Adroddiad thematig |

Mynd i'r afael a thlodi ac anfantais mewn ysgolion: cydweithio ar gymuned a gwasanaethau eraill - Gorffennaf 2011

Share this page

Mae angen i ysgolion wneud yn well o ran nodi a chefnogi dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig. Mae angen iddynt dargedu cymorth at ddysgwyr dan anfantais yn fwy penodol, nid dysgwyr y mae eu perfformiad yn isel yn unig, yn cynnwys y disgyblion hynny sy’n cyflawni safonau cyfartalog neu uwchlaw’r cyfartaledd.Mae’r nifer fach o ysgolion sydd wedi gwella cyflawniad eu dysgwyr sydd dan anfantais wedi gwneud hynny trwy addysgu a gweithgareddau effeithiol wedi’u seilio ar fedrau a oedd yn targedu cymorth ar gyfer dysgwyr unigol, fel mentora neu gymorth â medrau sylfaenol.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • ddatblygu dull mwy systematig o wella safonau dysgwyr dan anfantais;
  • gwneud yn siŵr bod y cwricwlwm cyfan, yn cynnwys darpariaeth y tu allan i oriau, yn cefnogi anghenion dysgwyr dan anfantais;
  • gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu atebion i broblemau anfantais; ac
  • arfarnu effaith strategaethau i fynd i’r afael ag anfantais ar gyflawniad dysgwyr.

Dylai awdurdodau lleol:

  • herio a chefnogi ysgolion i ddefnyddio data i nodi a monitro cynnydd dysgwyr dan anfantais; a
  • datblygu systemau i rannu gwybodaeth am ddysgwyr dan anfantais gydag ysgolion ac ar draws gwasanaethau.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • weithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i gytuno ar gylch gwaith mwy penodol ar gyfer ysgolion bro.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol