Adroddiad thematig |

Lythrennedd a'r Cyfnod Sylfaen - Medi 2011

Share this page

Adroddiad thematig | 01/09/2011

pdf, 563.07 KB Added 01/09/2011

Mae’r Cyfnod Sylfaen yn cael effaith gadarnhaol ar les plant pump i chwech oed. Mae’r mwyafrif o ysgolion cynradd yn darparu amgylchedd amrywiol, cynhyrchiol a chymhellol i blant lwyddo a datblygu eu medrau mewn darllen ac ysgrifennu.Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, mae diffyg dealltwriaeth o egwyddorion ac arferion y Cyfnod Sylfaen ac ni chaiff plant eu herio digon i ymarfer eu medrau llythrennedd.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • ddefnyddio’r awgrymiadau yn Atodiad 2 yr adroddiad i helpu arfarnu eu harfer a hyrwyddo gwelliant;
  • sicrhau bod cyfleoedd rheolaidd, wedi’u cynllunio’n dda i blant wella eu medrau darllen ac ysgrifennu;
  • datblygu cydbwysedd gwell rhwng dysgu wedi’i ysgogi an blant a dysgu wedi’i arwain gan ymarferwyr; a
  • cynllunio gweithgareddau mwy heriol i ddatblygu medrau meddwl, cyfathrebu, rhifedd a TGCh ar draws y meysydd dysgu.

Dylai awdurdodau lleol:

  • gefnogi pob ysgol i ddatblygu gwybodaeth gadarn am egwyddorion ac arfer y Cyfnod Sylfaen.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • gyhoeddi arweiniad ar arfer dda i gefnogi ysgolion yn y meysydd a amlinellir uchod.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol