Arfer Effeithiol |

Alinio cyrhaeddiad a lles i olrhain cynnydd disgyblion

Share this page

Nifer y disgyblion
1035
Ystod oedran
11-16
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol gyfun gymysg cyfrwng Saesneg 11-16 sy’n gwasanaethu ochr ddwyreiniol Abertawe yw Ysgol Pentrehafod.  Mae poblogaeth yr ysgol wedi cynyddu’n raddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae 1,035 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd.  Mae’r ysgol yn ysgol arweiniol mewn partneriaeth addysg hyfforddiant cychwynnol i athrawon.

 
Mae tua 29% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae tua 34% o ddisgyblion ar y gofrestr anghenion addysgol arbennig, y mae gan 5% ohonynt ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  Mae tua 84% o ddisgyblion o gefndir ethnig Gwyn Prydeinig.  Mae tua 15% o ddysgwyr yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.
 
Mae gan yr ysgol gyfleuster addysgu arbennig sy’n darparu ar gyfer disgyblion ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.  Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn cynnwys y pennaeth, a ddechreuodd yn ei swydd ym mis Medi 2016, dirprwy bennaeth, dau bennaeth cynorthwyol a chyfarwyddwr busnes a chyllid yr ysgol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Y weledigaeth drosfwaol oedd adeiladu a defnyddio system olrhain ysgol gyfan sy’n alinio cyrhaeddiad a lles i ddarparu trosolwg mwy ‘cyflawn’ o gynnydd plentyn.  Crëwyd y system hon i alluogi athrawon a’r rhai nad ydynt yn athrawon i nodi’r ymyrraeth fwyaf priodol ac effeithiol cyn gynted ag y bo modd er mwyn cefnogi’r plentyn cyfan.  Rhaid blaenoriaethu adnoddau ym mhob ysgol, ac mae system fel hon, sy’n darparu ystod eang o ddata ‘byw’, yn galluogi arweinwyr i uchafu’r cyfle ar gyfer pob plentyn, fel ei fod yn cael yr ymyrraeth sydd ei angen arno.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Gweledigaeth arweinwyr oedd datblygu system olrhain sy’n defnyddio ystod eang o wybodaeth ar gyfer pob disgybl i sicrhau cymorth craff a thargedig ar gyfer pob disgybl unigol.  Mae’r system yn cynnwys rhagfynegiadau ar ddiwedd cyfnod allweddol, targedau ar gyfer pob disgybl i godi dyheadau, yn ogystal â chanlyniadau’r arolwg lles ar-lein i ddarparu trosolwg addysgiadol o les a safonau.  Mae’r trosolwg hwn yn ymgorffori oedrannau darllen a chyfraddau presenoldeb disgyblion.  Mae athrawon yn cyfrannu at y system gan rannu gwybodaeth yn rheolaidd am gynnydd academaidd ac agwedd pob disgybl at ddysgu ar raddfa 4 pwynt.  Yn ddelfrydol, dylai fod cysylltiad clir rhwng llwyddiant academaidd ac agwedd gadarnhaol at ddysgu.  Mae’r data olrhain hwn wedi’i godio â lliw yn erbyn y wybodaeth allweddol arall a ddelir am y plentyn i helpu staff i edrych yn gyfannol ar gynnydd pob disgybl, a nodi union natur unrhyw rwystrau rhag dysgu neu les. 

 
Mae staff yn defnyddio’r wybodaeth o’r system hon yn rhagweithiol i ddarparu cymorth a her deilwredig.  Er enghraifft, mae’r system yn galluogi’r ysgol i greu trosolygon effeithiol ‘Disgybl ar Dudalen’ ar gyfer pob disgybl, ac wedyn, defnyddir y rhain fel rhan o gyfarfodydd Gwella Cyflawniad a Chynnydd (RAP).  Yn ystod y cyfarfodydd hyn, mae tua 15-20 o gydweithwyr, gan gynnwys staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu, fel cynorthwywyr addysgu a’r cydlynydd gyrfaoedd, yn defnyddio’r olrhain byw i drafod dim mwy na phedwar o ddisgyblion Blwyddyn 9, 10 a 11.  Ar y cyd â gwybodaeth am les, mae’r dull hwn yn galluogi staff i gytuno ar ymyrraeth benodol ar gyfer disgyblion penodol, gydag arwyddair clir, sef ‘mae un maint yn gweddu i bawb’. 
 
Mae’r ymyriadau o’r system hon yn amrywio o gymorth â llythrennedd / rhifedd i grwpiau bach neu unigolion i ymyriadau lles teilwredig, gan gynnwys grwpiau mentora ac ymglymiad asiantaethau allanol, pan fydd angen.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r gwaith hwn wedi cyfrannu at welliant mewn deilliannau academaidd ar gyfer myfyrwyr, a synnwyr gwell o les i lawer.

 
Roedd deilliannau’r ysgol yn 2019, ar gyfer y rhan fwyaf o ddangosyddion, uwchlaw disgwyliadau wedi eu modelu ac mae’r ysgol yn parhau i gau’r bwlch ar gyfer myfyrwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn effeithiol.  Un o’r ffactorau allweddol sy’n cyfrannu at y llwyddiant hwn, sy’n gydnaws â dysgu ac addysgu effeithiol a chymorth targedig, yw’r hyder sylweddol mewn olrhain cyfannol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae gan Ysgol Pentrehafod berthnasoedd ysgol i ysgol sefydledig â thair ysgol uwchradd arall yn Abertawe.  Mae gan yr ysgol gysylltiadau cadarn â saith ysgol gynradd bartner hefyd.  Mae gweithgor llais y myfyrwyr ar draws sectorau, ac amrywiad o’r system olrhain ar draws y clwstwr.  Mae’r ysgol wedi rhannu ei systemau soffistigedig â’r rhan fwyaf o’r sefydliadau hyn, ac yn ehangach.  Yn fwyaf diweddar, mae ysgol yng Nghanolbarth Cymru yn defnyddio model Gwella Cyflawniad a Chynnydd Pentrehafod fel cyfrwng ar gyfer targedu llwyddiant myfyrwyr unigol. 

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol