Arfer Effeithiol |

Adeiladu ethos yn seiliedig ar barch ar y ddwy ochr

Share this page

Nifer y disgyblion
435
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol gymunedol gyd-addysgol 11 i 16 oed a gynhelir gan awdurdod lleol Abertawe yw Ysgol Gyfun Gellifedw.  Mae 428 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd.  Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardal faestrefol rhwng Castell-nedd ac Abertawe ar ochr ddwyreiniol Abertawe.

Mae tua 29% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, ac mae tua 40% ohonynt yn byw yn y 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.  Mae gan bron i 33% o ddisgyblion angen addysgol arbennig, gan gynnwys yn agos at 13% sydd â datganiad ar gyfer yr angen hwnnw.  Mae’r ddau ffigur yn llawer uwch na’r cyfartaleddau cenedlaethol.  Mae gan yr ysgol ddau gyfleuster addysgu arbenigol sy’n darparu ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu penodol a chymedrol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Dros y pedair blynedd ddiwethaf, ymunodd niferoedd sylweddol o ddisgyblion ag Ysgol Gyfun Gellifedw, naill ai ar ganol blwyddyn neu’n hwyr yn eu haddysg uwchradd (ym Mlynyddoedd 10 ac 11).  Roedd nifer o’r disgyblion a ymunodd wedi ymddieithrio o addysg, ac yn wynebu rhwystrau rhag dysgu.  Cafodd nifer gymharol uchel o ddisgyblion oedd ag agweddau negyddol at ddysgu eu derbyn gan yr ysgol trwy symudiadau rheoledig.  Fe wnaeth ail Gyfleuster Addysgu Arbenigol yn darparu ar gyfer Anhwylder y Sbectrwm Awtistig gynyddu’r angen i fynd i’r afael â rhwystrau sylweddol rhag dysgu disgyblion.  Roedd angen gweddu darpariaeth i allu dysgwyr sy’n agored i niwed, a lefel y cymorth a’r arweiniad oedd eu hangen arnynt.  

Cydnabu’r ysgol, er bod disgyblion yn ymateb yn dda i’r system gofal bugeiliol gref a’r cymorth a gynigir yn yr ysgol, roedd llawer ohonynt yn ei chael yn anodd cynnal cynnydd yn eu hastudiaethau wedi iddynt symud ymlaen i astudiaethau ôl-16.  Cadarnhaodd adborth gan rieni a chyn-ddisgyblion fod grŵp bach ond arwyddocaol o ddisgyblion yn methu gwneud cynnydd yn effeithiol yn eu meysydd dewisol mewn addysg ôl-16 a’u bod mewn perygl o fod yn bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Cydnabu arweinwyr yn yr ysgol y gellid diwallu anghenion nifer sylweddol o ddisgyblion yn well, a nodwyd nifer o feysydd darpariaeth ac arfer waith allweddol y gellid eu haddasu i fynd i’r afael ag anghenion y dysgwyr sy’n agored i niwed.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Darpariaeth y cwricwlwm

Nododd adolygiad llawn o’r cwricwlwm fod angen cyrsiau ychwanegol sy’n gweddu i anghenion disgyblion â chyflawniad uchel, ochr yn ochr â chynnydd mewn cyrsiau a oedd yn gweddu i anghenion dysgwyr sy’n agored i niwed.  Rhoddwyd ystyriaeth ofalus i ansawdd y cyrsiau galwedigaethol a gynigir i ddisgyblion.  Addaswyd cynlluniau cyflawni ar gyfer cyrsiau i sicrhau y gellid gwneud newidiadau i roi’r cyfle gorau i ddisgyblion sy’n ymuno â’r ysgol yn ystod cyfnod allweddol 4 ddal i fyny â’u cyfoedion, a llwyddo i ennill cymwysterau.  Datblygwyd darpariaeth amgen ac estynedig gyda chyrsiau arloesol i wella ymgysylltu a deilliannau ar gyfer disgyblion o bob gallu, gan ychwanegu gwerth at eu haddysg.

Ailstrwythuro systemau rheoli ymddygiad a strategaethau cymorth disgyblion

Disodlwyd systemau rheoli ymddygiad sefydledig â system symlach yn canolbwyntio ar feithrin deialog adferol am ddysgu disgyblion a rhoi perthnasoedd gwaith cryf rhwng yr athro a’r disgybl yn ganolog i’r broses.  Yn sgil parch ar y ddwy ochr, a llinellau cyfathrebu cryf rhwng rhieni a staff addysgu, atgyfnerthwyd rhwydwaith cymorth cydweithredol o amgylch disgyblion.  Mae’r ysgol wedi buddsoddi amser a hyfforddiant sylweddol i staff er mwyn sicrhau cysondeb yn y dulliau a’r strategaethau a ddefnyddir i gynorthwyo disgyblion.

Ethos

Datblygwyd ethos cynhwysol lle canolbwyntir yn bennaf ar barch a thrafodaeth wrth chwalu rhwystrau rhag dysgu.  Mae’r ffocws gyda dysgwyr sy’n agored i niwed wedi newid o ‘Beth sy’n mynd o chwith?’ i ‘Sut ydym ni’n datrys hyn a’i wneud yn well?’  Mae staff yn cynnal trafodaethau dathliadol a chefnogol gyda disgyblion sy’n trosglwyddo yn ystod y flwyddyn i helpu ennyn ymddiriedaeth a brwdfrydedd.  Mae gan bob un o’r staff y meddylfryd cyffredin hwn, ac yn darparu neges gyson i ddisgyblion.  Mae’r ysgol wedi symud oddi wrth ganolbwyntio ar fesuriadau cyfyng o lwyddiant, ar sail y prif ddangosyddion cenedlaethol, gan ffafrio yn hytrach gyflawniad unigol yn unol â nodau personol wedi’u seilio ar allu a’r heriau sy’n wynebu disgyblion.

Olrhain disgyblion proffil uchel

Caiff dysgwyr sy’n agored i niwed a nodwyd (trosglwyddiadau yn ystod blwyddyn, symudiadau rheoledig, ac ati) eu cyfweld pan fyddant yn ymuno â’r ysgol.  Mae’r broses yn gefnogol ac mae disgyblion yn darparu cyngor a gwybodaeth i helpu ffurfio eu darpariaeth cwricwlwm a’r cymorth sydd ei angen i ddiwallu eu hanghenion.  Pan fydd angen, caiff amserlen deilwredig ei datblygu ag opsiynau wedi eu haddasu i roi’r cyfle gorau i ddisgyblion ymgysylltu o’r newydd â dysgu, ac ennill deilliannau credadwy.  Mae llinellau cyfathrebu cryf â rhieni yn sicrhau bod anghenion a heriau disgyblion yn cael eu diwallu.  Mae tîm bugeiliol dynodedig yn gweithio gydag athrawon, anogwyr dysgu, penaethiaid blwyddyn, uwch arweinwyr ac asiantaethau allanol i gynorthwyo dysgwyr.  Caiff teithiau dysgu disgyblion eu mapio cyn iddynt ymuno â’r ysgol hyd nes y byddant yn cwblhau eu haddysg.  Caiff y wybodaeth hon a’r cynnydd eu rhannu â’r disgyblion mewn cyfarfodydd cynnydd.   O ganlyniad i weledigaeth y pennaeth ar gyfer ethos cynhwysol, mae’r ysgol yn gweithio’n llwyddiannus gyda rhieni, disgyblion a’r awdurdod lleol i sicrhau bod pob plentyn sydd eisiau bod yn rhan o Ysgol Gyfun Gellifedw yn gallu bod yn rhan ohoni.

Cynllunio yn canolbwyntio ar y disgybl

Caiff cymorth i ddisgyblion ei gynllunio a’i gydlynu’n dda.  Mae llinellau cyfathrebu cryf a chamau cyflym i gynorthwyo disgyblion, lle mae angen, yn allweddol i gynnal disgyblion tariff uchel, sy’n agored i niwed, mewn addysg.  Mae gan rieni / gofalwyr rôl allweddol mewn cyfarfodydd lle caiff darpariaeth ar gyfer disgyblion sy’n symud yn ystod blwyddyn a disgyblion sy’n symud trwy symudiadau rheoledig    ei ffurfio.  Bydd monitro ac adborth dyddiol yn cael ei roi trwy systemau’r ysgol, sy’n galluogi disgyblion a rhieni i olrhain cynnydd ac adroddiadau gan athrawon dosbarth fesul gwers.

Cefnogi addysg ôl-16 disgyblion

Mae cyfweliadau un i un ac ymweliadau grwpiau bach â chyrsiau a nodwyd mewn colegau a ffeiriau gyrfaoedd arbenigol, yn ogystal ag ymweliadau â cholegau ar gyfer disgyblion sydd mewn Cyfleuster Addysgu Arbenigol, yn cynorthwyo disgyblion yn effeithiol trwy gyfnod pontio. 

Mae’r ysgol yn canolbwyntio o hyd ar ofal, cymorth ac arweiniad i ddisgyblion Gellifedw yn y sector ôl-16.  Caiff disgyblion sy’n agored i niwed a chyn-ddisgyblion sydd angen cymorth ychwanegol eu monitro i sicrhau eu bod yn trosglwyddo’n llwyddiannus i lwybrau dysgu addas.  Mae’r ysgol wedi nodi bod grwpiau o ddysgwyr yn aml yn ymddieithrio o gyrsiau coleg tuag at ddiwedd yr hanner tymor cyntaf.  O ganlyniad, mae’r ysgol yn annog disgyblion i ddychwelyd ar gyfer digwyddiadau fel nosweithiau cyflwyno ar ôl yr hanner tymor cyntaf.  Mae staff ac asiantaethau cymorth yn ymgysylltu â’r dysgwyr hyn i asesu cynnydd ac opsiynau ôl-16 ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o adael addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.  Mae’r ysgol a’r asiantaethau yn gweithio gyda disgyblion i nodi llwybr dysgu mwy addas.  Mae cysylltiadau cryf â Gyrfa Cymru a cholegau yn meithrin cymorth cadarnhaol ar gyfer dysgwyr unigol sydd mewn perygl o adael eu cyrsiau ôl-16. 

Mae’r ysgol yn darparu cyfleoedd profiad gwaith ar gyfer cyn-ddisgyblion sydd bellach yn ddysgwyr nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, gan alluogi iddynt elwa ar gymorth a mentora gan staff sy’n ymwybodol o anghenion yr unigolion.  Pan fydd yn briodol, mae’r ysgol wedi gweithredu fel canolfan arholi, gan roi cyfle i gyn-ddisgyblion fynychu dosbarthiadau adolygu ac ailsefyll arholiadau TGAU i wella eu graddau fel ymgeiswyr allanol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae ffocws yr ysgol ar gynhwysiant wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn cyfraddau gwaharddiadau, sy’n isel iawn erbyn hyn.  Mae’r ysgol yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn gweithio’n llwyddiannus â disgyblion nad ydynt wedi ymgysylltu ag addysg mewn ysgolion eraill yn y gorffennol.

Mae presenoldeb yn yr ysgol yn uchel, a phrydlondeb yn gryf.  Mae disgyblion â chyflawniad uchel wedi elwa ar ddarpariaeth y cwricwlwm ehangach, a mwy o ymgysylltu â dysgu ar draws yr ysgol.  Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae 13% o ddisgyblion bob blwyddyn wedi ennill pum gradd A*-A mewn TGAU neu gyfwerth, ar gyfartaledd, sydd ymhell uwchlaw deilliannau wedi’u modelu.  Mae’r ysgol yn falch nad oes yr un plentyn yn gadael yr ysgol heb gymwysterau.  Mae niferoedd sylweddol o ddisgyblion a oedd allan o addysg yn y gorffennol wedi cael eu hailintegreiddio i’r brif ffrwd a Chyfleuster Addysgu Arbenigol yr ysgol, gan lwyddo i ennill cymwysterau TGAU a sgorau gwerth ychwanegol uchel.  Mae pob un o’r prif ddangosyddion yn dangos tuedd gadarnhaol dros dair blynedd.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae aelodau o uwch dîm arweinyddiaeth (UDA) yr ysgol wedi rhannu strategaethau cynhwysiant yr ysgol ag ysgolion eraill yn yr awdurdod lleol a’r rhanbarth.  Mae staff arweiniol o fewn Cyfleuster Addysgu Arbenigol yr ysgol wedi darparu hyfforddiant i gydweithwyr o ysgolion eraill fel rhan o ddysgu proffesiynol.  Defnyddiwyd cyfarfodydd rhwydwaith penaethiaid ac uwch arweinwyr i rannu arfer ag ysgolion eraill.  Gofynnodd yr awdurdod lleol i Gellifedw ddarparu astudiaeth achos arfer orau i’w chynnwys yn y Cyfleuster Addysgu Arbenigol a’r ddarpariaeth prif ffrwd.  Mae aelodau’r UDA wedi cefnogi darpariaeth arbenigol ac unedau cyfeirio disgyblion yr awdurdod lleol.

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Effaith absenoldeb athrawon - Medi 2013

pdf, 694.84 KB Added 01/09/2013

Mae’r adroddiad yn archwilio ‘effaith strategaethau ysgolion i gyflenwi yn ystod absenoldeb athrawon ar gynnydd dysgwyr a chyflogaeth, hyfforddiant a defnyddio athrawon cyflenwi yn effeithiol ac ef ...Read more