Arfer Effeithiol

Cefnogi disgyblion ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol yn effeithiol

Share this page

 

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) Ceredigion yn ddarpariaeth gan awdurdod lleol Ceredigion ar gyfer disgyblion ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Nod yr UCD yw cael yr holl ddisgyblion yn ôl mewn addysg brif ffrwd a/neu addysg neu hyfforddiant pellach, neu gyflogaeth.

Mae’r holl ddisgyblion yn cael darpariaeth amser llawn o ganlyniad i’r bartneriaeth ragorol ag ysgolion prif ffrwd, y coleg addysg bellach, y darparwr hyfforddiant a darparwyr galwedigaethol. Mae’r UCD hefyd yn cynnig gwasanaeth cymorth ymddygiad allymestyn ar gyfer ysgolion prif ffrwd yr awdurdod lleol.

Bu’r awdurdod lleol yn gweithio gydag ymgynghorydd allanol i archwilio ansawdd darpariaeth yr UCD yng ngwanwyn 2010. Daeth y gwaith hwn i’r casgliad nad oedd patrwm y ddarpariaeth yn yr UCD yn addas at ei ddiben ac nad oedd yn bodloni anghenion dysgwyr. I ymateb i hynny, crëwyd model darpariaeth newydd i gefnogi dysgwyr o gyfnod allweddol 2 i gyfnod allweddol 4. Mae’r awdurdod lleol wedi cefnogi a monitro’r ddarpariaeth hon yn ofalus iawn. Mae wedi cryfhau rôl y pwyllgor rheoli ac mae hyn wedi bod yn ganolog i lwyddiant yr UCD. Cyflwynwyd adroddiadau rheolaidd o gynnydd i bwyllgor craffu’r cyngor a chyfarfodydd y cabinet. O ganlyniad, mae uwch swyddogion ac aelodau etholedig y cyngor yn gyfarwydd iawn â’r gwasanaeth.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Mae rôl fonitro’r pwyllgor rheoli’n cynnwys adolygu safonau, cwricwlwm a pholisïau rheoli’r UCD. Caiff amserlen ar gyfer monitro’r safonau a’r ddarpariaeth ar draws yr UCD ei phennu ymhell o flaen llaw er mwyn galluogi holl aelodau’r pwyllgor i wneud y trefniadau angenrheidiol i chwarae rôl weithgar yn y broses gyfan. Prif nod y gweithgareddau hyn yw cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r ddarpariaeth a’r safonau yn yr UCD.

Mae’r UCD wedi pennu aelodau penodol o’r pwyllgor i fod yn gyfrifol am fonitro gwahanol agweddau ar y ddarpariaeth. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys aelodau’r pwyllgor yn monitro samplau o waith disgyblion, cynlluniau gwersi a chynlluniau’r cwricwlwm. Mae aelodau’r pwyllgor yn arsylwi ar sampl o wersi ar draws yr UCD ac yn trafod gwaith gyda grwpiau o ddisgyblion. Mae arweinwyr y cwricwlwm yn trafod canfyddiadau yng nghyfarfod llawn nesaf y pwyllgor rheoli. Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu’r pwyllgor rheoli i gynyddu ei ddealltwriaeth o beth mae disgyblion yn ei ddysgu a sut, ac mae’n helpu aelodau’r pwyllgor i herio’r UCD ynghylch ei pherfformiad.

Caiff cyfarfodydd y pwyllgor rheoli eu strwythuro i sicrhau bod hunanarfarnu a monitro cynnydd yn ganolog i’w gyfarfodydd. Mae’n cael amrywiaeth o adroddiadau er mwyn monitro cynnydd yn ôl Cynllun Gwella’r UCD. Caiff arweinwyr yr UCD eu dwyn i gyfrif am gynnydd yn ôl camau gweithredu’r Cynllun Gwella a pherfformiad ar draws safleoedd amrywiol yr UCD. Os oes anghysondebau rhwng y camau gweithredu cytûn a’r deilliannau, rhoddir strategaethau ar waith i sicrhau gwelliant. Mae’r pwyslais bob amser ar wella safonau a lles disgyblion.

Mae gan yr UCD system gadarn a thrylwyr i olrhain cynnydd a monitro bod camau gweithredu yn cael effaith gadarnhaol ar safonau

O ganlyniad, mae’r holl staff yn deall pam maent yn llwyr atebol am sicrhau gwelliant gan ddisgyblion. Mae rôl aelodau’r pwyllgor fel ‘ffrindiau beirniadol’ yn eu galluogi nhw i herio arweinwyr yr UCD mewn modd cefnogol.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Mae’r holl ddisgyblion yn yr UCD wedi cael anawsterau yn eu lleoliadau addysgol blaenorol; mae’r rhain yn cynnwys cyfnodau wedi’u gwahardd o’r ysgol. Gydag amser yn yr UCD, maent yn gwneud cynnydd rhagorol yn eu hymddygiad a’u hagweddau.

O ganlyniad i reoli ymddygiad yn gyson gan staff, mae disgyblion yn gwneud cynnydd da iawn ar draws amrywiaeth o ddangosyddion:

  • Gostyngiad yn nifer y gwaharddiadau – yn y flwyddyn cyn mynychu’r UCD, collodd y grŵp presennol o ddisgyblion 370 o ddiwrnodau ysgol o ganlyniad i waharddiadau, ac roedd un wedi’i wahardd yn barhaol. I’r gwrthwyneb, yn 2011-12, roedd gan yr un disgyblion gyfanswm o un hanner diwrnod o waharddiad. Dyma welliant eithriadol.
  • Gwelliant mewn Presenoldeb – yn 2011- 12, roedd yr holl ddisgyblion wedi gwella’u cyfraddau presenoldeb a/neu wedi cadw uwchlaw targedau’r awdurdod lleol a’r UCD. Mae presenoldeb cyffredinol wedi gwella o 60% ar gyfartaledd cyn mynychu’r UCD i 90.7% yn dilyn cyfnod yn yr UCD.
  • Mynd yn ôl i’r brif ffrwd – mae disgyblion yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3 yn mynd yn ôl i ysgolion prif ffrwd yn llwyddiannus. Mae bron pob un o’r disgyblion yng nghyfnod allweddol 4 yn symud ymlaen i addysg neu hyfforddiant pellach, neu gyflogaeth.
  • Medrau – mae disgyblion ym mhob un o’r tri chyfnod allweddol yn gwneud cynnydd da wrth ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd. Mae’r holl ddisgyblion yn gwella’u medrau cymdeithasol a chyfathrebu ac yn dysgu sut i ymddwyn yn fwy priodol yn yr ystafell ddosbarth. Mae cyrhaeddiad disgyblion yng nghyfnod allweddol 4 yn dda iawn.

Mae hynt y gwelliant yn ystod y ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn arwyddocaol.