Adroddiad thematig |

Rheoli presenoldeb gweithlu ysgolion yn effeithiol mewn ysgolion cynradd

Share this page

Adroddiad thematig | 05/01/2017

pdf, 921.71 KB Added 05/01/2017

Mae’r adroddiad yn arfarnu effaith arweiniad Llywodraeth Cymru ar ‘Rheoli presenoldeb gweithlu ysgolion yn effeithiol’ mewn ysgolion cynradd. Mae’n ystyried pa mor dda y mae ysgolion cynradd, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol wedi rhoi’r arweiniad ar waith a’r effaith y mae wedi ei chael ar reoli absenoldeb athrawon a phenaethiaid.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A1 Hyrwyddo’r ddogfen ‘Rheoli Presenoldeb Gweithlu Ysgolion yn Effeithiol’ yn ehangach
  • A2 Rhoi arweiniad i ysgolion ac awdurdodau lleol ar fonitro, cofnodi ac arfarnu effaith absenoldeb staff o ganlyniad i weithgareddau heblaw salwch, fel hyfforddiant, cynadleddau a chymorth o ysgol i ysgol
  • A3 Darparu arweiniad ar reoli absenoldeb penaethiaid yn effeithiol
  • A4 Sicrhau yr eir i’r afael â darpariaeth staff cyflenwi yn y sector cyfrwng Cymraeg wrth adolygu’r strategaeth gweithlu athrawon

Dylai awdurdodau lleol:

  • A5 Sicrhau bod hyfforddiant ar reoli presenoldeb gweithlu ar gael i bob pennaeth a’i fod yn ffurfio rhan o becyn ymsefydlu ar gyfer yr holl benaethiaid newydd a benodir
  • A6 Darparu data meincnodi rheolaidd i ysgolion ar bresenoldeb staff yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru

Dylai ysgolion:

  • A7 Fonitro gwaith athrawon cyflenwi yn rheolaidd a sicrhau bod pob disgybl yn parhau i wneud cynnydd priodol pan fydd eu hathro dosbarth arferol yn absennol
  • A8 Rhoi adborth i athrawon cyflenwi ar eu perfformiad
  • A9 Sicrhau bod athrawon cyflenwi yn gallu mynd at ddogfennau cynllunio athrawon bob amser

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol