Adroddiad thematig |

Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen: Datblygu Cymraeg fel iaith gyntaf mewn ysgolion cynradd ar sector nas cynhelir

Share this page

Pwrpas yr adroddiad yw: adrodd ar safonau llafar, darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen mewn ysgolion a lleoliadau nas cynhelir cyfrwng-Cymraeg; ystyried y gwahaniaethau rhwng ysgolion sy’n cynnwys canran uchel o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref, ysgolion sydd â chanran uchel iawn o ddisgyblion nad ydynt yn siarad Cymraeg gartref, ac ysgolion lle mae poblogaeth gymysg o ran iaith y cartref; ac ystyried y cydbwysedd rhwng yr angen am addysgu ffurfiol i ddatblygu iaith, a darparu’r cyfleoedd chwarae a gweithgarwch anffurfiol sy’n rhan o athroniaeth a dull gweithredu’r Cyfnod Sylfaen.

Argymhellion

Dylai ysgolion a lleoliadau:

  • sicrhau bod cyfleoedd penodol i ddisgyblion ddatblygu a defnyddio eu medrau siarad, darllen ac ysgrifennu ar draws y meysydd dysgu ac yn y gwahanol ardaloedd gweithgarwch;
  • sicrhau cydbwysedd effeithiol rhwng sesiynau ffurfiol i addysgu ac atgyfnerthu medrau iaith a chyfleoedd anffurfiol i’w defnyddio;
  • datblygu gweithgareddau a chyfleoedd dysgu sy’n sicrhau bod disgyblion o gefndiroedd ieithyddol gwahanol yn gwneud cynnydd priodol o’u man cychwyn;
  • gosod disgwyliadau clir fydd yn sicrhau bod disgyblion o bob cefndir yn defnyddio’r Gymraeg wrth iddynt ddilyn gweithgareddau anffurfiol, yn arbennig ar ddechrau’r Cyfnod Sylfaen;
  • gosod disgwyliadau clir ar gyfer ymarferwyr ynglÅ·n â defnyddio’r Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen fel eu bod yn bwydo a modelu Cymraeg o safon dda i’w disgyblion ar draws y meysydd dysgu;
  • olrhain cynnydd medrau llafar, darllen ac ysgrifennu disgyblion yn gyson ar hyd y Cyfnod Sylfaen; a
  • rhoi sylw priodol i ansawdd y ddarpariaeth a safonau yn y Cyfnod Sylfaen fel rhan o brosesau hunanarfarnu a chynllunio gwella ysgolion a lleoliadau.

Dylai awdurdodau lleol a mudiadau sy’n rheoli lleoliadau nas cynhelir:

  • ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant i ymarferwyr ar ddulliau trochi o ddysgu iaith ac i roi arweiniad ar sut y gellir datblygu sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu (Cymraeg) mewn ffordd sy’n gydnaws ag athroniaeth a methodoleg y Cyfnod Sylfaen;
  • darparu hyfforddiant a chefnogaeth i ymarferwyr, gan gynnwys cynorthwywyr, i loywi eu Cymraeg, lle bo angen hynny;
  • rhannu arfer dda o ran datblygu sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu (Cymraeg) ar draws meysydd dysgu ac ardaloedd gweithgarwch yn y Cyfnod Sylfaen; a
  • sicrhau bod darpariaeth gefnogol awdurdodau lleol i leoliadau nas cynhelir cyfrwng-Cymraeg ar gael yn Gymraeg.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • sicrhau bod awdurdodau ac ysgolion yn deall y gyd-berthynas rhwng methodoleg ac athroniaeth y Cyfnod Sylfaen a'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol