Adroddiad thematig |

Gwyddoniaeth yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 - Mehefin 2013

Share this page

Adroddiad thematig | 01/06/2013

pdf, 758.13 KB Added 01/06/2013

Mae cyd-destun yr adroddiad hwn yng ngweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil wyddonol, addysgu gwyddoniaeth a masnacheiddio ymchwil a amlinellir yn nogfen Llywodraeth Cymru ‘Gwyddoniaeth i Gymru – Agenda strategol ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd yng Nghymru’Mae’r adroddiad hwn hefyd yn darparu tystiolaeth i Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag argymhelliad o adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (Ionawr 2011): ‘Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gynnal astudiaeth o’r rheswm pam y gallai gwyddoniaeth fod yn dirywio mewn ysgolion cynradd ac y dylai ar y cyd ag Estyn archwilio’r ffordd orau o asesu perfformiad mewn gwyddoniaeth yn y dyfodol.’

Argymhellion

Dylai ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd:

  • ddarparu cyfleoedd gwyddoniaeth heriol i ymestyn pob disgybl, yn enwedig disgyblion mwy galluog, a chael gwared ar dasgau sy’n rhy hawdd;
  • darparu mwy o gyfleoedd i ddisgyblion fynd ar drywydd eu diddordebau gwyddonol eu hunain;
  • sicrhau bod arferion asesu a marcio yn rhoi cyngor ystyrlon i ddisgyblion ar sut i wella eu dealltwriaeth a’u medrau gwyddonol; a
  • gweithio gydag ysgolion eraill i rannu dulliau effeithiol o addysgu ac asesu gwyddoniaeth.

Yn ogystal, dylai ysgolion cynradd:

  • wneud yn siŵr y caiff gwyddoniaeth ei haddysgu i ddisgyblion am o leiaf ddwy awr yr wythnos; a
  • darparu hyfforddiant i athrawon â gwybodaeth bynciol wan am wyddoniaeth.

Yn ogystal, dylai ysgolion uwchradd:

  • gynllunio i ddefnyddio ystod ehangach o fedrau rhifedd mewn gwersi gwyddoniaeth.

Dylai awdurdodau lleol:

  • ddarparu mwy o ddatblygiad proffesiynol, cymorth a chyngor i ysgolion ar addysgu a dysgu gwyddoniaeth; a
  • chynorthwyo ysgolion i rannu arfer orau mewn addysg gwyddoniaeth.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • wella dibynadwyedd a dilysrwydd asesiadau athrawon drwy adolygu meini prawf asesu a chyflwyno elfen o safoni allanol; a
  • adolygu gorchmynion pwnc y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer gwyddoniaeth i gynnwys cynnwys hanfodol.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol