Ymateb i ddiddordebau a chyfareddau plant i gyfoethogi’r dysgu - Estyn

Ymateb i ddiddordebau a chyfareddau plant i gyfoethogi’r dysgu

Arfer effeithiol

Sunray Day Care Ltd

Plant yn cymryd rhan mewn gweithgaredd plannu gyda’i gilydd o amgylch bwrdd mewn lleoliad blynyddoedd cynnar.

Gwybodaeth am y lleoliad 

Ysgubor olau, eang, ddeulawr wedi’i throsi yw Sunray Day Nursery, sydd wedi’i lleoli yng nghefn gwlad prydferth yng nghyffiniau’r Wyddgrug yng ngogledd Cymru. Mae’r lleoliad wedi’i gofrestru ar gyfer 159 o blant o enedigaeth hyd at 12 oed. Mae’r lleoliad yn gweithio tuag at Gynnig Rhagweithiol y Gymraeg ac yn darparu Hawl i Addysg Gynnar. 

Mae’r feithrinfa’n elwa ar ei lleoliad prydferth ac mae’n ffodus i fod â mannau helaeth yn yr awyr agored sy’n cynnig cyfleoedd cyfoethog i blant archwilio, darganfod a chwarae’n egnïol. 

Mae amgylchedd gwledig y feithrinfa yn galluogi plant i ddatblygu gwerthfawrogiad o’r byd naturiol. Mae wedi’i hamgylchynu gan gaeau agored ac mae plant yn arsylwi bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm lleol yn rheolaidd, gan gynnwys defaid a gwartheg sy’n aml yn pori gerllaw, gan wella eu dealltwriaeth o fyd natur a’r amgylchedd cyfnewidiol. Mae’r lleoliad yn feithrinfa fawr, sefydledig sy’n cael ei harwain gan berchennog a thîm rheoli ymroddedig sydd wedi ymrwymo’n llwyr i ddatblygu’n barhaus. Mae eu buddsoddiad mewn cynnal safonau uchel a gwella darpariaeth yn amlwg ac maent yn cynnig cefnogaeth gref i arweinwyr ystafelloedd ac ymarferwyr, gan feithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol a chydweithredol sydd o fudd i’r staff a’r plant. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol 

Mae Sunray Day Care Nursery Ltd yn cefnogi pob plentyn i wneud cynnydd trwy amgylcheddau effeithiol, profiadau difyr ac oedolion sy’n galluogi dysgu. 

Mae hyfforddiant diweddar wedi gwella gallu ymarferwyr i arsylwi plant a nodi eu diddordebau. Mae hyn yn sicrhau bod plant yn ymgysylltu’n llawn â’u gweithgareddau. Mae arweinwyr yn parhau i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus ymarferwyr, gan drefnu cyfleoedd hyfforddiant er mwyn ymateb i anghenion a nodwyd wrth oruchwylio staff, yn ogystal â hyfforddiant gorfodol rheolaidd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch 

Mae cynllunio’n canolbwyntio ar farnau a diddordebau plant. Caiff profiadau plant eu defnyddio’n gyfleoedd dysgu a’u haddasu i weddu i’w camau datblygu unigol. Mae plant yn cymryd rhan yn weithredol mewn gosod gweithgareddau a dwyn perchnogaeth o amgylcheddau. Mae ymarferwyr yn cynorthwyo plant hŷn i lenwi holiaduron er mwyn sicrhau y caiff eu barnau eu cynnwys wrth gynllunio darpariaeth. Caiff plant eu hannog i drafod yr hyn y maent yn ei hoffi ac nad ydynt yn ei hoffi ym mhob ardal o’r ddarpariaeth ac unrhyw adnoddau eraill y maent yn teimlo y gellid eu hychwanegu at yr ardaloedd hyn. Er enghraifft, dangosodd plant ddiddordeb mewn storïau hud a lledrith, felly trawsnewidiodd ymarferwyr ardal ddarllen y lleoliad yn wlad anghysbell, gan danio dychymyg a chwilfrydedd. Mae ymarferwyr yn dilyn dull cynllunio ymatebol, gan ddilyn diddordebau’r plant yn ystod pob sesiwn ac annog chwilfrydedd, meddwl creadigol a dychymyg. Mae’r dull hwn yn cyd-fynd ag anghenion datblygiadol y plant a chaiff gweithgareddau eu haddasu trwy gydol y dydd yn unol â’u diddordebau a’u syniadau. Mae ymarferwyr hefyd yn sicrhau bod profiadau wedi’u cynllunio ymlaen llaw i sicrhau dilyniant effeithiol mewn dysgu. Maent yn cynnal arsylwadau sy’n amlygu camau nesaf plentyn. 

