‘Un gymuned, un ysgol, yn gwella presenoldeb’
Ciplun
Mae ymgysylltiad teuluoedd yn gryfder nodedig ar draws yr ysgol. Mae staff yn meithrin partneriaethau hynod effeithiol â rhieni, gofalwyr a’r gymuned leol, gan eu helpu i gefnogi dysgu eu plant a deall pwysigrwydd presenoldeb da. Mae digwyddiadau fel sesiynau rheolaidd ‘Dathlu Dysgu’ yn galluogi rhieni i gymryd rhan mewn gweithgareddau ochr yn ochr â’u plant. Mae staff yn darparu cymorth sensitif, wedi’i deilwra i anghenion unigol teuluoedd, gan sicrhau bod dysgu yn hygyrch i bawb. O ganlyniad i’r gwaith cryf hwn, mae teuluoedd yn ymgysylltu’n dda â’r ysgol ac mae presenoldeb disgyblion yn parhau i wella.