Ymagwedd arloesol at gefnogi datblygiad iaith yn y blynyddoedd cynnar
Ciplun
Mae staff yn y dosbarthiadau meithrin a derbyn yn annog datblygiad iaith Gymraeg y disgyblion wrth iddynt chwarae a datblygu eu medrau gwahanol. Maent yn rhoi cyfarwyddiadau dyddiol i bob disgybl drwy gyfrwng y Gymraeg lle bo’n briodol. Mae’r ymagwedd hon yn cefnogi disgyblion y ddwy ffrwd iaith i ddatblygu eu dealltwriaeth o eiriau a phatrymau brawddeg syml yn y Gymraeg yn effeithiol. Yn ystod gweithgareddau iaith penodol, mae staff yn defnyddio prif iaith y dosbarth, naill ai’r Gymraeg neu’r Saesneg, yn dibynnu ar y grŵp o ddisgyblion. Mae’r ymagwedd hon yn cryfhau dealltwriaeth ieithyddol disgyblion ac yn eu hannog i fynegi eu hunain yn Gymraeg gyda hyder cynyddol.