Ymgysylltu strategol â rhieni - Estyn

Ymgysylltu strategol â rhieni

Ciplun

Ceir ystod o brofiadau sydd wedi’u cynllunio’n dda sy’n meithrin hyder a gallu rhieni i gefnogi dysgu. Mae mentrau fel prosiectau ‘Siarad â Fi’, caffis dysgu arbenigol a sesiynau sy’n canolbwyntio ar iechyd yn ennyn diddordeb rhieni yn uniongyrchol mewn dysgu ochr yn ochr â’u plant. Mae’r gwaith hwn yn cryfhau’r bartneriaeth rhwng y cartref a’r ysgol ac yn cyfrannu’n gadarnhaol at ddatblygu medrau disgyblion.