Arfer Effeithiol |

Cefnogi anghenion dysgu unigol disgyblion

Share this page

Nifer y disgyblion
250
Ystod oedran
9-19
Dyddiad arolygiad

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae St David’s College yn ysgol ddydd a phreswyl annibynnol sy’n addysgu bechgyn a merched rhwng 9 ac 19 mlwydd oed.  Mae 250 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, y mae 95 ohonynt yn ddisgyblion preswyl.  Mae’r ysgol wedi’i lleoli i’r de o Landudno yng Ngogledd Cymru.  Cenhadaeth yr ysgol yw ‘datblygu’r unigolyn cyfan trwy addysg eang sydd wedi’i seilio ar egwyddorion Cristnogol, dewis eang o ddiddordebau a gweithgareddau, a rhaglen bersonol gyflawnadwy ar gyfer pob disgybl’.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae St David’s College yn arbenigo mewn addysgu disgyblion ag anawsterau dysgu penodol, gan gynnwys dyslecsia, dyspracsia, dyscalcwlia, cyflyrau’r sbectrwm awtistig ac anhwylder diffyg canolbwyntio. Mae bron i 70% o ddisgyblion ar gofrestr anghenion addysgol arbennig yr ysgol. Mae dosbarthiadau’n fach o ran eu maint, ac yn amrywio o 6-14 disgybl. Ers ei sefydlu, mae St David's College wedi arloesi mewn addysgu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn cyfan, gan alluogi pob un o’r disgyblion, p’un a oes ganddynt anghenion dysgu penodol ai peidio, i ffynnu a rhagori. Ochr yn ochr â hyn, nod yr ysgol yw datblygu cymeriad pob unigolyn, gan alluogi pob disgybl i ennill ystod eithriadol o fedrau bywyd trosglwyddadwy, a darganfod hunanhyder go iawn trwy raglen wedi’i theilwra’n unigol sy’n golygu bod disgyblion yn rhagori i raddau helaeth ar eu disgwyliadau.  

Yn St David’s College, mae disgyblion o Flwyddyn 5 i Flwyddyn 13 yn dysgu gyda’i gilydd ar un campws. Mae’r ysgol yn credu bod hyn yn galluogi disgyblion ar draws y grwpiau blwyddyn i ffynnu a dysgu gwerthoedd teulu ysgol gyfan, sef parch, medrau cyfathrebu cryf, uniondeb a meithrin perthynas, sy’n fedrau bywyd hanfodol. Mae’r ysgol yn darparu addysg lawn yn y brif ffrwd, sy’n arwain disgyblion tuag at gymwysterau TGAU, cymwysterau Safon Uwch a chymwysterau BTEC Lefel 2 a 3. Mae’r cyfle i gyfuno cyrsiau Safon Uwch a BTEC yn galluogi disgyblion i ddysgu’n briodol a mynd ymlaen i brifysgol, cyrsiau addysg bellach, prentisiaethau, neu fynd yn syth i’r gweithle.
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Sefydlwyd Canolfan Cadogan, sef adran cymorth dysgu’r ysgol, dros 50 mlynedd yn ôl, ac mae’n darparu’r hyb ar gyfer dull addysgol a chymorth un-i-un arbenigol yr ysgol. Nid yw’r ysgol yn cyflogi cynorthwywyr addysgu, ond yn hytrach, ceir dosbarthiadau sy’n fach o ran maint, a staff sy’n addysgu yn y brif ffrwd sy’n meddu ar gymwysterau ôl-radd mewn ‘Addysgu a Dysgu Disgyblion ag Anawsterau Dysgu Penodol’. Mae 20 o athrawon cymorth arbenigol yn gweithio ar y cyd ag athrawon y cwricwlwm i gyflwyno tua 550 o wersi cymorth arbenigol un-i-un bob wythnos. Mae athrawon yn monitro dysgu academaidd disgyblion ac yn darparu lefel sylweddol o gymorth ac arweiniad bugeiliol i ddisgyblion a rhieni, yn ogystal. Mae technoleg gynorthwyol yn galluogi disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol am oes. Cyflwynir holl wersi’r cwricwlwm a’r gwersi un-i-un gan ddefnyddio platfformau ar-lein sy’n galluogi disgyblion ac athrawon i rannu cynnwys cyrsiau, a chydweithio. 

