Adroddiad thematig |

Dysgu yn yr agored: arfarnu dysgu yn yr awyr agored i blant o dan bump oed yn y Cyfnod Sylfaen - Medi 2011

Share this page

Roedd darpariaeth ar gyfer dysgu yn yr awyr agored yn dda neu’n well mewn dau o bob tri o’r darparwyr y gwnaethom arolwg ohonynt. Mae lles, ymddygiad a datblygiad corfforol disgyblion i gyd wedi gwella o ganlyniad i ddysgu yn yr awyr agored. Mae ysgolion a lleoliadau nas cynhelir hefyd yn gweithio’n dda gyda rhieni i gefnogi eu darpariaeth.Fodd bynnag, ni chaiff dysgu yn yr awyr agored ei ddefnyddio digon mewn meysydd fel mathemateg a TGCh. Nid yw athrawon yn asesu dysgu plant cystal ac mor aml yn yr awyr agored, sy’n golygu y gallai cerrig milltir pwysig gael eu colli.

Argymhellion

Dylai ysgolion a lleoliadau:

  • roi cyfleoedd mwy rheolaidd i blant ddatblygu ac ymarfer eu medrau darllen ac ysgrifennu yn yr awyr agored;
  • cynllunio, trefnu ac asesu dysgu a lles yn yr awyr agored fel y maent yn gwneud dan do;
  • sicrhau bod pob un o’r staff wedi’u hyfforddi’n dda ac yn hyderus yn defnyddio’r awyr agored i gefnogi dysgu’r plant; ac
  • ystyried yr effaith ar ddeilliannau i blant wrth wneud penderfyniadau ariannol i ddatblygu darpariaeth a chyfleusterau yn yr awyr agored.

Dylai awdurdodau lleol:

  • ddarparu hyfforddiant ar gyfer arweinwyr a rheolwyr i’w helpu i nodi arfer orau yn narpariaeth dysgu yn yr awyr agored; a
  • gweithio gydag ysgolion a lleoliadau i wella’r data sydd ar gael i arfarnu effeithiolrwydd dysgu yn yr awyr agored.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddarparu arweiniad ar arfarnu cost effeithiolrwydd darpariaeth a chyfleusterau yn yr awyr agored.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol