Trefniadau llywodraethu clir ar gyfer cynhwysiant sy’n golygu bod y rhan fwyaf o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael eu haddysgu o fewn yr awdurdod lleol.
Ciplun
Mae’r awdurdod lleol wedi cryfhau trefniadau llywodraethu a goruchwylio ariannol lleoliadau y tu allan i’r sir drwy wella’r modd y mae’n olrhain lleoliadau, ei brosesau panel a’i drefniadau monitro cyllidebau. Mae hyn yn rhoi mwy o sicrwydd bod lleoliadau’n briodol a bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol, ac mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) bellach yn cael eu haddysgu o fewn yr awdurdod lleol. Mae hyn yn gryfder amlwg.