Mae’r ysgol yn darparu gwersi unigol ar gyfer disgyblion sy’n wynebu rhwystrau penodol rhag dysgu. Gallai’r rhwystrau hyn olygu atal plant rhag cyrraedd eu potensial academaidd a phersonol llawn, a allai gael effaith negyddol ar eu lles cymdeithasol ac emosiynol, a’u cyfleoedd yn y dyfodol. Mae gan St David’s brofiad helaeth o addysgu disgyblion: 

•    sy’n wynebu heriau yn gysylltiedig â llythrennedd

•    sydd angen cymorth ychwanegol â mathemateg 

•    sydd ag anawsterau â chofio a galw i gof 

•    sydd â medrau prosesu arafach 

•    sydd â heriau o ran canolbwyntio a thalu sylw 

•    sydd ag anghenion cymorth o ran iaith a chyfathrebu. 

Mae ethos yr ysgol yn dathlu cryfderau disgyblion ochr yn ochr ag addysgu a dysgu o ansawdd uchel, lle caiff disgyblion eu hannog i gyrraedd eu llawn botensial, a rhagori arno, trwy ymyrraeth dargedig unigol. Mae’r ysgol yn monitro ac yn addasu’r cwricwlwm er mwyn sicrhau bod addysgu a dysgu yn gweddu i ddoniau a galluoedd pob disgybl. Mae pasbort y disgybl, sy’n cael ei lenwi gan athrawon prif ffrwd a therapyddion, yn rhannu gwybodaeth ag athrawon prif ffrwd ynghylch anghenion a chryfderau disgyblion unigol. Mae disgyblion yn dysgu gwydnwch, medrau cyfathrebu, hunanreolaeth, a defnydd o dechnoleg gynorthwyol a strategaethau cysylltiedig mewn ffordd amlsynhwyraidd. Mae’r rhain yn rhan hanfodol o ddull yr ysgol o ran ymyrraeth, ac yn helpu disgyblion i fod yn ddysgwyr hunangyfeiriedig, annibynnol ac ymgysylltiedig, sy’n gallu mynd allan i’r byd a ffynnu. 

Mae olrhain yr holl ddisgyblion bob blwyddyn gan aseswyr arbenigol mewn dyslecsia, ar sail tystiolaeth, yn golygu y gellir defnyddio data cyfoes i adlewyrchu dilyniant disgyblion, ac addasu darpariaeth pan fydd angen, a nodi a rhannu arfer orau yng nghyfarfodydd wythnosol y tîm amlddisgyblaethol. Caiff y dull hwn effaith gadarnhaol ar ddeilliannau dysgwyr o ran medrau llythrennedd a rhifedd gwaelodlin, yn ogystal â’u ffordd o weithredu, eu cyfathrebu a’u lles emosiynol.  

Yn y pum mlynedd ddiwethaf, mae’r ysgol wedi cyflogi therapyddion lleferydd ac iaith, therapyddion galwedigaethol a chwnselwyr fel aelodau o staff Cadogan. Maent yn gweithio gyda disgyblion, athrawon a rhieni i ddarparu dull therapiwtig integredig. Yn ychwanegol, mae Rhaglen Defnydd Cymdeithasol o Iaith yr ysgol, dan oruchwyliaeth y therapydd lleferydd ac iaith, yn cefnogi disgyblion sy’n agored i niwed sy’n cael trafferth â rhyngweithio cymdeithasol a chyfathrebu. Mae’r therapïau a’r rhaglenni hyn yn defnyddio’r un cynlluniau dysgu unigol (CDUau) ar gyfer gosod targedau disgyblion ac adolygiadau.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae disgyblion o bob oedran yn gwneud cynnydd cryf yn datblygu eu medrau cymdeithasol a chyfathrebu, ac yn cyflawni safonau uchel mewn perthynas â’u hanghenion a’u galluoedd dysgu. Yn benodol, mae darpariaeth cymorth dysgu’r ysgol, sydd o ansawdd da, yn helpu disgyblion i ddatblygu strategaethau dysgu effeithiol i oresgyn eu hanawsterau, gwella eu hunanhyder a gwneud cynnydd cadarn yn unol â’u galluoedd. Mae’r deilliannau hyn yn paratoi disgyblion o bob gallu yn dda ar gyfer profiadau addysgol perthnasol pellach a chyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol