Adroddiad thematig |

Presenoldeb mewn ysgolion uwchradd - Medi 2014

Share this page

Adroddiad thematig | 01/09/2014

pdf, 938.24 KB Added 01/09/2014

Hwn yw’r cyntaf o ddau adroddiad i ymateb i gais am gyngor ar bresenoldeb gan Lywodraeth Cymru yn y llythyr cylch gwaith blynyddol i Estyn ar gyfer 2013-2014 gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar strategaethau a chamau gweithredu mewn ysgolion uwchradd ac awdurdodau lleol i wella presenoldeb. Bydd yr ail adroddiad yn canolbwyntio ar strategaethau a chamau gweithredu mewn ysgolion cynradd i wella presenoldeb. Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos arfer orau. Mae wedi’i fwriadu ar gyfer Llywodraeth Cymru, penaethiaid a staff mewn ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Gweler atodiad 1 am sail y dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • wneud defnydd gwell o ddata presenoldeb i lywio’u dull o wella presenoldeb disgyblion, yn enwedig y rhai o grwpiau sy’n agored i niwed, fel absenoldebau parhaus, disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion ag anghenion addysgol arbennig;
  • gwella’r addysgu a’r cwricwlwm a gynigir i ymgysylltu â disgyblion i’r eithaf ac archwilio dulliau fel arfer adferol, canolfannau cymorth i ddisgyblion, mentora cyfoedion a grwpiau anogaeth;
  • cryfhau’r cysylltiadau gydag asiantaethau neu wasanaethau allanol sy’n cynorthwyo ag ymgysylltu â theuluoedd a’u cefnogi;
  • ymgysylltu’n fwy â disgyblion mewn datblygu’r polisi neu’r strategaeth presenoldeb, er enghraifft trwy gynghorau ysgolion;
  • sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant cyfoes ar faterion fel bwlio ac anghenion grwpiau sy’n agored i niwed;
  • cydymffurfio â’r rheoliadau cofrestru disgyblion wrth gofnodi’n gywir bresenoldeb disgyblion sy’n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol ac wrth dynnu disgyblion oddi ar gofrestr yr ysgol; a
  • sicrhau bod mentrau i wella presenoldeb yn cael eu harfarnu’n drylwyr.

Dylai awdurdodau lleol:

  • rhoi hyfforddiant i ysgolion ar ddeall a dadansoddi data presenoldeb ac arweiniad clir ar ddefnyddio codau presenoldeb yn gywir;
  • dadansoddi patrymau presenoldeb i lywio strategaeth gorfforaethol i wella presenoldeb disgyblion, yn enwedig y rhai o grwpiau sy’n agored i niwed;
  • ymchwilio i, a herio’r amrywiad o ran defnyddio codau presenoldeb;
  • gwella gwybodaeth ysgolion am flaenoriaethau, mentrau a grantiau cenedlaethol perthnasol;
  • nodi a rhannu arfer enghreifftiol o fewn ffiniau’r consortia a’r tu hwnt; a
  • sicrhau bod gwasanaethau gwella ysgolion yn ymwybodol o’r wybodaeth sy’n cael ei chadw gan wasanaethau lles addysg, ac yn ei defnyddio.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • egluro’r cyfrifoldeb am bresenoldeb o fewn awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol; ac
  • fel rhan o’r fframwaith dadansoddi presenoldeb, parhau i ddarparu a chyhoeddi dadansoddiadau cynhwysfawr o ddata presenoldeb ar gyfer awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol