Adroddiad thematig |

Rhifedd yng nghyfnodau allweddol 2 a 3: astudiaeth gwaelodlin - Mehefin 2013

Share this page

Adroddiad thematig | 01/06/2013

pdf, 743.13 KB Added 01/06/2013

Yr adroddiad hwn yw’r cyntaf mewn cyfres i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2012-2013. Mae’n edrych ar safonau mewn rhifedd yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 a’r modd y mae sampl o ysgolion cynradd ac uwchradd yn datblygu medrau rhifedd disgyblion ar draws y cwricwlwm. Bydd arolygwyr yn ailymweld â’r un ysgolion dros y ddwy flynedd nesaf a bydd adroddiadau diweddarach yn canolbwyntio ar weithredu ac effaith cydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd (FfLlRh), sy’n dod yn statudol ym Medi 2013.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • wneud yn siŵr bod disgyblion yn meistroli medrau rhif sylfaenol yn drylwyr mewn gwersi mathemateg a chael strategaethau effeithiol i alw ffeithiau rhif hanfodol i gof yn gyflym ac yn gywir;
  • cytuno ar ddulliau ysgol gyfan o wneud cyfrifiadau syml;
  • rhoi mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio medrau rhifedd, yn enwedig mewn medrau rhif a rhesymu rhifiadol, mewn pynciau ar draws y cwricwlwm;
  • gwneud yn siŵr bod gweithgareddau rhifedd yn ymestyn disgyblion yn briodol, gan gynnwys y rhai mwy abl;
  • asesu ac olrhain cynnydd disgyblion mewn medrau rhifedd ar draws y cwricwlwm a defnyddio gwybodaeth asesu i gynllunio gweithgareddau rhifedd gwell;
  • cynllunio gweithgareddau pontio ysgol gynradd/uwchradd i gefnogi cysondeb a dilyniant ym medrau rhifedd disgyblion;
  • rhoi cyfleoedd i gydlynwyr rhifedd ac adrannau mathemateg weithio gydag athrawon eraill i wella eu gwybodaeth, eu medrau a’u hyder i ddatblygu medrau rhifedd disgyblion; a
  • monitro ac arfarnu effaith strategaethau ar gyfer gwella rhifedd.

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • gefnogi ysgolion i helpu staff i wella eu gwybodaeth, eu medrau a’u hyder i ddatblygu rhifedd disgyblion trwy eu pynciau; a
  • rhannu arfer orau rhwng ysgolion.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol