Y defnydd o’r amgylchedd i hyrwyddo dysgu - Estyn

Y defnydd o’r amgylchedd i hyrwyddo dysgu

Ciplun

Mae staff yn darparu amgylchedd naturiol sy’n meithrin chwilfrydedd a brwdfrydedd disgyblion tuag at ddysgu trwy ddyluniad creadigol o’r ystafelloedd dosbarth, defnydd crefftus o’r ardaloedd dysgu allanol a thrwy ddarparu adnoddau sy’n fuddiol i ddysgu’r disgyblion. Mae’r amgylchedd cynhwysol yn cefnogi disgyblion i ymgysylltu’n gadarnhaol â’u dysgu, i reoli emosiynau a datblygu gwydnwch mewn mannau tawel a chartrefol.