Adroddiad thematig |

Effeithiolrwydd strategaethau cynnwys dysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach a chanolfannau Cymraeg i oedolion - Gorffennaf 2013

Share this page

Yr adroddiad hwn yw’r ail mewn cyfres o dri adroddiad y gofynnodd y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau amdanynt. Ei fwriad yw llywio’r adolygiad o arweiniad Strategaeth Cynnwys Dysgwyr Llywodraeth Cymru ar gyfer darparwyr dysgu ôl-16, a’i ddatblygu ymhellach, a lledaenu astudiaethau achos arfer orau ar draws y rhwydwaith ôl-16.Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae sefydliadau addysg bellach (SABau) a chanolfannau Cymraeg i oedolion yn rhoi strategaethau cynnwys dysgwyr ar waith.

Argymhellion

Dylai sefydliadau addysg bellach:

  • roi systemau ffurfiol ar waith i gofnodi a chydnabod ystod y deilliannau personol a chymdeithasol a gyflawnir gan ddysgwyr o ganlyniad i gymryd rhan mewn gweithgareddau cynnwys dysgwyr; a
  • gwneud yn siŵr bod eu trefniadau ar gyfer cynnwys dysgwyr yn helpu dysgwyr i ffurfio penderfyniadau sy’n effeithio ar y canlynol:
    • deilliannau dysgwyr;
    • addysgu ac asesu;
    • y cwricwlwm;
    • adnoddau, cyfleusterau a lleoliadau;
    • cymorth i ddysgwyr;
    • gwella ansawdd; ac
    • arwain a rheoli’r ddarpariaeth yn gyffredinol.
       

Dylai Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr:

  • gofnodi a chydnabod effaith cynrychiolwyr dosbarth neu lywodraethwyr myfyrwyr ar addysgu a dysgu a rheoli a datblygu sefydliadau addysg bellach.

Dylai canolfannau Cymraeg i oedolion:

  • roi systemau ffurfiol ar waith i gofnodi a chydnabod ystod y deilliannau personol a chymdeithasol a gyflawnir gan ddysgwyr o ganlyniad i gymryd rhan mewn gweithgareddau cynnwys dysgwyr;
  • gwella’r defnydd o arolygon neu holiaduron llais y dysgwyr i:
    • wella’r cwrs ar gyfer dysgwyr presennol;
    • rhoi adborth ar lefel dosbarth; a
    • helpu dysgwyr i ddeall y modd y mae eu safbwyntiau a’u barn wedi cyfrannu at newidiadau a wneir i’w cwrs, ansawdd yr addysgu a’r asesu ac ansawdd y ddarpariaeth;
  • gwella dealltwriaeth cynrychiolwyr dosbarth o’u rôl a’r hyn sy’n ddisgwyliedig ohonynt;;
  • gwella trefniadau ar gyfer cefnogi dysgwyr i weithredu fel cynrychiolwyr dosbarth neu gymryd rhan mewn paneli dysgwyr; a
  • gwella dealltwriaeth tiwtoriaid o’u rôl mewn helpu dysgwyr i gyfrannu at wella eu cwrs a’u profiadau dysgu.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol