Beth rydym yn ei arolygu

Share this page

Rydym ni’n arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Ystyr y gair Estyn yw ‘cyrraedd’ ac ‘ymestyn’.

Fel corff y Goron, fe’n sefydlwyd o dan Ddeddf Addysg 1992. Rydym yn annibynnol ar Senedd Cymru ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).
Diweddarwyd y dudalen hon ar 09/09/2022

Ansawdd a safonau

Rydym ni’n arolygu ansawdd a safonau mewn:

  • ysgolion a lleoliadau meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol
  • ysgolion cynradd
  • ysgolion uwchradd
  • ysgolion arbennig
  • unedau cyfeirio disgyblion
  • ysgolion annibynnol
  • ysgolion pob oed
  • addysg bellach
  • colegau arbenigol annibynnol
  • dysgu oedolion yn y gymuned
  • gwasanaethau addysg llywodraeth leol
  • addysg a hyfforddiant athrawon
  • Cymraeg i oedolion
  • dysgu yn y gwaith
  • dysgu yn y sector cyfiawnder
     

Cyngor ac arweiniad

Yn ogystal ag arolygu, rydym yn rhoi cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru ar ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant. 

Gwnawn hyn trwy ein hadroddiadau thematig, sy’n cael eu comisiynu gan y Gweinidog Addysg ac sy’n cwmpasu amrywiaeth o sectorau a themâu. Bwriedir i’n hadroddiadau annog meddwl ehangach a rhannu arfer effeithiol.

Darllenwch ymateb Llywodraeth Cymru i’n hadroddiadau thematig. 

Pam rydym ni’n arolygu

Mae deddfwriaeth yn amlinellu pwerau Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys yr hyn y gall neu y mae’n rhaid i’r Prif Arolygydd ei arolygu ac adrodd arno, pa mor aml y mae’n rhaid arolygu ysgolion a darparwyr eraill, a manylion ar gyfer cyhoeddi adroddiadau arolygu.

Deddfwriaeth 

O dan Ddeddf Addysg 2005 mae gan y Prif Arolygydd ddyletswydd i roi gwybod i’r Senedd Cymru am ansawdd yr addysg mewn ysgolion. Hefyd, gall gynghori ar faterion yn ymwneud ag ysgolion, neu ysgol benodol.

Yn yr un modd, o dan y Ddeddf Dysgu a Sgiliau, gall y Prif Arolygydd gynghori Senedd Cymru ar faterion yn ymwneud ag addysg neu hyfforddiant i’r rheiny sy’n 16 oed neu’n hŷn mewn darparwyr a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Y brif ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n llywodraethu ein harolygiadau yw: 

  • Deddf Addysg 2005 (lleoliadau meithrin nas cynhelir, ysgolion a gynhelir ac UCDau) 
  • Deddf Addysg 2002 (ysgolion annibynnol)
  • Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (darparwyr ôl-16)
  • Deddf Addysg 1997 (awdurdodau lleol)
  • Deddf Addysg 1994 (addysg athrawon) 

Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys gofynion ychwanegol ar gyfer rhai sectorau addysg a hyfforddiant, yn enwedig ysgolion a gynhelir. Mae’n cynnwys darpariaeth ar gyfer arolygwyr ychwanegol ac Arolygwyr Cofrestredig, ac ar gyfer gosod ysgolion mewn categorïau pryder, fel mesurau arbennig neu welliant sylweddol. 
 
Yn ogystal, mae’r ddeddfwriaeth yn nodi bod rhaid arolygu pob lleoliad meithrin nas cynhelir, ysgol a gynhelir ac Uned Cyfeirio Disgyblion o fewn y cyfnod wyth blynedd rhwng Medi 2016 ac Awst 2023. 

Arfer effeithiol

Pan fyddwn yn gweld arfer ddiddorol ac effeithiol yn ystod arolygiad, rydym bob amser yn awyddus i’w rhannu.

Rydym yn gwahodd ysgolion a darparwyr eraill i ysgrifennu astudiaethau achos pan fyddwn o’r farn bod ganddynt rywbeth pwysig i’w rannu.

Cydweithio

Rydym yn cydweithio ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Archwilio Cymru (AC). Gyda’n gilydd, ni yw Arolygu Cymru, sef menter ar y cyd rhwng y pedwar prif gorff arolygu, archwilio ac adolygu yng Nghymru.

Rydym yn arolygu darpariaeth addysg a hyfforddiant yn y sector cyfiawnder gan weithio gyda:

  • AGIC, yn achos Cartrefi Plant Diogel
  • Carchardai AEM, yn achos carchardai a sefydliadau troseddwyr ifanc
  • Gwasanaeth Prawf AEM, yn achos Gwasanaethau Troseddu Ieuenctid.

Hefyd, rydym yn arolygu dysgwyr yn Lloegr sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n mynychu colegau arbennig annibynnol, cyrsiau dysgu yn y gwaith, a darpariaeth ar gyfer pobl ifanc mewn timau troseddau ieuenctid.  

Ein strwythur

Owen Evans yw Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (PAEM). Caiff ei gynorthwyo gan ddau Gyfarwyddwr Strategol, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol a phum Cyfarwyddwr Cynorthwyol. 


Mae pob un o’r staff corfforaethol yn gweithio yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, tra bod Arolygwyr Ei Fawrhydi (AEF) yn gweithio gartref.

Byrddau Strategaeth a Gweithredol

Mae Bwrdd Gweithredol yn cefnogi a chynorthwyo PAEM wrth arwain a rheoli Estyn.

Mae Bwrdd Strategaeth yn gosod a monitro ein hagenda strategol. Mae ganddo ddau is-bwyllgor: Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a’r Pwyllgor Tâl. 

Rydym yn cadw cofrestr buddiannau ar gyfer aelodau’r Bwrdd ac ar gyfer yr holl gyflogeion parhaol, secondeion a staff dros dro. Nid oes gan unrhyw un o’n Haelodau Bwrdd swydd cyfarwyddwr na buddiannau arwyddocaol eraill a allai wrthdaro â’u cyfrifoldeb rheoli. 
 

pdf, 165.94 KB

Rhan o Ein gwaith