Adroddiad thematig |

Pa mor dda y mae sefydliadau addysg bellach yn rheoli cwynion gan ddysgwyr? - Mai 2015

Share this page

Yn gyffredinol, mae gweithdrefnau cwynion mewn sefydliadau addysg bellach wedi’u dogfennu’n glir ac yn gynhwysfawr, er bod gormod o anghysondeb rhwng sefydliadau o ran y modd y caiff cwynion eu rheoli. Mae gwahaniaethau’n bodoli rhwng sefydliadau hefyd o ran y modd y maent yn diffinio beth yw cwyn a’r graddau y maent yn darparu gwybodaeth i ddysgwyr am sut i wneud cwyn. Yn yr arolwg, ni wnaeth Estyn ddarganfod yr un sefydliad â system sicrhau ansawdd i wneud yn siŵr bod cwynion yn cael eu trin yn ôl safon gyson ar draws y sefydliad.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • gyhoeddi arweiniad pellach i helpu sefydliadau ddatblygu eu gweithdrefnau cwynion dysgwyr, gan gynnwys diffiniadau o fathau arbennig o gŵynion
  • sicrhau bod yr arolwg blynyddol Llais y Dysgwr Cymru yn cipio profiadau dysgwyr o wneud cwynion, a’u boddhad â’r broses, yn ddigonol
  • gweithio gyda’r sector i ystyried ymarferoldeb corff apeliadau allanol ar gyfer dysgwyr AB ôl-16 yng Nghymru, gyda phwerau i adolygu cwynion myfyrwyr a’u canlyniadau
     

Dylai sefydliadau:

  • ddwyn yn eu blaen y materion a nodwyd gan UCM yn eu hadroddiad 2011 ar gŵynion myfyrwyr
  • gwneud yn siŵr fod yr holl ddeunyddiau am sut i wneud cwyn ar gael yn rhwydd drwy’r adrannau o’u gwefannau ar gyfer y cyhoedd, a’u bod hefyd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg
  • mynnu bod uwch reolwyr yn gwirio pa mor gyson a thrylwyr y cynhelir ymchwiliadau i gŵynion gan bob un o’u staff, ac ar draws pob safle campws
  • hyfforddi pob aelod o staff a chynrychiolwyr dysgwyr i reoli gweithdrefnau cwynion y sefydliad
  • gwneud yn siŵr bod mecanweithiau yn eu lle i wahaniaethu rhwng cwynion lefel isel a chwynion mwy difrifol, ac i gofnodi pob cwyn, p’un a gafodd ei gwneud yn llafar neu’n ysgrifenedig
  • defnyddio’r holl dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys adborth dysgwyr, i lywio’r dadansoddiad manwl o ansawdd y polisi a’r gweithdrefnau cwynion, yn ogystal â’r patrymau, tueddiadau a rhesymau sylfaenol ar gyfer cwynion er mwyn llywio systemau ansawdd a chynllunio strategol