Cydnabod rhagoriaeth mewn addysg a hyfforddiant 2015 - 2016

Share this page

Mae angen gwaith caled, arweinyddiaeth gref, gweledigaeth glir ac ymrwymiad diflino i welliant i gyflawni barn gyffredinol ‘rhagorol’ mewn arolygiad.
Yn 2015-2016, llwyddodd 28 o ddarparwyr i gyrraedd y safon uchel hon.

Fe wnaethom nodi eu cyflawniad mewn digwyddiad ar 9 Mawrth 2017, a fynychwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, Kirsty Williams.

Rydym yn rhannu rhai o’r negeseuon ysbrydoledig o’r digwyddiad (ac o’r arolygiadau) mewn cyhoeddiad byr.
Diweddarwyd y dudalen hon ar 06/08/2020
Rhan o Cydnabod rhagoriaeth mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru