Yn Hysbys, Yn Cael Eu Cynnwys Ac Yn Uchelgeisiol: Hybu addysg dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal
Crynodeb Gweithredol
1 Gwerthusodd yr adroddiad hwn pa mor effeithiol yr oedd ysgolion a gynhelir, unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) ac awdurdodau lleol yn hybu addysg, lles a dyheadau dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Ystyriodd brofiadau plant a oedd yn derbyn gofal, a fabwysiadwyd o ofal, a oedd yn byw mewn gofal gan berthynas, a oedd yn destun gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig neu blant a oedd yn derbyn gofal yn flaenorol. Gall dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal wynebu heriau penodol yn ymwneud â sefydlogrwydd addysgol, presenoldeb, ymgysylltiad, perthyn a chyrhaeddiad, er bod eu profiadau a’u hanghenion yn amrywio’n sylweddol. Manteisiodd yr adolygiad ar ymweliadau ag ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) ac awdurdodau lleol; tystiolaeth o arolygon; ymgysylltiad â dysgwyr mewn ysgolion, UCDau a thrwy sefydliadau trydydd sector; tystiolaeth gan randdeiliaid; adolygiad o lenyddiaeth, polisi ac arweiniad perthnasol; a thystiolaeth arolygu.
2 Trwy gydol yr adolygiad, dangosodd arweinwyr a staff ymrwymiad cryf i gefnogi dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Roedd llawer ohonynt yn adnabod dysgwyr unigol yn dda ac yn gweithio’n galed i’w helpu i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu cynnwys a’u cefnogi. Roedd y darparwyr cryfaf yn cyfuno perthnasoedd ymddiriedus cadarnhaol a chymorth bugeiliol o ansawdd uchel â disgwyliadau uchelgeisiol ar gyfer dysgu, cyflawniad a chyfleoedd yn y dyfodol. Fodd bynnag, canfyddiad canolog oedd bod darparwyr yn fwy llwyddiannus wrth ddisgrifio’r cymorth yr oeddent yn ei gynnig, yn gyffredinol, nag wrth ddangos pa ddulliau oedd yn gwella cynnydd addysgol, cyrhaeddiad a deilliannau tymor hwy dysgwyr.
3 Canfu’r adolygiad fod ysgolion, UCDau ac awdurdodau lleol yn gallu nodi, monitro a chefnogi plant a oedd yn derbyn gofal ar hyn o bryd yn well, yn gyffredinol, na grwpiau eraill o ddysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Roedd trefniadau’n llai cyson ar gyfer dysgwyr a oedd wedi’u mabwysiadu, dysgwyr dan drefniadau gofal gan berthynas neu orchymyn gwarcheidiaeth arbennig a dysgwyr a oedd wedi derbyn gofal yn flaenorol. O ganlyniad, nid oedd llawer o ddarparwyr yn gallu gwerthuso profiadau na deilliannau addysgol y dysgwyr hyn â’r un hyder â’r rhai a oedd yn derbyn gofal ar hyn o bryd, gan gyfyngu ar eu gallu i nodi anghenion sy’n dod i’r amlwg, ymyrryd yn gynnar a gwerthuso effaith cymorth.
4 Roedd arweinyddiaeth gref ac atebolrwydd clir yn ffactorau pwysig wrth wella profiadau addysgol dysgwyr. Roedd yr ysgolion a’r awdurdodau lleol cryfaf yn monitro cynnydd, cyrhaeddiad a chyrchfannau ochr yn ochr â gwybodaeth am bresenoldeb a lles dysgwyr ac unrhyw waharddiadau o ysgolion ac UCDau. Fodd bynnag, nid oedd deilliannau addysgol yn cael digon o amlygrwydd bob tro mewn trefniadau monitro a rhianta corfforaethol. Yn aml, roedd presenoldeb, ymddygiad a lles dysgwyr yn cael eu monitro’n fwy cyson na’u cynnydd a’u cyflawniad addysgol, gan gyfyngu ar ddealltwriaeth arweinwyr o b’un a oedd cymorth yn gwella deilliannau dros gyfnod.
5 Roedd perthnasoedd ac ymdeimlad o berthyn yn ganolog i brofiadau addysgol cadarnhaol dysgwyr. Roeddent yn tynnu sylw’n gyson at bwysigrwydd oedolion y gellir ymddiried ynddynt a oedd yn gwrando, yn deall eu hamgylchiadau ac yn cynnig cefnogaeth gyson. Roedd y perthnasoedd hyn yn helpu dysgwyr i deimlo eu bod yn cael eu hadnabod, eu gwerthfawrogi a’u cynnwys yng nghymuned eu hysgol. Roeddent hefyd yn rhoi hyder i ddysgwyr rannu eu safbwyntiau, codi pryderon a chymryd rhan mewn penderfyniadau am eu haddysg a’u cymorth. Roedd perthnasoedd cryf a chyfathrebu’n rheolaidd â rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ehangach hefyd yn helpu darparwyr i ddeall amgylchiadau newidiol a chydlynu cymorth yn fwy effeithiol.
6 Roedd dysgwyr yn fwy tebygol o rannu pryderon a chymryd rhan mewn penderfyniadau pan roeddent yn teimlo eu bod yn cael eu deall ac yn hyderus y byddai oedolion yn gwrando ac yn ymateb. Er bod llawer o ddysgwyr yn ceisio barn dysgwyr, nid oedd y rhain yn dylanwadu ar gynllunio eu haddysg a’u cymorth bob tro. Pwysleisiodd dysgwyr hefyd bwysigrwydd preifatrwydd, cyfrinachedd ac ymdrin â gwybodaeth bersonol yn ofalus, a oedd yn helpu i gynnal ymddiriedaeth ac yn lleihau’r risg y byddai dysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu hynysu oherwydd eu profiad o fod mewn gofal.
7 Roedd ymwybyddiaeth o arfer sy’n ystyriol o drawma ac arfer sy’n ymwybodol o ymlyniad wedi cynyddu ar draws ysgolion, UCDau ac awdurdodau lleol. Roedd y darparwyr cryfaf wedi ymwreiddio’r dulliau hyn mewn perthnasoedd, ymddygiad ac arfer bob dydd. Fodd bynnag, yn gyffredinol, roedd darparwyr yn well am ddangos bod staff wedi cael hyfforddiant na dangos sut roedd y dulliau hyn wedi gwella presenoldeb, cyfranogiad, cynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr.
8 Roedd tystiolaeth o drafodaethau â dysgwyr, ymweliadau â darparwyr ac ymchwil ehangach yn dangos bod addysg sefydlog yn helpu i leihau effaith tarfu mewn agweddau eraill ar fywydau dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Yn aml, roedd ysgolion ac UCDau yn cynnig sefydlogrwydd a pharhad pan roedd agweddau eraill ar fywydau dysgwyr yn newid. Fodd bynnag, roedd symud lleoliad, newid ysgol a newidiadau yn y gweithwyr proffesiynol a oedd yn cefnogi dysgwyr weithiau’n tarfu ar ddysgu, perthnasoedd a chymorth. Nid oedd cydweithio a rhannu gwybodaeth yn ddigon cyson bob tro, yn enwedig wrth i ddysgwyr symud rhwng lleoliadau, gwasanaethau neu ardaloedd awdurdodau lleol. Roedd gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb pwysig i ddiogelu parhad addysg cyfrwng Cymraeg wrth i ddysgwyr newid ysgol neu leoliad gofal. Fodd bynnag, nid oedd y gallu i fanteisio ar addysg a chymorth cyfrwng Cymraeg yn barhaus yn gyfartal ledled Cymru.
9 Nid oedd trefniadau ariannu ac atebolrwydd bob amser yn cefnogi darpariaeth gyson ar gyfer y boblogaeth ehangach sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Roedd awdurdodau lleol yn amrywio yn y ffordd roeddent yn dehongli ac yn defnyddio cyllid y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal (PDG-CLA), nid oedd trefniadau cilyddol yn gweithredu’n effeithiol bob tro ac roedd gwybodaeth genedlaethol am brofiadau a deilliannau dysgwyr sydd wedi’u mabwysiadu a’r rhai sydd dan drefniadau gofal gan berthynas neu orchymyn gwarcheidiaeth arbennig yn gyfyngedig o hyd.
10 Roedd llawer o ddarparwyr yn gweithio’n galed i sicrhau bod dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys, eu parchu a’u gwerthfawrogi, heb gael eu diffinio gan eu profiad o fewn mewn gofal. Fodd bynnag, nid oedd trin dysgwyr yn yr un modd â’u cyfoedion bob amser yn mynd i’r afael â’r rhwystrau ychwanegol yr oedd rhai ohonynt yn eu hwynebu. Roedd y darparwyr cryfaf yn deall nad oedd trin dysgwyr yn deg yn golygu eu trin yn yr un ffordd bob tro. Roeddent yn helpu dysgwyr i deimlo eu bod yn perthyn, yn cynnal disgwyliadau uchel ac yn sicrhau eu bod yn gallu manteisio’n deg ar gwricwlwm uchelgeisiol, cyfleoedd cyfoethogi, cymwysterau a llwybrau addysg neu gyflogaeth yn y dyfodol.
11 At ei gilydd, roedd dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn fwyaf tebygol o ffynnu lle’r oedd ysgolion, UCDau ac awdurdodau lleol yn nodi ac yn deall eu hamgylchiadau unigol, yn cynnal disgwyliadau uchel ac yn cydlynu cymorth yn effeithiol. Er i’r adolygiad nodi llawer o enghreifftiau o arfer gref, tynnodd sylw hefyd at yr angen am fwy o ffocws ar gynnydd addysgol, cyrhaeddiad a deilliannau tymor hwy. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cael eu cefnogi nid yn unig i ymgysylltu ag addysg, ond hefyd i wneud cynnydd cryf, cyflawni’n dda ac elwa ar gyfleoedd gwell yn y dyfodol.