Ymateb i lais rhieni drwy rannu gwybodaeth manwl a defnyddiol am gynnydd disgyblion - Estyn

Ymateb i lais rhieni drwy rannu gwybodaeth manwl a defnyddiol am gynnydd disgyblion

Ciplun

Mewn ymateb i adborth rhieni sy’n gofyn am wybodaeth bellach am gynnydd eu plant, mae’r ysgol yn rhannu eu gwybodaeth berthnasol am ddeilliannau’r disgyblion yn effeithiol trwy adroddiadau interim a blynyddol sy’n hygyrch ac yn hawdd i’w dehongli. Mae athrawon yn trafod cynnydd cyfredol a thros amser disgyblion gyda’r rhieni ynghyd â’r camau nesaf yn eu dysgu. Mae’r cyfathrebu buddiol hwn yn galluogi staff i egluro’r wybodaeth yn eglur a thrafod sut y gall rhieni gefnogi’r dysgu ymhellach. Mae’r adroddiadau yn fanwl gydag athrawon yn cynnwys cysylltiadau i adnoddau defnyddiol fel y gall y teuluoedd eu defnyddio gartref. O ganlyniad, mae gan rieni ddealltwriaeth gadarn o ddatblygiad a chynnydd eu plentyn. Mae hyn wedi arwain at gefnogaeth fwy cyson gartref, cymhelliant gwell ymhlith disgyblion a chynnydd cryfach ymhlith y rhan fwyaf o ddisgyblion dros amser.