Ymddygiad disgyblion - Estyn

Ymddygiad disgyblion

Ciplun

Mae gan yr UCD ddull hynod effeithiol o gefnogi ymddygiad disgyblion, sy’n adlewyrchu ethos y ddarpariaeth gyfan. Mae polisi rheoli ymddygiad clir a chadarn ac ystod o strategaethau cefnogol a ddefnyddir yn gyson gan yr holl staff. Mae hyn yn hyrwyddo awyrgylch tawel a gofalgar sy’n cefnogi dysgu disgyblion yn dda. Mae staff yn rhagweld heriau yn fedrus ac yn modelu disgwyliadau’n eglur. Er enghraifft, cyn gweithgaredd ymarferol gyda disgyblion iau, mae staff yn arwain trafodaeth am rannu a charedigrwydd, gan fodelu ymadroddion ac ymddygiadau allweddol. O ganlyniad, mae bron pob disgybl yn ymgysylltu’n dda ac yn ymddwyn yn garedig ac yn barchus.