Adroddiad thematig |

Rhifedd yng nghyfnodau allweddol 2 a 3: adroddiad interim - Tachwedd 2014

Share this page

Adroddiad thematig | 01/11/2014

pdf, 526.02 KB Added 01/11/2014

Yr adroddiad hwn yw’r ail mewn cyfres a gyhoeddir i ymateb i gais am gyngor yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2012-2013. Mae’n edrych ar safonau mewn rhifedd yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 a’r modd y mae sampl o ysgolion cynradd ac uwchradd yn datblygu medrau rhifedd disgyblion ar draws y cwricwlwm dros gyfnod o dair blynedd. Ar gyfer yr adroddiad hwn, bu arolygwyr yn ail-ymweld â’r ysgolion a gyfranogodd yn astudiaeth gwaelodlin rhifedd 2013 er mwyn arfarnu cynnydd dros y 12 mis diwethaf. Bydd arolygwyr yn ymweld â’r un ysgolion y flwyddyn nesaf am y tro olaf i asesu pa un a oes cynnydd wedi’i wneud neu pa gynnydd sydd wedi’i wneud, gan gyfeirio’n benodol at sut mae ysgolion wedi bod yn rhoi elfen rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol ar waith, a ddaeth yn statudol ym Medi 2013.Y gynulleidfa a fwriedir ar gyfer yr adroddiad hwn yw Llywodraeth Cymru, penaethiaid ac ymarferwyr mewn ysgolion, a swyddogion ac ymgynghorwyr mewn awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • sicrhau bod disgyblion yn meistroli medrau rhif pwysig, fel rhannu, gwaith gyda mesurau metrig, canrannau, cymarebau a chyfrannau, mewn gwersi mathemateg;
  • datblygu medrau rhesymu rhifiadol disgyblion mewn gwersi mathemateg ac mewn pynciau eraill;
  • ehangu’r cyfleoedd i ddisgyblion o bob gallu ddefnyddio’u medrau rhifedd mewn pynciau ar draws y cwricwlwm;
  • cynorthwyo staff i ehangu’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o strategaethau i ddefnyddio rhifedd ar draws y cwricwlwm;
  • gwella asesu ac olrhain medrau rhifedd disgyblion;
  • cryfhau gweithdrefnau ar gyfer arfarnu darpariaeth rhifedd; a
  • gweithio’n agosach gydag ysgolion clwstwr i ddatblygu mwy o gysondeb mewn addysgu ac asesu medrau rhifedd disgyblion.

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • gynorthwyo ysgolion i helpu staff wella’u gwybodaeth, medrau a hyder wrth ddatblygu medrau rhifedd disgyblion drwy eu pynciau; a
  • rhannu arfer orau rhwng ysgolion.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ystyried datblygu system genedlaethol ar gyfer olrhain medrau rhifedd disgyblion.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol