Adroddiad thematig |

Rhwystrau rhag prentisiaeth - Tachwedd 2014

Share this page

Adroddiad thematig | 01/11/2014

pdf, 690.56 KB Added 01/11/2014

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amlinellu polisi llywodraeth y DU ar gyfer sicrhau bod pawb yn y DU yn cael eu trin yn deg, sicrhau nad ydynt yn cael eu gwneud yn destun gwahaniaethu a’u bod yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd. Mae Cynllun ac Amcanion Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru (2012-2016) yn amlinellu ei hamcanion ar gyfer pobl Cymru mewn perthynas â Deddf 2010. Mae’r amcanion hyn yn cynnwys cyfle cyfartal i bawb a’r hawl i bawb gael eu trin yn dda a pheidio â bod yn destun gwahaniaethu. Yn ei lythyr cylch gwaith blynyddol i Estyn 2013-2014, gofynnodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau i Estyn gynnal arolwg i rwystrau rhag prentisiaethau sy’n codi yn sgil unrhyw anawsterau gan ddysgwyr o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a’r rheini ag anableddau wrth ymgymryd â rhaglenni prentisiaeth. Mae’r arolwg hefyd yn nodi materion stereoteipio’r rhywiau mewn prentisiaethau’r sectorau galwedigaethol.Hwn yw’r cyntaf o ddau adroddiad mewn cyfres o ddau arolwg, a bydd yr ail yn canolbwyntio ar astudiaethau achos arfer dda y gellir eu defnyddio i lywio gwelliant.

Argymhellion

Er mwyn gwella’r niferoedd sy’n ymgymryd â phrentisiaethau, dylai Llywodraeth Cymru barhau i wneud y canlynol:

  • defnyddio ‘Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau’ i dargedu hyrwyddo prentisiaethau i rieni a dysgwyr o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a dysgwyr anabl, ac i fynd i’r afael â stereoteipio’r rhywiau;
  • mewn partneriaeth â darparwyr DYYG, ysgolion, grwpiau cymunedol pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, grwpiau sy’n cynrychioli pobl anabl, Gyrfa Cymu a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, comisiynu ymgyrch farchnata Cymru gyfan i gynyddu ymwybyddiaeth a hyrwyddo prentisiaethau i grwpiau sydd ar ymylon cymdeithas ac i fynd i’r afael â stereoteipio’r rhywiau. Dylai’r gynulleidfa darged gynnwys rhieni, athrawon, dysgwyr a chyflogwyr;
  • gwneud yn siŵr bod cyflogwyr yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddynt wrth dderbyn prentisiaid ag anghenion cymorth neu ddysgu penodol, gan gynnwys y rheini sydd angen cymorth arnynt i ddatblygu’r Saesneg;
  • adolygu’r dyraniad presennol o leoedd prentisiaeth er mwyn bodloni’r galw lleol, gan gynnwys annog sefydliadau’r sector cyhoeddus i dderbyn prentisiaid, gyda ffocws ar recriwtio o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a dysgwyr ag anabledd; a
  • gweithio gyda darparwr DYYG i ddatblygu ymhellach eu polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth a’u dulliau gweithredu, gan gynnwys rhannu arfer orau.

Dylai darparwyr dysgu yn y gwaith:

  • weithio’n agosach ag ysgolion, cyflogwyr, arweinwyr cymunedol a sefydliadau sy’n cynrychioli dysgwyr duon a lleiafrifoedd ethnig a dysgwyr anabl er mwyn gwella ymwybyddiaeth o brentisiaethau;
  • gweithio’n fwy effeithiol gyda darparwyr addysg lleol ac asiantaethau eraill i wneud yn siŵr bod profiad ac adnoddau gwerthfawr yn cael eu rhannu i gynorthwyo prentisiaid o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig;
  • gweithio gydag arweinwyr cymunedol i nodi cydlynwyr cymunedol sy’n barod i gydlynu camau gweithredu i gynyddu ymwybyddiaeth o brentisiaethau yn y cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig;
  • defnyddio modelau rôl i hyrwyddo prentisiaethau yn y gymuned; a
  • gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff dyfarnu i ddatblygu mwy o ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i gyflwyno rhai elfennau o gymhwyster ar gyfer dysgwyr ag anableddau.