Ymyrraeth gynnar effeithiol i gefnogi cynnydd disgyblion
Ciplun
O’r eiliad y mae disgybl newydd yn ymuno â’r ysgol, mae oedolion yn cydweithio â’i gilydd ac ag ystod eang o asiantaethau allanol i lunio proffil cynhwysfawr o bob unigolyn. Mae arweinwyr yn gweithio mewn partneriaeth agos â darparwyr cyn-ysgol. Mae ystafell ddosbarth benodol yn yr ysgol, sydd ag adnoddau da, yn galluogi staff i feithrin perthnasoedd cryf â theuluoedd a sefydlu ymdeimlad o ymddiriedaeth a chydweithio o oedran cynnar. Mae hyn yn sicrhau bod disgyblion yn ymgartrefu’n dda iawn yn yr ysgol ac yn elwa ar ymyrraeth a chymorth pwrpasol.