Tegwch yn y ddarpariaeth gwricwlaidd
Ciplun
Mae arweinwyr yn sicrhau darpariaeth gwricwlaidd gynhwysol a theg i bob disgybl, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn gallu mynychu’r prif safle. Mae’r disgyblion hyn yn elwa ar addysgu a dysgu ar-lein amser llawn a ddarperir yn fewnol gan staff yr UCD. Mae hyn yn sicrhau dull cyson ar gyfer y disgyblion hyn, gyda mynediad llawn at yr holl gymwysterau sydd ar gael, yn yr un modd â’u cyfoedion. Mae hyn yn gryfder sylweddol yn y ddarpariaeth.