Mae ymarferwyr hefyd yn annog rhieni i rannu profiadau eu plant o gartref. Yn aml, bydd hyn yn sbarduno diddordebau cyffredin a syniadau newydd y gellir eu hymgorffori mewn chwarae a dysgu. Er enghraifft, creodd ymarferwyr ganolfan arddio yn yr ardal chwarae rôl ar ôl i blentyn rannu lluniau o’u gwibdaith dros y penwythnos. Gwellodd ymarferwyr y profiad hwn trwy gynllunio ymweliad i’r plant archwilio’r planhigion a’r blodau. Prynont flodau a chawsant gyfle i’w plannu a gofalu amdanynt yn ôl yn y lleoliad.  

Caiff ap ar-lein ei ddefnyddio’n offeryn cyfathrebu rhwng y lleoliad a’r cartref, sy’n caniatáu i rieni rannu lluniau o ddiddordebau ac anturiaethau’r plant. Mae ymarferwyr yn dogfennu diddordebau’r plant a chânt eu harddangos yn yr amgylcheddau dysgu. Mae’r holl staff yn defnyddio’r wybodaeth yn effeithiol i gefnogi plant wrth iddynt chwarae. Yn dilyn adborth gan y plant, mae ymarferwyr yn newid ardaloedd y ddarpariaeth yn rheolaidd. Creont gornel gartref ac ardal adeiladu fwy, gan mai dyma’r prif ardaloedd roedd y plant yn awyddus i’w harchwilio. Aethant ati i ychwanegu rhagor o adnoddau, gan gynnig cyfleoedd i’r plant greu wrth chwarae. Gwnaethant hefyd ychwanegu rampiau, riliau a theiars i’r plant fanteisio arnynt. Mae arweinwyr hefyd yn manteisio ar gyllid grant i brynu adnoddau newydd yn seiliedig ar ddiddordebau’r plant.  

Caiff adnoddau eu lleoli’n feddylgar i gynnig cyfleoedd i blant drawsnewid a thrin deunyddiau’n annibynnol, fel gratio sialc gan ddefnyddio gratiwr caws i greu eu paent eu hunain, gan feithrin creadigrwydd a medrau datrys problemau. Mae ymarferwyr yn cydbwyso cymorth ac annibyniaeth yn fedrus, gan gynnig arweiniad pan fydd angen, gan ganiatáu amser a lle i blant ddarganfod, ymchwilio ac archwilio drostynt eu hunain. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Mae darparwyr yn dangos angerdd ac ymrwymiad yn eu rolau, gan gydweithio ac ysbrydoli ei gilydd i addasu a gwella’r amgylchedd dysgu’n rheolaidd yn unol â diddordebau a chyfareddau’r plant. Mae’r newidiadau hyn yn credu cyfleoedd symbylol sy’n tanio chwilfrydedd plant, yn annog archwilio ac yn hybu ymgysylltiad parhaus â dysgu. O ganlyniad, mae cynnydd mewn dysgu wedi cynyddu ar draws pob un o feysydd y cwricwlwm.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda? 

Yn ddiweddar, cynhaliodd y lleoliad gyfarfod rhwydwaith o ymarferwyr sy’n cefnogi addysg ar gyfer lleoliadau nas cynhelir a ariennir yn Sir y Fflint. Mae’r lleoliad hefyd yn cynnal digwyddiadau rhwydweithio rheolaidd ar gyfer aelodau NDNA yn Sir y Fflint.