Adroddiad thematig |

Ieithoedd Tramor Modern

Share this page

Adroddiad thematig | 12/07/2016

pdf, 838.85 KB Added 12/07/2016

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu mewn ieithoedd tramor modern, a datblygiadau a materion mewn addysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru ers ein hadroddiad diwethaf a gyhoeddwyd yn 2009.

Argymhellion

Dylai athrawon ieithoedd tramor modern:

  • A1 Gwella ansawdd yr addysgu mewn ieithoedd tramor modern trwy sicrhau eu bod:
    • yn cynyddu’r defnydd o’r iaith asesedig fel yr iaith cyfarwyddo ar draws cyfnod allweddol 3, cyfnod allweddol 4 ac yn y sector ôl-16
    • yn helpu dysgwyr i gael amgyffrediad cadarn o reolau ynganu’r iaith y maent yn ei dysgu
    • yn helpu dysgwyr i ddefnyddio ystod eang o strategaethau i baratoi’n hyderus ar gyfer arholiadau llafar, fel bod dysgwyr yn datblygu rhuglder llafar ar lefelau yn unol â’u galluoedd
    • yn gwneud yn siŵr bod dysgwyr o bob gallu yn cael eu herio’n llawn ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau iaith creadigol sy’n datblygu eu meistrolaeth o’r iaith
    • yn cadw cydbwysedd priodol rhwng addysgu gramadeg a’r pedwar medr iaith, yn enwedig siarad a gwrando
    • yn asesu gwaith dysgwyr gan ddefnyddio strategaethau ystyrlon o ran asesu ar gyfer dysgu
  • A2 Mynychu grwpiau rhwydwaith rhanbarthol a hyfforddiant rhanbarthol, a chymryd rhan ynddynt, i ddatblygu medrau lefel uwch mewn addysgu a dysgu ieithoedd tramor modern

Dylai penaethiaid ac uwch arweinwyr:

 

  • A3 Gwella nifer y dysgwyr sy’n astudio o leiaf un iaith dramor fodern ar lefel arholiad trwy adolygu eu trefniadau ar gyfer cynllunio ac amserlennu’r cwricwlwm
  • A4 Gwneud yn siwr bod eu hathrawon ieithoedd tramor modern yn gallu manteisio ar ddatblygiad proffesiynol parhaus ‘Dyfodol byd-eang’ a gynigir mewn rhanbarthau ac ar eu traws i wella ansawdd dysgu ac addysgu ieithoedd tramor modern

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol