Troi gweledigaeth yn arfer – galluogi disgyblion i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.
Mae’r pennaeth yn darparu arweinyddiaeth dosturiol ac mae ganddo weledigaeth glir i ddisgyblion ddatblygu’n academaidd ac yn gymdeithasol, a gwneud gwahaniaeth yn y byd. Mae’n gweithio’n effeithiol gyda staff i sicrhau bod yr ysgol yn darparu ystod eang o gyfleoedd i ddisgyblion ddysgu a datblygu y tu hwnt i’w gwersi dyddiol. Mae hyn yn cynnwys clybiau ar ôl ysgol sy’n cael eu mynychu’n dda ac sy’n datblygu medrau chwaraeon, cerddorol a chymdeithasol disgyblion yn eithriadol o dda. Er enghraifft, caiff disgyblion gyfleoedd da i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon fel pêl-droed a phêl-rwyd, ac i gystadlu ar lefel sirol. Mae disgyblion hefyd yn elwa ar ymweliadau preswyl, teithiau i ardaloedd lleol ac ymweliadau gan ymwelwyr â’r ysgol. Mae hyn yn cyfoethogi dysgu disgyblion yn hynod effeithiol ac yn eu helpu i ystyried materion ehangach y tu hwnt i’r ysgol. Er enghraifft, mae gwaith diweddar gydag arbenigwr o Sw Caer wedi cefnogi astudiaeth disgyblion o rywogaethau sydd mewn perygl, fel orangwtaniaid. Mae hon yn nodwedd nodedig o’r ysgol.