Adroddiad thematig |

Gwasanaethau cymorth dysgwyr i ddisgyblion 14-16 oed - Mai 2014

Share this page

Adroddiad thematig | 01/05/2014

pdf, 558.46 KB Added 01/05/2014

Mae gan ysgolion uwchradd, colegau a darparwyr dysgu yn y gwaith ddyletswydd statudol o dan Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 i ehangu dewis a darparu gwasanaethau cymorth i ddysgwyr ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed. Mae gwasanaethau cymorth i ddysgwyr yn cynnwys hyfforddi, cymorth personol, a gwybodaeth ac arweiniad ynghylch gyrfaoedd. Yr adroddiad hwn yw’r cyntaf o’r ddau.Mae’r adroddiad yn edrych ar ansawdd, cysondeb a didueddrwydd gwasanaethau cymorth i ddysgwyr a ddarperir gan ysgolion i ddisgyblion cyn, yn ystod ac ar ddiwedd cyfnod allweddol 4.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • ganolbwyntio gwasanaethau cymorth i ddysgwyr ar wella cyrhaeddiad disgyblion o ran graddau uwch mewn TGAU Saesneg neu Gymraeg mamiaith ac mewn mathemateg;
  • defnyddio agwedd fwy strategol at wasanaethau cymorth i ddysgwyr a chydlynu cyflwyno hyfforddi dysgu, cymorth personol, a chyngor ac arweiniad ar yrfaoedd;
  • gwella cwmpas ac ansawdd cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd;
  • gwneud yn siŵr bod pob un o’r disgyblion yn cael trafodaethau rheolaidd gyda’r staff cymorth mwyaf priodol am eu cynnydd, eu dyheadau a’u llwybr dysgu, yn enwedig ar adegau allweddol ym Mlwyddyn 9 a Blwyddyn 11;
  • darparu hyfforddiant a gwybodaeth reolaidd a chyfoes i bob un o’r staff sydd ynghlwm wrth roi cyngor ac arweiniad;
  • arfarnu effaith gwasanaethau cymorth i ddysgwyr ar ddeilliannau; a
  • chynllunio ar gyfer gostyngiadau posibl mewn cyllid ar gyfer cymorth allanol er mwyn cynnal lefelau presennol cymorth i ddysgwyr.

Dylai awdurdodau lleol:

  • arwain a chydlynu partneriaethau i gefnogi ysgolion â gwasanaethau cymorth allanol.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddiweddaru ei harweiniad i ysgolion ar gyngor ac arweiniad ar yrfaoedd i adlewyrchu’r newidiadau diweddar i rôl Gyrfa Cymru.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol