid, roedd 200 o blant o 14 ysgol yn cymryd rhan. Ar hyn o bryd ac ers COVID, mae’r gynghrair wedi ailddechrau ac mae nifer gynyddol yn cymryd rhan.
Mae’r holl staff yn arsylwi disgyblion yn chwarae yn rheolaidd. Mae hyn wedi arwain at adborth defnyddiol i staff yr STF, sydd wedi gwneud diwygiadau ac addasiadau, er enghraifft i drefn digwyddiadau a ‘rheolau’, i fodloni anghenion yr holl ddisgyblion. Bellach, mae dwy adran i ddisgyblion 7-11 oed a chae ‘profiad pêl-droed’ i wneud y mwyaf o gyfleoedd cynhwysiant a chymryd rhan. Mae Adran 1 i ddisgyblion sy’n deall cysyniad gêm a sut i gymryd rhan. Mae ar gyfer plant sy’n hyderus yn gorfforol. Mae’r gemau’n gystadleuol heb fawr o ymyrraeth gan oedolion. Mae adran 2 i ddisgyblion sydd â gwybodaeth ddatblygol am sut i gymryd rhan mewn gem bêl-droed. Gall oedolion cefnogol fod ar y cae i sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cymryd rhan ac yn cicio pêl feddalach. Mae’r Cau Profiad Pêl-droed yn gae heb strwythur gyda pheli o amryw faint gwahanol ac offer synhwyraidd. Mae ar gyfer plant sydd heb gysyniad o gêm eto. Mae oedolion yn eu helpu i archwilio’r offer a sgiliau sy’n gysylltiedig â phêl-droed. Mae unrhyw ddisgyblion yn gallu’i ddefnyddio unrhyw bryd. Mae hyn yn ddefnyddiol os oes angen amser a lle i ddisgybl ‘ymbwyllo’.
Hefyd, mae staff wedi datblygu rhan y cyfnod sylfaen i’r gynghrair, i ddisgyblion iau. Y rheolau yn syml, er enghraifft, yw stopio pan fydd y chwiban yn cael ei chwythu, ceisio peidio cyffwrdd â’r bêl a siglo llaw wedyn. Y dyfarnwyr yw’r hyfforddwyr hefyd. Nhw sy’n rhedeg y gemau ond sydd hefyd yn addysgu elfennau o’r gêm i’r disgyblion (yn dibynnu ar eu gallu). Cyn pob sesiwn, mae’r staff yn dangos y rheolau a sgil. Mae pwyslais ar chwarae’n deg, gwaith tîm ac ennill a cholli’n dda. Mae’r gemau’n para tua 10 munud ac mae’r ysgol yn anelu at gael 6 disgybl bob ochr. Mae’r ddau beth yn hyblyg, yn dibynnu ar nifer y disgyblion a lefel y blinder.
Caiff y gynghrair ei dathlu bob mis Gorffennaf yn ystod gŵyl cyfnod allweddol 2. Mae hyn yn cynnwys gemau pêl-droed, gemau parasiwt, crefftau, Kerling a chastell naid. Hefyd, mae’n amser i bob disgybl gael medal ac mae tlws i enillwyr yr adran. Yn ogystal â gŵyl flynyddol cyfnod allweddol dau, mae gan yr ysgol gemau bob hanner tymor, gan olygu bod chwe digwyddiad bob blwyddyn. Mae’n gysylltiedig â Chymdeithas Pêl-droed Ysgolion Abertawe. Wrth edrych tua’r dyfodol, hoffai’r ysgol helpu siroedd eraill i sefydlu cynghreiriau tebyg a sefydlu tîm cynrychioliadol o ‘STF Abertawe’ i chwarae timau cynrychioliadol eraill.