Ymholi ac ymchwil gweithredol yn sylfaen i gynllunio a gweithredu ar gyfer gwella - Estyn

Ymholi ac ymchwil gweithredol yn sylfaen i gynllunio a gweithredu ar gyfer gwella

Ciplun

Mae’r holl athrawon, cynorthwywyr a llywodraethwyr yn cydweithio’n fwriadus i werthuso effaith y ddarpariaeth ar wahanol agweddau o’r addysgu a’r dysgu. Fel rhan o’r broses ymholi, mae staff yn casglu cyfuniad o wybodaeth meintiol ac ansoddol er mwyn gwerthuso effaith y ddarpariaeth ar gynnydd disgyblion fel sail i gynllunio a gweithredu ymchwil. Trwy hyn, maent yn sicrhau bod y gwelliannau arfaethedig yn mynd i gael eu llywio gan dystiolaeth gadarn sy’n seiliedig ar anghenion penodol disgyblion.Caiff tystiolaeth gwerthusol ei ymgorffori’n fedrus fel sylfaen i gynllunio ar gyfer gwella. O ganlyniad, mae cynllun datblygu’r ysgol yn mynd i’r afael â chwestiynau ymholiad cyffredinol a miniog ar feysydd sydd wedi’u nodi fel ardaloedd sydd angen i’r ysgol eu gwella. Mae’r cylch ‘Cynllunio, Gwneud, Adolygu’ yn sicrhau bod yr holl bartneriaid yn cyd-ddatblygu agweddau penodol o’r ddarpariaeth mewn dull strategol ac ymarferol. Trwy gydweithio effeithiol gyda darparwyr addysg amrywiol, mae’r partneriaid yn datblygu hyder a dealltwriaeth gyson o sut i gael mynediad at dystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol ddibynadwy sydd o ansawdd uchel. Defnyddir y dystiolaeth fel sail i gynllunio gweithgareddau defnyddiol, sydd yn ei dro yn esgor ar ddeilliannau perthnasol fel rhan o’r ymchwil. Er enghraifft, maent yn mireinio’r ddarpariaeth er mwyn helpu disgyblion i ddatblygu medrau rhifedd disgyblion ar draws meysydd dysgu yn effeithiol.