Adroddiad thematig |

Addysgu a dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog mewn addysg bellach

Share this page

Adroddiad thematig | 12/06/2017

pdf, 1.58 MB Added 12/06/2017

Diben yr adroddiad hwn yw:- archwilio pa mor effeithiol y mae colegau addysg bellach yn sicrhau parhad a dilyniant mewn profiadau dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a dwyieithog- arfarnu effeithiolrwydd modelau cwricwlaidd a dulliau addysgu sydd ar waith mewn colegau addysg bellach- nodi a rhannu arfer dda mewn addysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

Argymhellion

Dylai colegau addysg bellach:

  • A1 Weithio’n fwy effeithiol gydag ysgolion uwchradd i nodi dysgwyr sy’n siarad Cymraeg cyn iddynt drosglwyddo i’r coleg a sicrhau bod yr holl wybodaeth am gymorth sydd ei hangen arnynt gan ddysgwyr er mwyn eu galluogi i ddewis i barhau â’u dysgu yn Gymraeg
  • A2 Cryfhau cynlluniau strategol Cymraeg er mwyn cynyddu nifer y dysgwyr sy’n dysgu yn Gymraeg neu’n ddwyieithog, yn enwedig yn y meysydd galwedigaethol y mae galw cynyddol am fedrau dwyieithog ynddynt gan gyflogwyr
  • A3 Sicrhau bod digon o staff ar gael ym mhob coleg i ddarparu cyrsiau yn Gymraeg neu’n ddwyieithog a chefnogi staff sy’n dymuno dysgu Cymraeg neu wella’u Cymraeg
  • A4 Gwella hyfforddiant staff ar y fethodoleg addysgu’n ddwyieithog, a sicrhau bod digon o adnoddau a deunyddiau dysgu ar gyfer cyrsiau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog
  • A5 Sicrhau bod gwybodaeth am allu iaith dysgwyr, cymwysterau blaenorol yn Gymraeg a gweithgareddau dysgu wedi’u cofnodi’n gywir yng Nghofnod Dysgu Gydol Oes Cymru

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A6 Helpu colegau i wella ansawdd cynlluniau strategol iaith Gymraeg, gan gynnwys defnyddio data i osod targedau heriol er mwyn cynyddu nifer y dysgwyr sy’n dilyn eu cyrsiau yn Gymraeg neu’n ddwyieithog
  • A7 Cynnal adolygiadau rheolaidd o’r cynnydd a wneir gan golegau yn erbyn y targedau yn eu cynlluniau strategol
  • A8 Gwella meysydd casglu data, a’u canllawiau cysylltiedig, er mwyn sicrhau bod colegau’n cofnodi gwybodaeth gywir am alluoedd ieithyddol dysgwyr ac iaith dysgu ac asesu yn ôl gweithgaredd
  • A9 Datblygu strategaeth genedlaethol i gynyddu ymwybyddiaeth dysgwyr o fanteision dewis parhau i ddysgu yn Gymraeg pan fyddant yn trosglwyddo o’r ysgol i’r coleg
  • A10 Sicrhau bod digon o adnoddau a deunyddiau dysgu ar gyfer cyrsiau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol