‘Tîm Heolddu’: Creu ysgol gydlynus ac effeithiol - Estyn

‘Tîm Heolddu’: Creu ysgol gydlynus ac effeithiol

Arfer effeithiol

Heolddu Comprehensive School

Disgybl ac oedolyn yn eistedd wrth fwrdd gyda gliniadur, yn siarad gyda’i gilydd mewn ystafell ddosbarth.

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Heolddu yn ysgol uwchradd 11-18 oed ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae gan yr ysgol boblogaeth o ryw 740 o ddisgyblion, ac mae 33% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol wedi profi cyfnod o dwf sylweddol yn niferoedd y disgyblion dros y 5 mlynedd ddiwethaf, gan arwain at gynnydd yn niferoedd y staff. Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn cynnwys y Pennaeth, y Dirprwy Bennaeth a thri Phennaeth Cynorthwyol. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol  

Mae’r ysgol wedi blaenoriaethu addysgu a dysgu o ansawdd uchel, cryfhau perthnasoedd a meithrin diwylliant ‘TîmHeolddu’ ysgol gyfan cydlynus i gynorthwyo disgyblion a staff, fel ei gilydd. Er mwyn cyflawni’r nodau hyn, nododd arweinwyr fod angen datblygu dealltwriaeth ar y cyd o werthoedd, gwella prosesau pontio neu gynefino ar gyfer staff a disgyblion newydd, ac maent wedi dyfeisio model hyfforddi ysgol gyfan arloesol ar gyfer dysgu proffesiynol a chydweithio. Cydnabu’r ysgol hefyd bwysigrwydd mynd i’r afael ag effaith tlodi a chryfhau cysylltiadau â theuluoedd a’r gymuned ehangach. 

Disgrifiad o’r strategaeth neu’r gweithgarwch 

Rhoddodd yr ysgol ddull amlweddog, wedi’i yrru gan werthoedd ar waith, yn canolbwyntio ar feithrin tîm cryf a chydlynus a gwella perthnasoedd ar draws cymuned yr ysgol. 

Mae datblygu set o werthoedd ar y cyd ‘TîmHeolddu’, wedi’i disgrifio’n glir, yn greiddiol i waith yr ysgol, a luniwyd ar y cyd â staff, disgyblion a rhanddeiliaid. Mae’r gwerthoedd hyn yn sail i bob agwedd ar fywyd ysgol, yn cynnwys disgwyliadau o ran ymddygiad, dulliau addysg, a phenderfyniadau am arweinyddiaeth. Mae pob aelod o’r tîm arweinyddiaeth yn ymgymryd â dysgu proffesiynol i ddatblygu ymwybyddiaeth o’u gwerthoedd personol eu hunain a sut mae’r rhain yn effeithio ar eu hymagwedd a’u gwaith. Mae deall y gwerthoedd ar y cyd ar draws y tîm yn galluogi cyfathrebu effeithiol ac agored, gan arwain at gydlyniant ac ymagwedd ddynamig at wneud penderfyniadau a gwella’r ysgol.  

I gefnogi cysondeb a pherthyn, ailgynlluniodd yr ysgol ei phrosesau cynefino ar gyfer staff a disgyblion, fel ei gilydd. Mae staff newydd yn elwa ar raglen ymsefydlu strwythuredig cyn dechrau cyflogaeth, sy’n cynnwys siarter ‘TîmHeolddu’ a disgwyliadau ar gyfer yr holl systemau ynghyd ag ymweliad â’r dalgylch lleol. Yn yr un modd, mae disgyblion yn cael proses gynefino wedi’i chynllunio’n ofalus sy’n pwysleisio meithrin perthynas, lles, ac eglurder disgwyliadau, a bod holl ddisgyblion Blwyddyn 6 yn symud i Heolddu ar ddiwedd tymor yr haf. Mae staff newydd hefyd yn ymuno â ‘ThîmHeolddu’ am y cyfnod pontio hwn, a phob un o’r disgyblion yn dilyn eu hamserlen am y flwyddyn academaidd sydd i ddod. Mae hyn yn lleihau gofid dros gyfnod gwyliau’r haf, gan alluogi cychwyn prydlon ac esmwyth bob mis Medi. 

I fynd i’r afael ag effaith tlodi, mae’r ysgol wedi rhoi strategaethau cymorth targedig ar waith, fel cyfle i gael gwisg ysgol a defnyddio dyfeisiau TG, clwb brecwast, a mentrau ymgysylltu â theuluoedd. Caiff y rhain eu hategu gan ymdrechion i feithrin ymdeimlad cryf o gymuned, sy’n cynnwys partneriaethau â sefydliadau ac elusennau lleol sy’n mynychu nosweithiau rhieni a digwyddiadau ymgysylltu eraill. Caiff disgyblion a’u teuluoedd eu deall yn dda gan staff, a darperir cymorth yn gyflym ac yn systematig ar gyfer teuluoedd sydd angen cymorth ychwanegol. Mae’r ysgol yn defnyddio ystod o ffactorau i nodi bregusrwydd ac yn monitro cynnydd, presenoldeb a lles ystod eang o grwpiau o ddisgyblion, gan gynnwys, er enghraifft y rhai sy’n ofalwyr ifanc a derbyniadau canol blwyddyn i Heolddu. Cynrychiolir pob grŵp bregus yn gymesur ar draws grwpiau llais y disgybl, yn cynnwys Senedd yr Ysgol, ac maent yn cael cyfle teg i gymryd rhan mewn profiadau ysgol ac allgyrsiol ehangach. 

Mae model hyfforddi cyfarwyddol yn sail i ddatblygiad proffesiynol ar draws yr ysgol. Mae arweinwyr a staff yn cymryd rhan mewn sgyrsiau rheolaidd, cynlluniedig am hyfforddi sy’n canolbwyntio ar fyfyrio, cydweithio a gwelliant parhaus. Mae hyfforddwyr yn yr ysgol yn cydweithio ar hyfforddiant addysgeg a medrau, gan ddarparu camau gweithredu cam wrth gam ymarferol, wedi’u seilio ar dystiolaeth i athrawon eu hymarfer gyda’u dosbarthiadau. Mae hyn yn helpu datblygu capasiti arwain ar bob lefel ac yn meithrin diwylliant o ymddiriedaeth a didwylledd gwell.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr? 

Mae ffocws yr ysgol ar werthoedd, perthnasoedd, a hyfforddi, wedi arwain at gysondeb gwell yn ymarferol ar draws adrannau. Dywed staff fod eglurder, hyder ac alinio cynyddol yn eu gwaith, sy’n cyfrannu at dîm mwy cydlynus ac effeithiol. O ganlyniad, mae ansawdd yr addysgu a’r dysgu wedi gwella a chryfhau. 

Mae prosesau cynefino gwell wedi cefnogi cyfnodau pontio mwy esmwyth ar gyfer staff a disgyblion, fel ei gilydd. Mae staff newydd yn integreiddio’n gyflymach ac yn teimlo’u bod yn cael cefnogaeth well, tra bod disgyblion yn dangos ymdeimlad cryf o berthyn ac ymgysylltu o’r cychwyn. 

Mae’r pwyslais ar werthoedd ar y cyd ac arfer berthynol wedi arwain at welliannau nodedig mewn ymddygiad, presenoldeb a lles disgyblion. Mae perthnasoedd rhwng staff a disgyblion yn gryfder arbennig, sy’n cyfrannu at amgylchedd dysgu cadarnhaol lle mae disgyblion yn teimlo’u bod yn cael eu parchu a’u cefnogi. 

Mae strategaethau i liniaru effaith tlodi wedi gwella tegwch mynediad at gyfleoedd dysgu a chyfoethogi. Caiff disgyblion o gefndiroedd difreintiedig eu cefnogi’n well i ymgysylltu’n llawn â bywyd yr ysgol, ac mae’r ysgol wedi cryfhau ei rôl fel hyb o fewn y gymuned. Mae deilliannau a phresenoldeb disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn nodwedd gref. Rhwng 2022-2023 a 2024-2025, bu gwelliant da yng nghyfraddau presenoldeb yr ysgol, yn cynnwys cyfraddau presenoldeb disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac mae uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol ac uwchlaw cyfraddau ysgolion tebyg. Mae absenoldeb parhaus yn sylweddol is nag ydyw mewn ysgolion tebyg, yn enwedig ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda? 

Mae’r ysgol wedi defnyddio dull rhagweithiol i rannu ei harfer ‘TîmHeolddu’ o fewn ei lleoliad ei hun, a thu hwnt. Yn fewnol, mae arweinwyr wedi sicrhau bod pob un o’r staff yn ymgysylltu â gwerthoedd, model hyfforddi a dulliau perthynol yr ysgol trwy sesiynau dysgu proffesiynol rheolaidd, amser cynllunio ar y cyd, a sgyrsiau hyfforddi. Mae hyn wedi cefnogi cysondeb ac wedi helpu ymgorffori’r arfer ar draws pob un o feysydd yr ysgol. 

Mae’r ysgol wedi gweithio’n agos gydag ysgolion cynradd partner i gefnogi pontio a rhannu strategaethau cynefino effeithiol ar gyfer disgyblion. Mae hyn wedi cynnwys digwyddiadau ar y cyd, rhannu adnoddau, a chyfleoedd i staff gydweithio ar ddulliau ar gyfer lles a meithrin perthnasoedd. 

Ar lefel ehangach, mae’r ysgol wedi cyfrannu at rwydweithiau lleol a rhanbarthol trwy rannu ei gwaith trwy gyfarfodydd clwstwr, partneriaethau proffesiynol, a chymorth rhwng ysgolion. Mae uwch arweinwyr ac arweinwyr canol wedi gwneud cyflwyniadau ac wedi cynnal ymweliadau ar gyfer cydweithwyr o ysgolion eraill i arsylwi arfer ar waith, yn enwedig yn gysylltiedig â hyfforddi, arweinyddiaeth wedi’i gyrru gan werthoedd, a strategaethau i fynd i’r afael ag effaith tlodi. 

Mae’r ysgol wedi ymgysylltu â chonsortia a rhaglenni dan arweiniad yr awdurdod lleol, hefyd, ac wedi cyfrannu astudiaethau achos ac adnoddau i gefnogi gwelliant system ehangach. Trwy’r gweithgareddau hyn, mae’r ysgol wedi cefnogi ymarferwyr eraill i addasu a gweithredu dulliau tebyg yn eu cyd-destunau eu hunain.