Arfer Effeithiol |

Arweinydd lleoliad yn cynorthwyo staff i sicrhau safonau cyson uchel

Share this page

Nifer y disgyblion
39
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am y lleoliad

Meithrinfa cyfrwng Cymraeg ym mhentref Gorslas, ger Llanelli, yw Meithrinfa Cae’r Ffair Limited.  Mae bron pob un o’r plant yn siarad Cymraeg gartref ac mae gan ychydig iawn ohonynt anghenion dysgu ychwanegol.  Agorwyd y lleoliad yn 2004 ac mae’n parhau o dan yr un berchnogaeth ac arweinyddiaeth.  Mae llawer o ymarferwyr wedi gweithio yn y lleoliad ers iddo agor.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

O’r cychwyn, mae arweinydd y lleoliad wedi cael gweledigaeth bwerus i ddarparu’r gofal a’r addysg o’r ansawdd gorau ar gyfer plant sy’n mynychu’r feithrinfa.  Mae ganddi ddisgwyliadau uchel ohoni hi ei hun, yr ymarferwyr a’r plant.  Mae’r arweinydd wedi llwyddo i gyflawni a chynnal safonau uchel o ran lles, gofal a datblygiad, addysgu a dysgu yn gyson dros flynyddoedd lawer.  I gyflawni’r safonau uchel hyn, mae arweinydd y lleoliad yn buddsoddi yn lles corfforol ac emosiynol yr holl ymarferwyr.  Mae’n arwain trwy esiampl ac yn dangos ei bod yn gwerthfawrogi cyfraniad ymarferwyr i lwyddiant y lleoliad.  Mae hyn yn dod â phob un o’r staff at ei gilydd mewn tîm cryf, yn barod i roi o’u gorau, gweithio’n galed a gwella eu harfer yn barhaus. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae arweinydd y lleoliad yn cyfathrebu’n effeithiol ag ymarferwyr, yn gwrando’n ofalus ar eu pryderon ac yn mynd i’r afael â’u hanghenion yn dda. 

Mae pob un o’r ymarferwyr yn cyfrannu’n bwrpasol at werthuso eu perfformiad a nodi cryfderau’r lleoliad a’r meysydd i’w datblygu.  Mae ganddynt lyfr personol i gofnodi eu cryfderau unigol ac unrhyw agwedd ar eu gwaith sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus, yn ogystal â thargedau datblygu.  Mae ymarferwyr yn rhannu arfer dda â’i gilydd trwy fodelu strategaethau neu weithgareddau sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus.  Mae hyn yn meithrin eu hyder ac yn creu ethos cadarnhaol o welliant parhaus yn y lleoliad.

Mae ymarferwyr yn elwa ar arfarniadau ddwywaith y flwyddyn.  Maent yn ateb deg cwestiwn sy’n canolbwyntio ar eu cryfderau ac unrhyw feysydd yr hoffent eu datblygu ymhellach.  Mae arweinydd y lleoliad yn gwrando’n ofalus ar unrhyw bryderon a cheisiadau am hyfforddiant, ac yn gweithredu’n briodol. 

Mae’r arweinydd yn sicrhau bod pob un o’r ymarferwyr yn meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o ddatblygiad plant, ac yn elwa ar hyfforddiant rheolaidd.  Yn aml, cyflwynir hyfforddiant i’r lleoliad cyfan i sicrhau’r effaith orau posibl.  Mae arweinydd y lleoliad yn mynychu hyfforddiant ochr yn ochr ag ymarferwyr fel ei bod yn clywed yr un negeseuon, yn deall unrhyw heriau ac yn gallu cynorthwyo ymarferwyr yn effeithiol i symud ymlaen.  Mae hyn yn cynorthwyo’r lleoliad i ddarparu profiadau dysgu arloesol a diddorol yn hynod lwyddiannus.  Er enghraifft, cafodd arweinydd ac ymarferwyr y lleoliad eu hysbrydoli yn dilyn hyfforddiant ynghylch ‘chwarae’r tu allan gyda’r elfennau’ i ddarganfod sut gallent drefnu bod plant yn elwa ar weithgareddau tân gwersyll yn ddiogel yn y lleoliad. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Mae’r lleoliad yn cynnig profiadau dysgu ysgogol sy’n hynod ymatebol i anghenion plant unigol.  Mae ymarferwyr yn datblygu medrau plant yn eithriadol o effeithiol mewn cyd-destunau ystyrlon, gan gynnwys profiadau dysgu wedi’u cynllunio’n dda yn yr awyr agored ac ymweliadau a ystyriwyd yn ofalus yn yr ardal leol.  Mae safon y gofal a gynigir yn y lleoliad ac ansawdd yr amgylchedd dysgu yn eithriadol o dda.  Mae plant yn ymgynefino’n gyflym yn y lleoliad ac maent yn hapus iawn yno.  Mae bron pob un o’r plant yn gwneud cynnydd cryf o ran datblygu ystod lawn y medrau o’u mannau cychwyn.  

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol