Adolygiad o Drefniadau Arolygu AGA - Estyn

Adolygiad o Drefniadau Arolygu AGA


Mae athrawon dan hyfforddiant wrth wraidd gwaith Estyn mewn Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA). Rydym yn canolbwyntio ar ansawdd eu profiadau dysgu, y cynnydd a wnânt trwy gydol eu rhaglen a pha mor dda y cânt eu paratoi i ymuno â’r proffesiwn addysgu.

Cwblhaodd Estyn ei gylch diweddaraf o arolygiadau o bartneriaethau AGA yng Nghymru ym mis Awst 2025. Ar ôl cwblhau’r cylch hwn, mae gweithgarwch arolygu craidd wedi’i ohirio am ddwy flynedd (Medi 2025 hyd Awst 2027). Mae’r cyfnod hwn yn rhoi cyfle i bartneriaethau ymateb i argymhellion o’r cylch arolygu blaenorol a pharhau i gryfhau eu darpariaeth, arweinyddiaeth a deilliannau i athrawon dan hyfforddiant.

Yn ystod y cyfnod hwn, caiff pob partneriaeth ei chefnogi gan arolygwyr cyswllt Estyn penodedig. Mae arolygwyr cyswllt yn ymweld â phartneriaethau bob tymor, gan weithredu fel cyfeillion beirniadol a chynnig her a chymorth adeiladol wrth i bartneriaethau werthuso a datblygu eu gwaith. Bwriad y gweithgarwch hwn yn cefnogi gwelliant a helpu i feithrin gallu ar draws y sector er budd athrawon dan hyfforddiant nawr ac yn y dyfodol.

Ar yr un pryd, mae Estyn yn datblygu trefniadau arolygu newydd ar gyfer AGA, a fydd yn cael eu cyflwyno o fis Medi 2027. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gyflawni ar y cyd â’r sector trwy’r Grŵp Cyfeirio Partneriaethau AGA, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o brifysgolion ac ysgolion ym mhob partneriaeth. Mae’r grŵp yn cynnig cyfleoedd i drafod a llywio trefniadau arolygu yn y dyfodol, gan helpu i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion esblygol AGA yng Nghymru a pharhau i gefnogi profiadau a deilliannau cadarnhaol i athrawon dan hyfforddiant.